Pabyddion i gau'u hasiantaethau mabwysiadu!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Llun 29 Ion 2007 5:26 pm

felly dylwn ni gosbi pobl achos bod gweddill cymdeithas yn dwp. Gwych
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 30 Ion 2007 2:33 am

Horwth ap Ffrwchnedd a ddywedodd:Gwrthwynebu'r breintiau arbennig sydd gan grefyddwyr ydw i. O gadw o fewn terfynau'r gyfraith, dylen nhw fod â'r un hawliau fel unigolion â phawb arall, ond dim mwy.


Cytuno 100%, nid ydwyf yn disgwyl nac yn ymofyn braint uwchlaw dy fraint di.

Gwrywgydwyr sydd yn ymofyn braint.

Oherwydd y ffordd y maent yn dewis ymarfer eu rhyddid rhywiol maent yn credu eu bod uwchlaw beirniadaeth ac anghytundeb, a bod rhaid deddfu i dewi bob barn sydd yn anghytuno a'u dewis hwythau.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 30 Ion 2007 3:22 am

Barbarella a ddywedodd:Ond rwyt ti (a HRF) yn camddeall ystyr y gair rhagfarn. Mae'n fwy na jysd "cyn meddwl". Dyw'r ffaith bod ti di meddwl am y peth ddim yn golygu nad yw'n rhagfarnllyd.

Dyma ma 'ngeiriadur i'n dweud ydi "prejudice":

Oxford English Dictionary a ddywedodd:1 preconceived opinion that is not based on reason or experience. 2 unjust behaviour formed on such a basis.

(Fy mhwyslais i). Hynny yw, mae gan Gristnogion safbwynt "preconceived" (o'r Beibl) a does na ddim dadl rhesymegol i gefnogi'r safbwynt. Felly mae'n rhagfarnllyd.



I ddweud bod barn Rhys a finnau yn syrthio o fewn i ddiffiniad dau, mae'n rhaid derbyn bod ein barn yn formed on such a basis a diffiniad un - opinion that is not formed on reason OR experience (noder yr OR yn y dyfyniad cyn rhoi dy bwyslais di)

O dderbyn dy fod yn credu, yn anghywir, bod dadl wedi ei selio ar grefydd yn ddireswm, mae dy sylw yn awgrymu nad ydy Rhys na finnau wedi cael experience felly. Pa experience yr ydym yn brin ohoni yn dy farn di?

Gan fod Rhys a finnau wedi dyfod yn Gristionogion, mae gennym brofiad o'r byd heb Grist a phrofiad o'r byd efo Crist, sydd yn rhoi dewis o brofiadau i ni'n ddau selio ein barn arni - mwy o brofiad nag ambell i gyfrannydd i rai o'r seiadau.

Mae'r Beibl yn dweud mai peth drwg byddid i rywun dwyn fy ych, rwy'n cytuno'n llwyr a be mae'r Beibl yn dweud - barn wedi ei selio ar afresymoldeb yn ol dy weledigaeth di. Nid ydwyf, diolch byth, wedi cael y profiad o neb yn dwyn ych gennyf, a ydwyf felly, yn rhagfarnllyd yn erbyn lladron ych, o'u galw yn bobl ddrwg?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 30 Ion 2007 4:08 am

Macsen a ddywedodd: Mae dy ddadl di fel dweud 'mi fyddai'n iawn i rai llefydd wahaniaethu yn erbyn pobol dduon, mae yna ddigon o lefydd eraill allen nhw fynd wedi'r cwbwl, rhydd i bobol hiliol arddodi ei barn ar eraill'. Os ydi o'n anghywir, mae'n anghywir ymhobman.


Dim o gwbl, pa ddewis sydd i unigolyn sy'n cael ei eni'n ddu rhag bod yn ddu? Dim. Dyna pam bod amddiffyn pobl rhag annhegwch o herwydd lliw eu croen yn gyfiawn.

Mater o ddewis ydi ymddygiad rhywiol.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Horwth ap Ffrwchnedd » Maw 30 Ion 2007 9:02 am

Petai Mair a Joseff wedi mynd at asiantaeth fabwysiadu babyddol i gael babi yn hytrach nag aros am insemniad gan yr ysbryd glân, bydden nhw wedi cael eu gwrthod am nad oeddent yn briod. Rhyfedd 'te? :-)
Ydw i'n bovvered tho?
<a href="http://www.venganza.org"> <img></a>
Rhithffurf defnyddiwr
Horwth ap Ffrwchnedd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 138
Ymunwyd: Sul 16 Gor 2006 9:46 am

Postiogan Horwth ap Ffrwchnedd » Maw 30 Ion 2007 9:22 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:
Horwth ap Ffrwchnedd a ddywedodd:Gwrthwynebu'r breintiau arbennig sydd gan grefyddwyr ydw i. O gadw o fewn terfynau'r gyfraith, dylen nhw fod â'r un hawliau fel unigolion â phawb arall, ond dim mwy.


Cytuno 100%, nid ydwyf yn disgwyl nac yn ymofyn braint uwchlaw dy fraint di.

Gwrywgydwyr sydd yn ymofyn braint.

Oherwydd y ffordd y maent yn dewis ymarfer eu rhyddid rhywiol maent yn credu eu bod uwchlaw beirniadaeth ac anghytundeb, a bod rhaid deddfu i dewi bob barn sydd yn anghytuno a'u dewis hwythau.


Ond pa freintiau arbennig -sef breintiau nad oes gan bobl eraill - sydd gan bobl hoyw? Ydy'r frenhines yn gorfod bod yn lesbiad? Oes 26 o bobl hoyw yn eistedd yn Nhy'r Arglwyddi ar y sail eu bod yn bobl sy'n cael eu cydnabod fel Pobl Hoyw Swyddogol gan y wladwriaeth? Ydy'r wladwriaeth yn mynnu bod pob ysgol yn dysgu am gyfunrhywioldeb ac yn neilltuo amser i fyfyrio ynghylch gwryw- a benywgydiaeth? Ydy'r wladwriaeth yn rhoi arian i bobl hoyw redeg ysgolion gyda'r nod o addysgu'r plant hynny mewn ethos hoyw? Ydy awdurdodau lleol yn rhoi arian i asiantaethau mabwysiadu hoyw (oherwydd yn gwaith gwych maen nhw'n ei wneud gyda phlant anodd) ond yn caniatau iddyn nhw roi plant i gyplau hoyw yn unig?
Hyd y gwn i, yr unig hawliau sydd gen i fel dyn hoyw yw'r hawliau sydd gan bobl eraill, ac yn ddigon diweddar dw i wedi cael y rheini!
Fel dw i wedi dweud, dw i ddim am ddeddfu i dewi barn unrhyw un, cyn belled nad yw rhyddid ymadrodd yn cael ei gamarfer yn groes i hawliau pobl eraill. Petawn i ddim yn barod i dderbyn beirniadaeth nac anghytundeb fyddwn i ddim yn cyfrannu i'r Maes....
Crefyddwyr sy'n ei chael hi'n anodd i gydnabod nad yw pawb bellach yn fodlon plygu mewn ofn gerbron eu straeon tylwyth teg nhw...
Ydw i'n bovvered tho?
<a href="http://www.venganza.org"> <img></a>
Rhithffurf defnyddiwr
Horwth ap Ffrwchnedd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 138
Ymunwyd: Sul 16 Gor 2006 9:46 am

Postiogan Mr Gasyth » Maw 30 Ion 2007 9:55 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae'r Beibl yn dweud mai peth drwg byddid i rywun dwyn fy ych, rwy'n cytuno'n llwyr a be mae'r Beibl yn dweud - barn wedi ei selio ar afresymoldeb yn ol dy weledigaeth di. Nid ydwyf, diolch byth, wedi cael y profiad o neb yn dwyn ych gennyf, a ydwyf felly, yn rhagfarnllyd yn erbyn lladron ych, o'u galw yn bobl ddrwg?


Ond mae posib dod i'r casgliad fod dwyn ych yn anghywir mewn ffordd resymegol, h.y mae dwyn yn gwneud drwg i'r sawl y dygir ganddo ac yn effeithio ar ei hawl yn ol y gyfraith i eiddo. felly mae dwyn ych yn anghywir. Dim ond ar sail crefyddol neu ragfarn homoffobic y gellir dod i'r casgliad fod gwrwgydiaeth yn anghywir.

Hen Rech Flin a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:
Mae dy ddadl di fel dweud 'mi fyddai'n iawn i rai llefydd wahaniaethu yn erbyn pobol dduon, mae yna ddigon o lefydd eraill allen nhw fynd wedi'r cwbwl, rhydd i bobol hiliol arddodi ei barn ar eraill'. Os ydi o'n anghywir, mae'n anghywir ymhobman.



Dim o gwbl, pa ddewis sydd i unigolyn sy'n cael ei eni'n ddu rhag bod yn ddu? Dim. Dyna pam bod amddiffyn pobl rhag annhegwch o herwydd lliw eu croen yn gyfiawn.

Mater o ddewis ydi ymddygiad rhywiol.


Felly rwyt ti wedi dewis bod yn heterorywiol Rech? Wow. Doedd gen i am un ddim dewis yn y mater - dwi'n heterorywiol am fod fy nyheadau nwydus yn fy arwain at ferched a nid at ddynion. Yn yn un modd dwi'n ei chael hi'n anodd credu fod unrhyw wrwgydwir yn dewis cyhwaith. Wedi'r cyfan, o ystyried yr holl ragfarnau yn eu herbyn hyd yn oed wedi datblygiadau'r chwarter canrif ddiwethaf, pam fyddai unrhywun yn dewis bod yn hoyw?

Os wyt ti wir yn dweud i ti ddewis bod yn heterorywiol, yna ai am fod yn Beibl yn dweud ei fod yn anghywir y dewisiaist ti beidio bod yn hoyw?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Mr Gasyth » Maw 30 Ion 2007 4:48 pm

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dylan » Maw 30 Ion 2007 6:12 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Dim ond ar sail crefyddol neu ragfarn homoffobic


"neu" ?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Horwth ap Ffrwchnedd » Maw 30 Ion 2007 6:42 pm

Mae'r Beibl yn dweud mai peth drwg byddid i rywun dwyn fy ych, rwy'n cytuno'n llwyr a be mae'r Beibl yn dweud - barn wedi ei selio ar afresymoldeb yn ol dy weledigaeth di. Nid ydwyf, diolch byth, wedi cael y profiad o neb yn dwyn ych gennyf, a ydwyf felly, yn rhagfarnllyd yn erbyn lladron ych, o'u galw yn bobl ddrwg?


Dw i ddim yn gwybod faint ohonoch sy'n gyfarwydd â Llyfr y Machorah, sef "llyfr sanctaidd" y Balwtsniaid, ond yn Rhan IV.89, mae hanes am Edwm a Phlant Balwts. Roedd Edwm yn heliwr ac wrth hela iwrch un dydd fe ddaeth ef a'i fintai at Mishachaf, sef prif ddinas Plant Balwts. Er mwyn dilyn hynt yr iwrch bu'n rhaid i Edwm a'i fintai erfyn am fynediad i Mishachaf. Gan fod Plant Balwts yn rhoi gwerth ar roi croeso i ddieithriaid, rhoddodd y Brenin Gshic ganiatâd iddynt fynd i mewn i'r ddinas i ganlyn yr iwrch gan ychwanegu y câi Edwm a'i fintai dorri newyn a syched tra oeddent yn y ddinas. Ond dyn drwg oedd Edwm, a phenderfynodd ef a'i wyr wneud yn fawr o wahoddiad y Brenin Gshic. Anghofiasant am yr iwrch a threulio blwyddyn a diwrnod yn bwyta holl fwyd Plant Balwts, yfed eu holl ddiod, gorwedd gyda'u merched a'u meibion, a gwneud llanastr yn gyffredinol. Cochyn, yn ôl cred y Balwtsniaid, oedd Edwm, a byth oddi ar y dyddiau hynny, mae'r Balwtsniaid yn ymgroesi rhag pobl â gwallt coch. Wnân nhw ddim priodi cochion, bwyta gyda nhw, byw gyda nhw, nac ymwneud dim â hwy canys aflan ydynt (yn eu barn hwy). Caiff plant bach gwallt coch eu rhoi ar ben mynydd ar gyfer yr eryrod ar ôl eu geni. Mae Balwtsniaid rhyddfrydol/hereticaidd yn dadlau mai cangyfieithiad o'r gair Siwmachi "lelwbna" (dyn gwallt coch) sy'n gyfrifol am y syniad mai cochyn oedd Edwm, ac y dylid darllen "lelubna", sef "hael ei ysbryd", ac mai dod â'r bwyd a diod a gweddill yr hwyl i'r ddinas a wnaeth Edwm. Mae'r Balwtsniaid Radicalaidd yn brwydro nid yn unig yn erbyn cochion yn gyffedinol ond hefyd yn erbyn unhryw beth coch ac maen nhw'n gwneud "cyrchoedd cannaid" (h.y. towlu bleach ar bobl a phethe coch) er mwyn puro'r byd yn rheolaidd.
Ydw i'n bovvered tho?
<a href="http://www.venganza.org"> <img></a>
Rhithffurf defnyddiwr
Horwth ap Ffrwchnedd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 138
Ymunwyd: Sul 16 Gor 2006 9:46 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai

cron