Pabyddion i gau'u hasiantaethau mabwysiadu!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan rooney » Sad 11 Awst 2007 11:30 am

Boibrychan a ddywedodd:Gan fod pawb arall yn gorfod dilyn y rheol a does dim optio allan jest achos fod dy gasineb a barn mochedd yn dod dan fanner grefyddol,


barn mochedd yr wyt ti'n ei fynegi yma, barn anoddefgar "intolerant" tuag at bobl sydd gyda ffydd. Cyn i ti ymosod ar grefyddau cofia mae atheists wedi mwrdro mwy yn yr 20ed ganrif na neb arall ar ol gaddo yr "iwtopias"

Be di'r ots pwy sy'n magu'r plentyn os mae nhw'n addfwyn a chariadus a sefydlog!


mae'r asiantaethau catholig hefo criteria llwyddianus a fe fydd nhw'n cau lawr oherwydd, nid fod ti'n becso dam am oblygiadau hynny i'r plant, "be di'r ots" ie?
Golygwyd diwethaf gan rooney ar Sad 11 Awst 2007 12:12 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Sad 11 Awst 2007 11:34 am

ceribethlem a ddywedodd:Fel rhywun sydd wedi astudio gradd yn geneteg a biocemeg, ac ar fin cychwyn Masters, bydde diddordeb gyda fi i wybod sut wyt ti'n gallu profi'r dywediad yma, yn arbennig o gofio bod gwyddonwyr yn ffeindio mwy a mwy o enynnau yn rheolaidd, ac fod nifer o'r rheini yn rheoli agweddau o bersonoliaeth.
Diolch


ti eisiau i mi "prove a negative"?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Boibrychan » Sad 11 Awst 2007 12:38 pm

rooney a ddywedodd:barn mochedd yr wyt ti'n ei fynegi yma, barn anoddefgar "intolerant" tuag at bobl sydd gyda ffydd. Cyn i ti ymosod ar grefyddau cofia mae atheists wedi mwrdro mwy yn yr 20ed ganrif na neb arall ar ol gaddo yr "iwtopias"



Dwi'n ymosod ar bobl homophobic a sy'n byw yn y cannol oesoedd, dim crefydd. Pan o'n i'n gristion dysgais i beidio barnu pobl on dwi'n cymryd mai yr ongl "fire and brimstone" oedd/yw dy un di? Dwi'n gweld dy sylwadau di'n angristion. Ond eto dwy ti ddim am gefnogi dy frodyr addfwyn blaw ei barnu am fod yn rhy llym!

Diflas Rooney da ni am fynd dros yr hen dir? Bla bla Natsiaid bla Stalin bla bla Croesgad bl bla y Chwylis (inquisistion?)! :rolio:

rooney a ddywedodd:mae'r asiantaethau catholig hefo criteria llwyddianus a fe fydd nhw'n cau lawr oherwydd, nid fod ti'n becso dam am oblygiadau hynny i'r plant, "be di'r ots" ie?


Yr eglwys gatholig fydd ar fai, cer i gwyno iddyn nhw, nhw sydd ddim am ddilyn rheolai'r wlad. PR uffernol iddyn nhw unwaith eto styfnig a hynafol. Mae'r rheol yn hollol deg pawb arall yn gorfod ei ddilyn fel ddwedes i dim esgusodion jest achos mai crefydd y grwp dan sylw sy'n esgus am ei homophobia!
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan rooney » Sad 11 Awst 2007 11:52 pm

Boibrychan a ddywedodd:Dwi'n ymosod ar bobl homophobic a sy'n byw yn y cannol oesoedd, dim crefydd.


hobi rhyfedd, mae nhw i gyd wedi marw erbyn rwan

Pan o'n i'n gristion dysgais i beidio barnu pobl on dwi'n cymryd mai yr ongl "fire and brimstone" oedd/yw dy un di? Dwi'n gweld dy sylwadau di'n angristion. Ond eto dwy ti ddim am gefnogi dy frodyr addfwyn blaw ei barnu am fod yn rhy llym!


mwy o spin
paid poeni am Gristnogion ac os yw nhw'n "barnu" neu ddim. Duw fydd yn gwneud y barnu ac mae'r criteria wedi ei egluro i ni yn y Beibl. Ddylai fod dim o'i le yn pwyntio allan lle mae'r Beibl yn sefyll ar bethau ond yn anffodus mae'r gwleidyddol gywir yn anoddefgar os nad yw hynny yn ffitio mewn gyda eu dogma hwy

Diflas Rooney da ni am fynd dros yr hen dir? Bla bla Natsiaid bla Stalin bla bla Croesgad bl bla y Chwylis (inquisistion?)! :rolio:


am ryw reswm mae'r atheists yn gaddo iwtopia ond y realiti yw llofruddio ar raddfa mwy nac erioed o'r blaen, gan nhw methu goddef pobl sy'n anghytuno. Pam? Neu yw hi'n ok "dethol"?

Yr eglwys gatholig fydd ar fai, cer i gwyno iddyn nhw, nhw sydd ddim am ddilyn rheolai'r wlad. PR uffernol iddyn nhw unwaith eto styfnig a hynafol. Mae'r rheol yn hollol deg pawb arall yn gorfod ei ddilyn fel ddwedes i dim esgusodion jest achos mai crefydd y grwp dan sylw sy'n esgus am ei homophobia!


Nope, dim problem PR mae llawer yn parchu yr Eglwys Gatholig am sefyll fyny dros beth sy'n iawn.

Am ryw reswm yr wyt yn rhoi "hawliau" hoywon cyn hawliau plant. Pam? Beth sydd gen ti yn erbyn plant?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Boibrychan » Sul 12 Awst 2007 12:05 pm

rooney a ddywedodd:
Boibrychan a ddywedodd:Dwi'n ymosod ar bobl homophobic a sy'n byw yn y cannol oesoedd, dim crefydd.


hobi rhyfedd, mae nhw i gyd wedi marw erbyn rwan


Na mi wyt ti yn destament fod na ddigonedd dal o gwmpas! :lol:


rooney a ddywedodd:Am ryw reswm yr wyt yn rhoi "hawliau" hoywon cyn hawliau plant. Pam? Beth sydd gen ti yn erbyn plant?


Pa wyt ti'n gweld cwpwl yr un rhyw fel rhywbeth sy'n mynd i niweidio'r plentyn, mae na ddigon o famau a thadau sengl yn gwneud job digon da o godi plant, sdim angen y fam a'r tad yn neulltiol!

Ond eto mi wyt ti'n ffan o'r Daily Biggott felly dwi'n dyfalu fydd gen ti rhywbeth yn erbyn rhieni sengl hefyd? I ddweud y gwir unrhyw bobl sydd yn magu plant allan o briodas neu heb ddefnyddio'r beibl fel llawlyfr ar gyfer hwn! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan rooney » Sul 12 Awst 2007 2:41 pm

rooney a ddywedodd:Am ryw reswm yr wyt yn rhoi "hawliau" hoywon cyn hawliau plant. Pam? Beth sydd gen ti yn erbyn plant?


lle mae'r ateb, Boibrychan?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Boibrychan » Sul 12 Awst 2007 4:34 pm

rooney a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:Am ryw reswm yr wyt yn rhoi "hawliau" hoywon cyn hawliau plant. Pam? Beth sydd gen ti yn erbyn plant?


lle mae'r ateb, Boibrychan?


Ti'n ddall yn ogystal ac afiach?

Dw ddim yn gweld rhoi plant gyda cyplau un rhyw yn rhywbeth yn erbyn ei hawliau felly dydw i ddim yn rhoi hawliau hoywon cyn plant felly yra teb yw does gen i ddim byd yn erbyn plant. Ond yn groes i ti dim byd yn erbyn hoywon chwaith!
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan rooney » Sul 12 Awst 2007 5:50 pm

Boibrychan a ddywedodd:Dw ddim yn gweld rhoi plant gyda cyplau un rhyw yn rhywbeth yn erbyn ei hawliau felly dydw i ddim yn rhoi hawliau hoywon cyn plant felly yra teb yw does gen i ddim byd yn erbyn plant. Ond yn groes i ti dim byd yn erbyn hoywon chwaith!


felly ti'n meddwl fod o'n OK gwadu plentyn yn systematic rhag cael unai mam neu tad

nid yw y fath deulu yn un naturiol. Mae cwpl priod a rhieni sengl yn sefyllfaoedd naturiol. Bydde ti'n hoff o roi plant felly mewn cartref annaturiol. Ac felly, mae hawliau naturiol plant yn cael eu trumpio gan dy ddymuniad i hoywon gael hawliau annaturiol artiffisial.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Pryderi » Maw 14 Awst 2007 10:31 am

Roony,

Rwyt ti'n cyfeirio at y Beibl fel y sail i benderfynu beth sy'n bechod.

Pa adnodau yn y Beibl sydd yn dweud na all pobl hoyw ddim gwasanaethu yn y fyddin, neu enwebu rhywun o'r un rhyw fel next of kin, neu adrodd am droseddau homoffobaidd i'r heddlu heb ofn sarhad? Ymhle mae'r Beibl yn dweud ei fod hi'n bechod i blant cael eu dwyn i fyny gan ddau riant o'r un rhyw sydd wedi mynd drwy'r broses drylwyr o fabwysiadu? A beth yw'r pechod o gael amddiffyniad deddf sydd yn atal rhagfarn i wasanaethau na swyddi ar sail rhwyioldeb?

Nid 'pechodau' yw'r buddugoliaethau mae pobl hoyw wedi eu hennill dros y blynyddoedd ond hawliau sylfaenol mae pobl sydd ddim yn hoyw yn eu cymryd yn ganiataol.

Os fydd asiantaethau mabwysiadu Pabyddol yn cau, ar bwy fydd y bai - pobl hoyw neu'r asiantaethau am gael agwedd mor gul?
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Postiogan rooney » Gwe 17 Awst 2007 9:41 pm

Pryderi a ddywedodd:Rwyt ti'n cyfeirio at y Beibl fel y sail i benderfynu beth sy'n bechod.


ydw, mae'r "pechod" rydw i'n gyfeirio ato wedi ei ddiffinio gan air Duw nid gan ddyn a nid gen ti na fi.

Pa adnodau yn y Beibl sydd yn dweud na all pobl hoyw ddim gwasanaethu yn y fyddin, neu enwebu rhywun o'r un rhyw fel next of kin, neu adrodd am droseddau homoffobaidd i'r heddlu heb ofn sarhad? Ymhle mae'r Beibl yn dweud ei fod hi'n bechod i blant cael eu dwyn i fyny gan ddau riant o'r un rhyw sydd wedi mynd drwy'r broses drylwyr o fabwysiadu? A beth yw'r pechod o gael amddiffyniad deddf sydd yn atal rhagfarn i wasanaethau na swyddi ar sail rhwyioldeb?

Nid 'pechodau' yw'r buddugoliaethau mae pobl hoyw wedi eu hennill dros y blynyddoedd ond hawliau sylfaenol mae pobl sydd ddim yn hoyw yn eu cymryd yn ganiataol.


Oes pwrpas trafod hyn ymhellach? Rwyf i'n cytuno a moesau y Beibl, yr wyt ti'n cytuno gyda moesau y byd/seciwlar (beth bynnag yw'r rheiny, pwy bynnag sydd yn eu llunio).

Os fydd asiantaethau mabwysiadu Pabyddol yn cau, ar bwy fydd y bai - pobl hoyw neu'r asiantaethau am gael agwedd mor gul?


Mae disgwyl i'r pabyddion roi plant at gartrefi hoyw yr un mor hurt a disgwyl iddyn nhw roi plant at gartrefi hindw, mwslim ayyb. mae'n groes i'w cred. Mae nhw'n bodoli i roi plant, sydd wedi bod trwy brofiadau anodd iawn, at deuluoedd addas Pabyddol h.y. cwpl priod (h.y. dyn a dynes) Pabyddol. Mae nhw'n gwneud gwaith ardderchog, yn rhoi cartrefi da iawn i'r plant.

Mae asiantaethau eraill yn rhoi plant i gwplau hoyw fel mae hi. Pam gorfodi'r Pabyddion i wneud hyn yn erbyn eu cred? Biti fod eu cred a'u gwaith nhw ddim yn cael ei barchu gan y ffasgwyr gwleidyddol gywir.

Y pobl gwleidyddol gywir sydd ddim yn parchu eu cred nhw sydd yn gyfrifol am eu gorfodi i roi'r gorau iddi. Peate nhw wedi rhoi exemption i'r asiantaethau ffydd fyddai dim problem.

Mae'n ormod o risg i nhw gario mlaen i weithredu fel mae nhw'n groes i'r ddeddf newydd gan fydda nhw'n darged gan ymgyrchwyr y lobi hoyw er mwyn dod ac achosion hostile costus yn erbyn yr Eglwys Babyddol.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron