Cwlcymro, newydd ddarllen dy rant anaeddfed a dy "ddehongliad" o'r ysgrythurau.
Yn syml, dwyt ti ddim yn gwybod dy feibl o gwbl. Wyt ti eisiau deall y Beibl? Rwy'n siwr gallai llawer ar y maes roi cymorth i ti o ran dehongli, cymorth ti wirioneddol angen. Gyrra neges breifat neu cychwyna drafodaeth os ti eisiau dysgu.
Parod iawn fydde ti i gyhuddo cwltiaid eithafol am eu dehongliad o'r ysgrythurau... ond ti'n dehongli'r ysgrythurau yr un mor wallus. Ac ar bwrpas.
Yr ail bwyunt ydi fod Cristnogion, fel chdi Rooney, yn mynnu mae'r prawf eithaf o wirionedd pethau ydi'r ffaith fod y Beibl yn dweud. Be ma nhw'n neud ddo ydi "cherry-pickio" darnau o'r beibl sy'n dweud be ma nhw isho iddo fo ddweud, gan anwybyddu darnau fel yr uchod.
Ddim o gwbl, ddim fi beth bynnag. Mae'n wir fod rhai Cristnogion hefo siswrn, ond dyw nhw just ddim yn deall eu ysgrythurau mae gen i ofn.