Pabyddion i gau'u hasiantaethau mabwysiadu!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan rooney » Sad 09 Meh 2007 1:19 am

Cwlcymro a ddywedodd: Yn gyntaf ma'r holl syniad o'r Beibl yn rhoi moesoldeb i bobl a chymdeithas yn hollol anghywir. Yr unig beth mae'r eglwys yn ei wneud ydi pigo'r darnau o'r beibl sy'n cydfynd a moesoldeb cymdeithas (gan fwyaf y deg gorchymun) gan anwybyddu gweddill "foesoldeb" y beibl. Hynny yw, Cristnogaeth sy'n dilyn moesoldeb Cymdeithas, nid ffordd arall rownd.


Newydd weld hwn. Dwi wedi darllen llawer o nonsens ar y maes heno ond fel dywed y sais this takes the biscuit. Llongyfarchiadau.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Sad 09 Meh 2007 1:24 am

Boibrychan a ddywedodd:Mae'r llawer yna rwyt ti'n son am ( y twyllwyr, celwyddgwn, a.y.y.b.) yn gristnogion hefyd!


:rolio: wel wrth gwrs fod nhw, mae pob cristion yn cydnabod eu bod yn bechadur ac angen achubiaeth. Oedd ti ddim yn gwybod hynny?

Y ffordd ore o oroesi mewn cymdeithas yw peidio a digio pobl trwy ladd pobl a twyllo, h.y i fod yn foesol!


fedri di ddiffinio moesoldeb i ni? neu yw ni fod gwneud fyny ein moseoldeb ein hunain?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Chris Castle » Llun 11 Meh 2007 10:14 am

fedri di ddiffinio moesoldeb i ni? neu yw ni fod gwneud fyny ein moseoldeb ein hunain?

beth am beidio a thrin eraill mewn modd nad ydych yn hapus cael eich trin?

yn ol y feibl mae brechdanau bacwn yn bechod enfawr afiach hefyd cofiwch
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Positif80 » Llun 11 Meh 2007 10:43 am

ceribethlem a ddywedodd: Nonsens. mae rhywun yn Gristion am iddynt addoli Iesu Grist, a chredu yn nysgeidiaeth Iesu Grist.


Ydi Iesu Grist yn Dduw a'r Beibl yn air Duw? Os felly, rhaid ddilyn rheolau'r ddau Testament.

If fynd yn ol at y ddadl, dwi'm yn hollol gytun hefo hoywon yn mabwysiadu. Efalla mae hangover o'r brainwashing ges i o'r enedigaeth tan o'n i'n 15 ydi o.

Mae fy nghasineb tuag at yr eglwys yn lliwio dy nadl, ond sut eilli di gymeryd barn y Pab o ddifri pan mae o wir yn credu fod bara a gwin yn gallu troi'n gorff rywun bu farw 2000 o flynyddoedd yn ol - yn enwedig pa mae o wedyn yn bwyta beth mae o'n ei feddwl yw corff marw?
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan ceribethlem » Llun 11 Meh 2007 11:44 am

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Nonsens. mae rhywun yn Gristion am iddynt addoli Iesu Grist, a chredu yn nysgeidiaeth Iesu Grist.


Mae'r Beibl yn cynnwys y Testament hen a'r newydd, nid dim ond y newydd.
Ac yn aml mae cyferbyniad negeseuon yr Hen Destament a'r Testament Newydd yn rhagrithiol.
Meddai'r Hen Destamnent "Llygad am lygad, dant am ddant". Roedd Iesu yn dweud "Car dy gymydog fel ti dy hun". Mi fyddai'r mwyafrif helaeth o Gristnogion yn dilyn neges heddychlon Iesu Grist yn hytrach na'r syniad treisgar yn yr Hen Destament.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Boibrychan » Llun 11 Meh 2007 4:07 pm

Rooney a ddywedodd:Ddim o gwbl, ddim fi beth bynnag. Mae'n wir fod rhai Cristnogion hefo siswrn, ond dyw nhw just ddim yn deall eu ysgrythurau mae gen i ofn.


Wir dduw ti yn hen dwat afiach! Oleiaf ti'n gyson dyw cristnogion sydd ddim yn dilyn yn union fel yr rwyt ti'n gwneud, fewn amdani gen ti hefyd! Bron cymaint a'r "aethiests" rwyt ti'n son am gyda'r fath ddicter a gwenwyn fel bod y pla arnyn nhw neu rhywbeth!

Ti angen medal os wyt ti wedi medru dehongli y fath nonsens sy'n gwrthddweud gymaint! Sut lwyddest di weithio allan mai joc yw'r holl siarad am ladd babanod o aberthu'ch plant eich hunain! O'n i wedi'w gymryd yn lythrenol!

Aros funud os does gen ti ddim siswrn ti yn cymryd y darn yna'n lythrenol, a'r holl feibl felly?

Rooney a ddywedodd:fedri di ddiffinio moesoldeb i ni? neu yw ni fod gwneud fyny ein moseoldeb ein hunain?


Peryglus, dyna pam rwyt ti mor ffroenuchel ti wirioneddol yn credu doedd dim moesoldeb cyn y deg gorchymun! Ti wirioneddol yn credu taw cristogaeth oedd y crefydd cyntaf! Wel dwi'n meddwl bod hi'n naturiol i beidio lladd dy gyd ddyn a.y.y.b. ond yr unig beth sy'n stopio ti rhag mynd yn "postal" ydy bod rhyw dabled o garreg yn dweud wrtha ti beidio!
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan rooney » Gwe 15 Meh 2007 10:54 pm

Bobl, rhaid dysgu sut i ddehongli'r Beibl yn gywir, a rhoi'r adnodau yn eu cyd-destun. Darllenwch y sylwebyddion.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Gwe 15 Meh 2007 10:56 pm

rooney a ddywedodd:fedri di ddiffinio moesoldeb i ni? neu yw ni fod gwneud fyny ein moseoldeb ein hunain?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Cwlcymro » Sad 16 Meh 2007 12:12 am

rooney a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:fedri di ddiffinio moesoldeb i ni? neu yw ni fod gwneud fyny ein moseoldeb ein hunain?


Mae moesoldeb pawb yn wahanol ac yn dod o nifer o lefydd gwahanol. Ma'n dod o foesoldeb y gymdeithas ti'n byw ynddo, ma'n dod o dy brofiadau personnol di, ma'n dod o dy rieni, ma'n dod o dy athrawon, dyddia yma ma lot yn dod o selebs ac yndi, man dod o grefydd. Cymysgfa o bob math o brofiada a gwersi gwahanol ydi moesoldeb person. Mi ddudai eto, mi gymerodd ysgrifennwyr y beibl ei moesoldeb o'r holl lefydd yma a'i roi yn y beibl. Ar y pryd mi oedd yr holl afiachbetha resdrish i gynt yn dderbynniol a felly yn rhan oi moesau nhw. Rwan fod y fath betha yn cael ei gweld yn anfoesol, da ni fod i'w diystyru nhw yn y beibl a consyntreiddio ar y darna sydd dal i gyd fynd an moesoldebau modern ni.

Newydd weld hwn. Dwi wedi darllen llawer o nonsens ar y maes heno ond fel dywed y sais this takes the biscuit. Llongyfarchiadau.

Rooney, ti yn joc llwyr. Pan ma pobl erill yn rhoi dadleuon o dy flaen di ti yn trio ei rybisho nhw'n llwyr heb unrhyw esboniad. Tion llawn o rwts am "allu dehongli y beibl". Ma'r beibl yn glir iawn yn be mae o'n ei ddweud. Pam wti'n barod i gredu Genesis air am air, ond eto'n barod i sgipio y darna sydd yn gwneud dim sens bellach?

Parod iawn fydde ti i gyhuddo cwltiaid eithafol am eu dehongliad o'r ysgrythurau... ond ti'n dehongli'r ysgrythurau yr un mor wallus. Ac ar bwrpas.

Dwi'n dehongli dim yn fana. Yr unig beth wnesi oedd copio darnau o'r beibl air am air. Deutha fi, gan dy fod di mor wych am ddehongli, os nad ydi hyn yn golygu "dylsa dyn syn cal afer efor ddynas drws nesa gael ei ladd", be mae o YN olygu?

The man who commits adultery with his neighbour's wife will be put to death, he and the woman.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sad 16 Meh 2007 8:11 am

Cwlcymro a ddywedodd:Mae moesoldeb pawb yn wahanol ac yn dod o nifer o lefydd gwahanol. Ma'n dod o foesoldeb y gymdeithas ti'n byw ynddo, ma'n dod o dy brofiadau personnol di, ma'n dod o dy rieni, ma'n dod o dy athrawon, dyddia yma ma lot yn dod o selebs ac yndi, man dod o grefydd. Cymysgfa o bob math o brofiada a gwersi gwahanol ydi moesoldeb person.


Yw moesoldeb un person yr un mor ddilys a moesoldeb person arall?

Pam na wnei di ddarllen sylwebyddion ynglyn a'r adnodau sydd yn dy boeni? Dos i google a teipia fewn "Bible commentary".
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 28 gwestai

cron