rooney a ddywedodd:rooney a ddywedodd:fedri di ddiffinio moesoldeb i ni? neu yw ni fod gwneud fyny ein moseoldeb ein hunain?
Mae moesoldeb pawb yn wahanol ac yn dod o nifer o lefydd gwahanol. Ma'n dod o foesoldeb y gymdeithas ti'n byw ynddo, ma'n dod o dy brofiadau personnol di, ma'n dod o dy rieni, ma'n dod o dy athrawon, dyddia yma ma lot yn dod o selebs ac yndi, man dod o grefydd. Cymysgfa o bob math o brofiada a gwersi gwahanol ydi moesoldeb person. Mi ddudai eto, mi gymerodd ysgrifennwyr y beibl ei moesoldeb o'r holl lefydd yma a'i roi yn y beibl. Ar y pryd mi oedd yr holl afiachbetha resdrish i gynt yn dderbynniol a felly yn rhan oi moesau nhw. Rwan fod y fath betha yn cael ei gweld yn anfoesol, da ni fod i'w diystyru nhw yn y beibl a consyntreiddio ar y darna sydd dal i gyd fynd an moesoldebau modern ni.
Newydd weld hwn. Dwi wedi darllen llawer o nonsens ar y maes heno ond fel dywed y sais this takes the biscuit. Llongyfarchiadau.
Rooney, ti yn joc llwyr. Pan ma pobl erill yn rhoi dadleuon o dy flaen di ti yn trio ei rybisho nhw'n llwyr heb unrhyw esboniad. Tion llawn o rwts am "allu dehongli y beibl". Ma'r beibl yn glir iawn yn be mae o'n ei ddweud. Pam wti'n barod i gredu Genesis air am air, ond eto'n barod i sgipio y darna sydd yn gwneud dim sens bellach?
Parod iawn fydde ti i gyhuddo cwltiaid eithafol am eu dehongliad o'r ysgrythurau... ond ti'n dehongli'r ysgrythurau yr un mor wallus. Ac ar bwrpas.
Dwi'n dehongli dim yn fana. Yr unig beth wnesi oedd copio darnau o'r beibl
air am air. Deutha fi, gan dy fod di mor wych am ddehongli, os nad ydi hyn yn golygu "dylsa dyn syn cal afer efor ddynas drws nesa gael ei ladd", be mae o YN olygu?
The man who commits adultery with his neighbour's wife will be put to death, he and the woman.