Pabyddion i gau'u hasiantaethau mabwysiadu!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mr Gasyth » Sad 16 Meh 2007 8:25 am

rooney a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:Mae moesoldeb pawb yn wahanol ac yn dod o nifer o lefydd gwahanol. Ma'n dod o foesoldeb y gymdeithas ti'n byw ynddo, ma'n dod o dy brofiadau personnol di, ma'n dod o dy rieni, ma'n dod o dy athrawon, dyddia yma ma lot yn dod o selebs ac yndi, man dod o grefydd. Cymysgfa o bob math o brofiada a gwersi gwahanol ydi moesoldeb person.


Yw moesoldeb un person yr un mor ddilys a moesoldeb person arall?

Pam na wnei di ddarllen sylwebyddion ynglyn a'r adnodau sydd yn dy boeni? Dos i google a teipia fewn "Bible commentary".


Gan dy fo ti'n gwybod gymaint, be am i ti eu esbonio nhw i ni dy hun. Ti sy'n credu ynddyn nhw, felly be am i ti egluro dy gred?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan rooney » Sad 16 Meh 2007 9:21 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Gan dy fo ti'n gwybod gymaint, be am i ti eu esbonio nhw i ni dy hun. Ti sy'n credu ynddyn nhw, felly be am i ti egluro dy gred?


A chroeso, gwnaf fy ngorau. Ynglyn a Lefiticus: http://en.wikipedia.org/wiki/Leviticus
http://en.wikipedia.org/wiki/Old_Testam ... of_the_Law

Fy neallusrwydd yw fod deddfau moesol Lefiticus dal yn sefyll i Gristnogion.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Jon Bon Jela » Sad 16 Meh 2007 9:56 am

Dear Dr. Laura,

Thank you for doing so much to educate people regarding God's Law. I have learned a great deal from your show, and I try to share that knowledge with as many people as I can. When someone tries to defend the homosexual lifestyle, for example, I simply remind him that Leviticus 18:22 clearly states it to be an abomination. End of debate.

I do need some advice from you, however, regarding some of the specific laws and how to best follow them.

a) When I burn a bull on the altar as a sacrifice, I know it creates a pleasing odor for the Lord (Lev 1:9). The problem is my neighbors. They claim the odor is not pleasing to them. Should I smite them?

b) I would like to sell my daughter into slavery, as sanctioned in Exodus 21:7. In this day and age, what do you think would be a fair price for her?

c) I know that I am allowed no contact with a woman while she is in her period of menstrual uncleanliness (Lev 15:19-24). The problem is, how do I tell? I have tried asking, but most women take offense.

d) Lev. 25:44 states that I may indeed possess slaves, both male and female, provided they are purchased from neighboring nations. A friend of mine claims that this applies to Mexicans, but not Canadians. Can you clarify? Why can't I own Canadians?

e) I have a neighbor who insists on working on the Sabbath. Exodus 35:2 clearly states he should be put to death. Am I morally obligated to kill him myself?

f) A friend of mine feels that even though eating shellfish is an Abomination (Lev 11:10), it is a lesser abomination than homosexuality. I don't agree. Can you settle this?

g) Lev 21:20 states that I may not approach the altar of God if I have a defect in my sight. I have to admit that I wear reading glasses. Does my vision have to be 20/20, or is there some wiggle room here?

h) Most of my male friends get their hair trimmed, including the hair around their temples, even though this is expressly forbidden by Lev 19:27. How should they die?

i) I know from Lev 11:6-8 that touching the skin of a dead pig makes me unclean, but may I still play football if I wear gloves?

j) My uncle has a farm. He violates Lev 19:19 by planting two different crops in the same field, as does his wife by wearing garments made of two different kinds of thread (cotton/polyester blend). He also tends to curse and blaspheme a lot. Is it really necessary that we go to all the trouble of getting the whole town together to stone them? (Lev 24:10-16) Couldn't we just burn them to death at a private family affair like we do with people who sleep with their in-laws? (Lev. 20:14)

I know you have studied these things extensively, so I am confident you can help.

Thank you again for reminding us that God's word is eternal and unchanging.

Your devoted disciple and adoring fan.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan rooney » Sad 16 Meh 2007 10:03 am

Pwrpas y cwestiynau yma yw fod gofynion deddfau Duw trwy Moses yn edrych yn rhyfedd trwy lygaid y ganrif hon, ac felly fod edrych i'r Beibl fel sail moesol yn rhyfedd. Mae'r cwestiynau yn dymchwel gan fod nhw ddim yn gwahaniaethu rhwng y deddfau moesol sydd dal mewn grym, a'r deddfau seremonial a cyfiawnder sydd wedi pasio ers aberth Iesu.

Atebion i gwestiynau Dr Laura

http://www.christianvoice.org.uk/laura.html
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Cwlcymro » Sad 16 Meh 2007 11:55 am

Atebion diddorol iawn yn fana rooney. echod nad ydy nhw'n cydfynd a cyfieithiad gweddill cristnogaeth o'r beibl

Q. Leviticus 25:44 states that I may buy slaves from the nations that are around us. A friend of mine claims that this applies to the French but not to the Scots. Can you clarify? Why can't I own Scottish people?
A. It doesn't actually say slaves, it says 'bondmen and bondmaids'


Bible Gateway a ddywedodd:44 " 'Your male and female slaves are to come from the nations around you; from them you may buy slaves. 45 You may also buy some of the temporary residents living among you and members of their clans born in your country, and they will become your property. 46 You can will them to your children as inherited property and can make them slaves for life, but you must not rule over your fellow Israelites ruthlessly.


Hefyd mae'r atebion hyn....

Q.I have a neighbour who insists on working on the Sabbath. Exodus 35:2 clearly states he should be put to death. Am I morally obliged to kill him myself or may I arrange for our vicar to do it?
A. ...Report your neighbour to the police, support your allegation with two witnesses, and see if the police can find a law against what your neighbour is doing. They won't. This country doesn't do a day of rest in any form any more.


Q. My friend tends to curse and blaspheme a lot. Is it really necessary that we go to all the trouble of getting the whole town together to stone him as commanded in Leviticus 24:10-16 ?

A. Yes, because it is all a matter of due process. You are a bit for taking the law into your own hands, aren't you? Does your friend actually curse the Name of God like the man in Leviticus did? Anyway, next you must find a judge and jury who will convict him. Unless


Q. Couldn't we just burn them to death at a private family affair like we do with people who sleep with their in-laws (Leviticus 20:14)?

A. You don't half have a vicious streak. Once again, in God's design for mankind, the State has the responsibility for the judicial death penalty, not the family. God's law does not allow people to put members of their own family to death.


yn gwneud ein pwynt ni drosto ni, hynny yw nad yw rhai o foesoldebau'r beibl yn gwneud unrhyw synnwyr yn y byd modern. Felly pam fod Cristnogion yn mynny fod moesoldebau'r beibl yn holl-bwysig (gwrth-hoywon etc) tra ei bod nhwn barod i sgipio drost y rhan fwyaf?


Yw moesoldeb un person yr un mor ddilys a moesoldeb person arall?

Peth subjective iawn ydi moesoldeb. Mi fyswn i yn dweud mae fy moesoldeb i yw'r un cywir, mi fysa chdi'n dweud mae dy un di ydio. Fel bron pob peth subjective arall yn anffodus, gair y mwyafrif sy'n cael ei glywed. Ym Mhrydain mae moesoldeb y mwyafrif yn wahanol iawn i foesoldeb mwyafrif Saudia Arabia. Mi ydwi ddigon parod i roi fy marn ar ei moesoldeb nhw, ac ma nhwtha ddigon parod i roi ei barn ar fy moesoldeb inna. Dydi dy foesoldeb di ddim gwell na fy moesoldeb i am ei fod o'n dod or beibl. Dyna holl ystyr subjective, pawb ai'r farn fel petai.
Golygwyd diwethaf gan Cwlcymro ar Sad 16 Meh 2007 12:21 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Barbarella » Sad 16 Meh 2007 12:12 pm

You are a bit for taking the law into your own hands, aren't you?


Da iawn Rooney, rwyt ti newydd brofi dy hun yn anghywir, ac efo prawf Cristnogol hefyd!

Mae nifer o'r ymatebion yna i lythyr Dr Laura yn dweud, yn syml, "dydi hyn ddim yn ddilys ragor, oherwydd mae yn erbyn cyfraith gwlad".

Ac mae cyfraith gwlad Prydain nawr yn dweud na chei di wahaniaethu yn erbyn pobl hoyw. Mae'r wefan yna (a ti, dwi'n cymryd) yn cydnabod bod cyfraith gwlad yn drech na hen reolau'r Beibl. Felly, yn dilyn y rhesymeg yna, rhaid i ni nawr diystyrru'r darnau gwrth-hoyw o'r Beibl.

QED. :-)
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan rooney » Sad 16 Meh 2007 12:51 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Peth subjective iawn ydi moesoldeb. Mi fyswn i yn dweud mae fy moesoldeb i yw'r un cywir, mi fysa chdi'n dweud mae dy un di ydio.


Cytunaf fod moesoldeb yn beth 'subjective'. Dyma pam ni angen safon, safonau moesoldeb absoliwt i'n angori. Y safon sy'n uwch na pob safon arall yw safonau moesol y Beibl. Fedra i ddim cyrraedd safonau'r Beibl, yn wir yr wyf wedi methu llawer gwaith ac mae'n debyg fy mod am gario mlaen i fethu, er fy mod yn trio yn galed i gadw'r safonau. Ac felly, nid gwthio fy safonau moesol personol ydw i ar bobl eraill, ond yn hytrach, dweud mae safonau moesoldeb uchel y Beibl yw'r safon i bawb ei ddilyn. Petae e.e. y deg gorchymun yn cael eu cadw byddai ein cymdeithas gymaint mwy pleserus i bawb.

Fel bron pob peth subjective arall yn anffodus, gair y mwyafrif sy'n cael ei glywed. Ym Mhrydain mae moesoldeb y mwyafrif yn wahanol iawn i foesoldeb mwyafrif Saudia Arabia. Mi ydwi ddigon parod i roi fy marn ar ei moesoldeb nhw, ac ma nhwtha ddigon parod i roi ei barn ar fy moesoldeb inna.


Teyrnas yw'r nefoedd, ddim democratiaeth. Does dim newid ar foesau Teyrnas y Nefoedd. Does dim pleidlais fedri di gynnal i newid yr ysgrythurau.

Dydi dy foesoldeb di ddim gwell na fy moesoldeb i am ei fod o'n dod or beibl. Dyna holl ystyr subjective, pawb ai'r farn fel petai.


Mae moesoldeb absoliwt y Beibl yn trumpio moesoldeb gymharol sydd yn cael ei gynnig gan y byd seciwlar.

Dwed wrtha i - wyt ti'n meddwl fod moesau un person yr un mor ddilys a moesau person arall? Pwy sydd fod penderfynnu moesau- yr unigolyn?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Cwlcymro » Sad 16 Meh 2007 5:08 pm

rooney a ddywedodd:Cytunaf fod moesoldeb yn beth 'subjective'. Dyma pam ni angen safon, safonau moesoldeb absoliwt i'n angori. Y safon sy'n uwch na pob safon arall yw safonau moesol y Beibl. Fedra i ddim cyrraedd safonau'r Beibl, yn wir yr wyf wedi methu llawer gwaith ac mae'n debyg fy mod am gario mlaen i fethu, er fy mod yn trio yn galed i gadw'r safonau. Ac felly, nid gwthio fy safonau moesol personol ydw i ar bobl eraill, ond yn hytrach, dweud mae safonau moesoldeb uchel y Beibl yw'r safon i bawb ei ddilyn. Petae e.e. y deg gorchymun yn cael eu cadw byddai ein cymdeithas gymaint mwy pleserus i bawb.


Ti'n son am ddau beth gwahanol yn fama. Mae dy foesau di a be wti actyli'n neud yn hollol wahanol. Ma'n maesau i yn deud wrthai na ddylwni ddeud petha cas am bobl tu ol i'w cefnau nhw, dwi dal yn neud weithia ddo. Dwi'n meddwl fod fy moesau i yn berffaith, ond dwi ddim yn disgwyl i bawb gadw atu nhw achos dwi fy hun methu cadw atu nhw.

Teyrnas yw'r nefoedd, ddim democratiaeth. Does dim newid ar foesau Teyrnas y Nefoedd. Does dim pleidlais fedri di gynnal i newid yr ysgrythurau.

Dydi'r pararaff yma yn golygu dim byd o gwbwl. Gan sgipio dros y ffaith nad oesna ffasiwn beth a'r Nefoedd (lle mae o?) son oni, fel atab i dy gwestiwn di, am y gwahaniaeth rhwng moesoldeb pobl fel unigolion, sydd yn wahanol i bawb, a maesoldeb cymdeithas sy'n wahanol o gymdeithas i gymdeithas.

Mae moesoldeb absoliwt y Beibl yn trumpio moesoldeb gymharol sydd yn cael ei gynnig gan y byd seciwlar.

Yn dy farn di. Yn fy marn i mae fy moesoldeb i lawer gwell na moesoldeb y beibl. Dyna ystyr subjective.

Dwed wrtha i - wyt ti'n meddwl fod moesau un person yr un mor ddilys a moesau person arall? Pwy sydd fod penderfynnu moesau- yr unigolyn?

Dwi newydd blydi atab hwn!

Cwlcymro a ddywedodd:
Rooney a ddywedodd:
Yw moesoldeb un person yr un mor ddilys a moesoldeb person arall?


Peth subjective iawn ydi moesoldeb. Mi fyswn i yn dweud mae fy moesoldeb i yw'r un cywir, mi fysa chdi'n dweud mae dy un di ydio. Fel bron pob peth subjective arall yn anffodus, gair y mwyafrif sy'n cael ei glywed. Ym Mhrydain mae moesoldeb y mwyafrif yn wahanol iawn i foesoldeb mwyafrif Saudia Arabia. Mi ydwi ddigon parod i roi fy marn ar ei moesoldeb nhw, ac ma nhwtha ddigon parod i roi ei barn ar fy moesoldeb inna. Dydi dy foesoldeb di ddim gwell na fy moesoldeb i am ei fod o'n dod or beibl. Dyna holl ystyr subjective, pawb ai'r farn fel petai.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sad 16 Meh 2007 5:16 pm

Dwed wrtha i - wyt ti'n meddwl fod moesau un person yr un mor ddilys a moesau person arall? Pwy sydd fod penderfynnu moesau- yr unigolyn?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Cwlcymro » Sad 16 Meh 2007 7:09 pm

rooney a ddywedodd:Dwed wrtha i - wyt ti'n meddwl fod moesau un person yr un mor ddilys a moesau person arall? Pwy sydd fod penderfynnu moesau- yr unigolyn?


Mae pawb yn penderfynnu ar ei moesau ei hunain yndi. Dwi'n sdryglo i weld sud all un person ddweud fod ei foesoldeb o yn "well" na phawb arall. Ond mae pobl (gan gyfri fi) YN gwneud hyn, a'r ffordd mae nhw yn ei wneud o ydi drwy gymharu moesoldeb personol riwun i foesoldeb y gymdeithas mae nhw yn byw ynddo fo. Mae llawer o gyfreithiau ein gwlad wedi dod allan o "foesoldeb cymdeithas". Y peth pwysig ydi fod moesoldeb y gymdeithas yn newid ag esblydu wrth i'r oes newid. Dydi moesau heddiw ddim byd tebyg i foesau 10,100,500 o flynyddoedd yn ol. Mae'r beibl hefyd yn cynnwys set o foesoldebau, ac mae rhai pobl, fel y chdi, yn dewis dilyn darnau o'r moesoldebau hynnu fel ei moesoldebau personnol.

Felly i atab dy gwestiwn ma'n rhaid i fi ddeud yndi a nadi. Tra dwi'n meddwl fod fy moesoldeb i yn well na moesoldeb pawb arall (yn amlwg, os swn in meddwl fod moesoldeb rhiwun arall yn well, yna dyna fysa fy moesoldeb inna hefyd). Ond gan fod pob person ar y byd yn teimlo yr un fath ma'n dangos ma peth hollol subjective ydio. Felly drwy edrych arni fel yna, mae moesoldeb pob unigolyn yn gyfartal.

Ond ma cymdeithas yn mabiwsiadu moesoldeb cyffredinol drwy rym y mwyafrif, a mae moesoldeb personnol sydd yn mynd yn erbyn y graen hwnnw (fel person sy'n meddwl fod lladd genod bach yn iawn, neu fel pobl sydd yn hapus i ddiscrimieiddio yn erbyn hoywon) yn mynd i gael ei barnu.

Dwi'n gweld dy fod di wedi sgipio drost bwynt Barbarella a fi fod dy atebion di i gwestiyna Laura yn gwneud ein pwynt ni drosto ni ac yn dangos methiant y beibl i roi moesoldeb sydd o unrhyw iws yn y byd modern. Mae'r rheswm am hynnu yn amlwg. Mae'r beibl wedi ei ysgrifennu ar foesoldeb yr unigolion ai ysgrifennod ar gymdeithas yr oeddynt yn byw ynddo. Mae'r oes wedi newid, a gydag o moesoldeb cymdeithas.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron