Y pwynt dwi'n gwneud ydy nad yw'r Beibl yn condemnio'r rhan fwyaf o'r hawliau sifil mae pobl hoyw wedi eu hennill yn ystod y ddegawd diwethaf. Efallai bod y Beibl yn condemnio gweithgaredd rhywiol hoyw (rwy'n dweud 'efallai' gan nad ydy arbenigwyr yn gallu cytuno ystyron ymysg ei gilydd) ond hyd yn oed pe bai'r dehongliad traddodiadol yn gywir, nid yw Paul yn dweud na all plant gael eu magu gan gwpl o'r un rhyw. Cofia nad oes unrhywun ar wyneb y ddaear yn ddi-bechod.
Mewn gwirionedd, dim ond canran bychan iawn o blant fydd yn cael eu mabwysiadu gan gyplau hoyw. Y tegygolrwydd felly yw na fydd hyn ddim yn rhwystro rhieni rhag roi eu plant i fyny i gael eu mabwysiadu.