Tudalen 1 o 33

Pabyddion i gau'u hasiantaethau mabwysiadu!

PostioPostiwyd: Mer 24 Ion 2007 6:40 pm
gan Horwth ap Ffrwchnedd
Grêt! Gobeithio y bydd y crefyddau eraill yn dilyn, ac yna bydd gobaith na fydd plant bach diymgeledd ddim yn cael eu cartrefu gyda bigots crefyddol! Cau'r asiantathau gyntaf, yna'r eglwysi, a chyn bo hir byddwn yn rhydd o'r pla crefyddol!!!

PostioPostiwyd: Mer 24 Ion 2007 6:47 pm
gan Dylan
trist iawn feri chwerthinllyd

alla' i ddim coelio pa mor hurt mae hyn i gyd wedi bod

hen ffycin bryd i ni stopio rhoi rhagfarnau crefyddol ar rhyw fath o bedestol uwchlaw rhagfarnau eraill. Rhagfarn ydi rhagfarn ydi rhagfarn. Twll eu tinau.

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 3:04 am
gan Hen Rech Flin
Difyr yw'r defnydd a wneir o'r gair Rhagfarn.

Rhag Farn yw gwneud penderfyniad am bwnc heb ystyried holl ddadleuon yr achos. Mae'r un yn wir am y gair Lladin-Saesneg Prejudice pre(cynt) judice (barn).

Drwg y rhan fwyaf o bobl sy'n cyhuddo eraill o ragfarn yw eu bod nhw yn rhagfarnllyd eu hunain yn eu rhagfarnu o eraill - gweler y ddau gyfraniad uchod er enghraifft - ymosodiadau ciaidd ar yr Eglwys Gatholig Rufeinig heb geisio deall, a heb eisio deall, pam bod yr Eglwys wedi dod i'w penderfyniad.

Rhagfarn gwrth Gatholig pur yw'r uchod. Be fyddai'r ymateb ar y Maes pe bai'r un rhagfarn wedi dod gan Unoliaethwr o Ulster, yn hytrach na Chymry Cymraeg tybed?

Nid ydwyf yn aelod o'r Eglwys Gatholig Rufeinig, nid ydwyf yn cytuno a'u casgliadau - ond yr wyf yn amddiffyn, hyd yr eithaf, eu rhyddid a'u hawl dynol i ddod i'r casgliadau y maent wedi dod iddynt ar ôl dwys ystyriaeth. Oherwydd os ydynt wedi dod i'r casgliad yna (waeth pa mor wrthun ydyw i fi) nid rhagfarn mohoni, ond barn. Ac mae eu rhyddid i fynegi barn yr wyf yn anghytuno ag ef cyn bwysiced â fy hawl i fynegi barn ystyrlon, ond nid rhagfarnllyd, yn eu herbyn hwythau.

Mae yna rai, nid ydwyf yn eu mysg, am greu deddf sydd am erlyn pobl am ragfarn grefyddol. Pe byddai'r fath deddf eisoes mewn grym be fyddai'r oblygiadau cyfreithiol i awduron y negeseuon uchod, tybed?

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 9:56 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Ond yw'n hyfryd bod yr holl grefyddau'n gallu dod ynghyd fel hyn i fynegi'u hatgasedd afresymol?

Cydweithio rhyng-grefyddol? (iei!)

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 12:11 pm
gan Rhys Llwyd
Am Gristion Uniongred dwi yn reit addefgarn tuag at Wrwgydiaeth. Fodd bynnag, dwi ddim yn meddwl fod hawl gan y Wladwriaeth ymyryd a'r Eglwys fwy nad ydych chi, seciwlarwyr am i'r Eglwys ymyryd a'r Wladwriaeth.

Plwraliaeth ydy'r ffordd ymlaen fan hyn. Os nad ydych chi'n hapus a safbwynt asianteithau Catholig yna ewch at un seciwlar.

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 12:57 pm
gan Mr Gasyth
Rhys Llwyd a ddywedodd:Am Gristion Uniongred dwi yn reit addefgarn tuag at Wrwgydiaeth. Fodd bynnag, dwi ddim yn meddwl fod hawl gan y Wladwriaeth ymyryd a'r Eglwys fwy nad ydych chi, seciwlarwyr am i'r Eglwys ymyryd a'r Wladwriaeth.


Ma hwnne'n ddeud rhyfeddol Rhys. Pam ddylai eglwysi fod yn wahanol i unrhyw fudiad neu sefydliad arall sydd yn gorfod cadw at y gyfraith - gan gynnwys cyfreithiau cyfle cyfartal?

O ran diffiniad yr Hen Rech o ragfarn, digon teg. Ond nid atal Cristnogion rhag arddel barn wahaniaethol (discriminatory) mae'r gyfraith yma, ond eu hatel rhag ei gweithredu mewn mater o bolisi cyhoeddus fel ag ydyw mabwysiadu.

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 1:50 pm
gan Rhys Llwyd
Mr Gasyth a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Am Gristion Uniongred dwi yn reit addefgarn tuag at Wrwgydiaeth. Fodd bynnag, dwi ddim yn meddwl fod hawl gan y Wladwriaeth ymyryd a'r Eglwys fwy nad ydych chi, seciwlarwyr am i'r Eglwys ymyryd a'r Wladwriaeth.


Ma hwnne'n ddeud rhyfeddol Rhys. Pam ddylai eglwysi fod yn wahanol i unrhyw fudiad neu sefydliad arall sydd yn gorfod cadw at y gyfraith - gan gynnwys cyfreithiau cyfle cyfartal?


Dwi'n dallt sut wyt ti'n gweld hi felly fel anffyddiwr. Ond i'r Cristion rhaid chdi ddeall mae nid jest unrhyw sefydliad arall ydy'r Eglwys ond mae'n un o ordinhadau Duw.

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 2:58 pm
gan Darth Sgonsan
Rhys Llwyd a ddywedodd:Am Gristion Uniongred dwi yn reit addefgarn tuag at Wrwgydiaeth.


bedi addefgarn?

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 3:42 pm
gan Rhys Llwyd
Darth Sgonsan a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Am Gristion Uniongred dwi yn reit addefgarn tuag at Wrwgydiaeth.


bedi addefgarn?


sori, oddefgar

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 3:52 pm
gan Mr Gasyth
Rhys Llwyd a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Am Gristion Uniongred dwi yn reit addefgarn tuag at Wrwgydiaeth. Fodd bynnag, dwi ddim yn meddwl fod hawl gan y Wladwriaeth ymyryd a'r Eglwys fwy nad ydych chi, seciwlarwyr am i'r Eglwys ymyryd a'r Wladwriaeth.


Ma hwnne'n ddeud rhyfeddol Rhys. Pam ddylai eglwysi fod yn wahanol i unrhyw fudiad neu sefydliad arall sydd yn gorfod cadw at y gyfraith - gan gynnwys cyfreithiau cyfle cyfartal?


Dwi'n dallt sut wyt ti'n gweld hi felly fel anffyddiwr. Ond i'r Cristion rhaid chdi ddeall mae nid jest unrhyw sefydliad arall ydy'r Eglwys ond mae'n un o ordinhadau Duw.


Digon teg, ond mae awgrymu y dylid seilio cyfraith gwlad ar hynny yn wallgo a gyda oblygiadau di-ben-draw. Faint o bobl sydd ei angen i gredu fod sefydliad penodol yn 'ordeiniad Duw' cyn iddo gael ei eithrio o dan y gyfraith? Un? Deg? Cant? Mil? Can mil?