Pabyddion i gau'u hasiantaethau mabwysiadu!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan nicdafis » Sad 27 Ion 2007 9:29 am

Doedd Mr G ddim yn neud unrhyw cymhariaeth rhwng babis bach Cristnogol purion a chig brwnt ych y fi yr Arab, felly paid ti rhoi geiriau yn ei geg. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan rooney » Sad 27 Ion 2007 3:48 pm

Dylan a ddywedodd:hen ffycin bryd i ni stopio rhoi rhagfarnau crefyddol ar rhyw fath o bedestol uwchlaw rhagfarnau eraill. Rhagfarn ydi rhagfarn ydi rhagfarn. Twll eu tinau.


Ie, dwi'n siwr byddai'r byd yma'n le lot gwell i fyw ynddo os yw gwleidyddion yn penderfynu beth ddylai moesau pobl fod. (sarcasm)

Actiwali, beth am adael i wleidyddion benderfynu popeth dros y bobl. Dwi'n siwr fyddai hynny'n nefoedd ar y ddaear. (sarcasm)
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Horwth ap Ffrwchnedd » Sad 27 Ion 2007 4:34 pm

Difyr yw'r defnydd a wneir o'r gair Rhagfarn.

Rhag Farn yw gwneud penderfyniad am bwnc heb ystyried holl ddadleuon yr achos. Mae'r un yn wir am y gair Lladin-Saesneg Prejudice pre(cynt) judice (barn).


Diolch am y nodyn geirdarddiadol, ond byddwn i'n diffinio rhagfarn fel barn a ffurfir cyn ystyried yr holl dystiolaeth, yn hytrach na'r dadleuon. Ac wrth gwrs, does gan grefyddwyr (yn babyddion, unoliaethwyr, moslemiaid, hindwiaid, jainiaid, efengylwyr, pastaffariaid etc) ddim diddordeb mewn tystiolaeth, achos canolbwynt eu credoau yw ffydd sydd yn ei hanfod yn golygu credu yn rhywbeth heb dystiolaeth fod y peth hwnnw'n bod.

Felly, dw i'n gwrthwynebu'n chwyrn unrhyw ymdrech gan grefyddwyr ac ideolegwyr di-reswm eraill i reoli fy mywyd i ar sail eu hofergoelion nhw ac mae'n hen bryd i bobl gallio a phedio â pharchu syniadau gwallgof di-sail y crefyddwyr hyn a thalu unrhyw sylw mwy na byddem yn talu i golofn sêr Russell Grant wrth lunio polisi cyhoeddus.

O'm rhan i caiff pobl gredu bod yr Wyddfa'n gaws, ond unwaith dechreuan nhw ddweud eu bod am labyddio pawb sy'n bwyta caws am fod hynny'n gyfystyr â duwladdiad, ac yn mynd ati i gynnal croesgad yn erbyn cawsfwytawyr, dw i am gloi'r blydi lot mewn carchar am oes, a fyddwn i byth yn ystyried rhoi plant dan eu gofal!

Does dim hawl i gamwahaniaethu.
Ydw i'n bovvered tho?
<a href="http://www.venganza.org"> <img></a>
Rhithffurf defnyddiwr
Horwth ap Ffrwchnedd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 138
Ymunwyd: Sul 16 Gor 2006 9:46 am

Postiogan Mr Gasyth » Sad 27 Ion 2007 7:26 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Am gymhariaeth ffiaidd!

Megis dweud mae blas ar gig yw babi Gatholig i wrywgydiwr.

Sylw ffiaidd am Babyddion a Gwrywgydwyr.

Ych a fi!


Mae'r ffaith nad wyt yn gwneud unrhyw ymgais i'w darnio yn awgrymu i mi ei bod yn dal dwr. Rhys Llwyd wnaeth y gymhariaeth, y cwbl wnes i oedd ei pherffeithio :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Sad 27 Ion 2007 9:46 pm

Ydi'r Cristnogion hefyd yn dadlau y dylai'r eglwys fod yn esempt o reolau'r wlad ynglyn a caethwasanaeth, neu labyddio? Mae'r Beibl yn cymeradwyo nifer o bethau sydd erbyn hyn yn cael eu gwahardd gan y gyfraith am nad oes gennyn nhw yn amlwg ddim lle mewn cymdeithas fodern. Does gan neb feirniadaeth sy'n dal dwr yn erbyn plant yn cael eu magu gan gwplau gwrwgydiol (tu hwnt i 'mae'n dweud hynahyn yn y Beibl) a wela'i ddim sut bod perthynas rywiol y rhieni am effeithio'r plentyn - mae hynny i gyd, gobeithio, yn digwydd tu ol i ddrysau cau ymhell o olwg unrhyw blant!

Hyd y gwyddai'r plentyn does dim fath beth a rhyw, a stork sydd yn cario plant i mewn i'r byd. Erbyn fod y plentyn yn ddigon hen i ddeall beth yw rhyw fydd o'n ddigon hen i fedru datblygu ei farn ei hun yn ei gylch o - does dim tystiolaeth bod rhyioldeb y gwarcheidwad yn effeithio ar rywioldeb y plentyn (neu fyddai pobol hoyw ddim yn bodoli mae'n debyg).
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Horwth ap Ffrwchnedd » Sad 27 Ion 2007 11:05 pm

Cofiwch hefyd bod cristnogion yn Ne Affrica (yr eglwysi 'diwygiedig' Afrikaans yn bennaf) wedi cyfiawnhau apartheid ar sail dadleuon beiblaidd. Dyma oedd ffynhonnell ideolegol apartheid. Os yw hi'n iawn i fudiadau crefyddol yn wlad hon apelio at 'gydwybod' er mwyn amddiffyn camwahaniaethu yn erbyn pobl hoyw, oedd hi'n iawn i gristnogion De Affrica amddiffyn a chynnal apartheid ar sail cydwybod? Y gwir yw bod modd coblo cyfiawnhad at ei gilydd dros bron pob math o gamwahaniaethu ar sail detholiad o ddarnau o'r beibl, ac mae hyn wedi digwydd ac mae'n parhau i ddigwydd ar draws y byd.
Ydw i'n bovvered tho?
<a href="http://www.venganza.org"> <img></a>
Rhithffurf defnyddiwr
Horwth ap Ffrwchnedd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 138
Ymunwyd: Sul 16 Gor 2006 9:46 am

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 28 Ion 2007 6:12 am

Wrth gwrs dy fod yn gywir. Nid mater o darddiad barn sydd yn bwysig. Dydy'r ffaith bod fy marn wedi ei selio ar y Beibl, y Koran, neu waddol y dail te ar waelod y gwpan ddim yn ei wneud yn farn well neu waeth na unrhyw farn arall. Yn sicr nid ydyw yn gwneud yn farn na chei di mo'i wrthwynebu na phrotestio yn ei herbyn.

Mae croeso i ti anghytuno a fy marn, mae croeso iti ddweud fy mod yn ffŵl, yn hurt yn goc oen, oherwydd fy marn ac oherwydd y gwerthoedd neu'r diffyg gwerthoedd y mae'r farn yna wedi ei selio arni. Yr hyn sydd yn wrthun imi yw'r awgrym nad oes gennyf y rhyddid barn i fod yn goc oen ffôl a hurt.

Drwg y gwrywgydwyr milwriaethus, a'r ffwndamentalwyr seciwlar sydd yn eu cefnogi, yw eu bod yn dweud nad oes hawl gennyf i gael barn, na mynegi barn, sydd yn anghytuno a’u barn sanctaidd hwythau. I ddweud y gwir mae eu hymddygiad yn ddigon tebyg i ymddygiad y Jesiwitiaid yn Ewrop y Canol Oesoedd.

Dydy'r Eglwys Gatholig Rufeinig ddim yn dweud nad oes hawl i wrywgydwyr mabwysiadu plant. Yr hyn y maent yn dweud yw nad ydynt am wasanaethu'r alwad yna gyda'r 4% o'r plant y maent yn gyfrifol am drefnu mabwysiad ar eu cyfer - plant sydd wedi eu rhoi yn eu gofal gyda'r bwriad o sicrhau eu bod yn cael eu magu yn ôl y drefn Gatholig. Mae croeso i wrywgydwyr mynd i'r asiantaethau sydd yn gyfrifol am y 96% arall o blant yn y drefn mabwysiadu - a phob hwyl iddynt.

Y gwirionedd yw mai'r syniad bod hyd yn oed 4% yn cael osgoi eu barn awdurdodol caeth yn gwneud i'r ffwndamentalwyr seciwlar tagu hyd at chwydu, oherwydd eu bod yn bobl sydd yn gwrthwynebu pob rhyddid, ond eu rhyddid hwythau.

Nid dadl am wrywgydiaeth, nid dadl am fabwysiadu, nid dadl am grefydd yw'r ddadl yma ond dadl am hawl sylfaenol i ryddid barn. Ac mae pawb sydd yn cefnogi rhyddid barn yn ddechrau trwy gydnabod hawl pobl eraill i goleddu barn sydd yn wrthun iddynt hwy. Rhywbeth, mae'n ymddangos, na all pobl theophobic mo'u gwneud.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Horwth ap Ffrwchnedd » Sul 28 Ion 2007 9:13 am

Dw i'n cytuno gyda'r syniad o ryddid barn ac yn gyffredinol gyda'r syniad o ryddid ymadrodd, o safbwynt cyfreithiol. Hynny yw, fyddwn i ddim am ddeddfu yn erbyn coledddu unrhyw farn er mor hurt, gwrthun neu ddychrynllyd fo'r farn. Yn un peth, hyd yn oed petai'n ddymunol gwneud hynny, byddai'n amhosibl plismona'r fath beth.
Wrth symud o ryddid barn i ryddid ymadrodd, yn naturiol mae 'na wahaniaeth achos mae mynegiant yn weithred a all effeithio er da neu er drwg ar eraill, ac mae'n iawn, yn fy marn i, bod y wladwriaeth yn cyfyngu ar yr hyn y mae'n bosibl yn ôl y gyfraith inni ddweud yn gyhoeddus. Chaf i ddim sefyll ynghanol Caerdyddd a gweiddi: 'Lladdwch y basdads du 'na, ma nhw'n llygru'r hil Gymreig!'. Drwy fy ngeiriau, byddwn yn annog trosedd ddifrifol yn erbyn grwp o bobl. Dyw rhyddid ymadrodd ddim yn hawl absoliwt, fel mae Erthygl 10 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn egluro.http://www.opsi.gov.uk/ACTS/acts1998/80042--d.htm#sch1
Mae'n iawn hefyd bod yna gyfyngiadau ar weithredu yn unol â meddwl, cydwybod a chrefydd. Pwy yn ei iawn bwyll fyddai'n dadlau dros ollwg pob cyhuddiad yn erbyn bomiwyr y tiwb yn Llundain ar y sail eu bod ond yn dilyn eu crefydd (sef rhyfela yn erbyn yr anghredinwyr ar sail y Corân). Unwaith eto, mae'r Confensiwn yn delio â hyn (Erthygl 9). Does dim hawl absoliwt i weithredu yn ôl crefydd. Mewn gwladwriaeth seciwlar, mae hyd yn oed crefyddwyr yn ddarostyngedig i'r gyfraith.
Wrth gwrs, mae gan grefyddwyr fel unrhyw garfan arall o gymdeithas, yr hawl i bwyso ar wleidyddion i droi cymdeithas yn gymdeithas sy'n unol â'u credoau nhw - dyna yw democratiaeth - ond, a dyma sy'n gwylltio seciwlarwyr ffwndamentelaidd a gwrywgydwyr milwriaethus fel fi ;-), ddylen nhw ddim disgwyl i'w syniadau nhw, sy'n seiliedig ar ddim mwy na mythau ac ofergoeledd, gario mwy o bwysau na syniadau pobl eraill s'n dwyn tystiolaeth safadwy i'r ddadl.
Mae hollol abswrd bod gan grefydd o hyd le ffurfiol yn y wladwriaeth hon, gydag esgobion a chrefyddwyr eraill yn hawlio lle yn y Senedd, ar y sail eu bod yn grefyddwyr, bod yna eglwysi 'sefydledig' yn Lloegr a'r Alban, bod pennaeth y wladwriaeth hefyd yn ben yr eglwysi hyn, bod arian y trethdalwyr yn talu cyflogau athrawon i ddysgu'r mythau ac ofergeledd hyn i blant (o bawb!) mewn ysgolion crefyddol, bod crefydd yn gorfod cael ei ddysgu ym mhob ysgol, a bod cabledd yn erbyn rhai crefyddau yn drosedd. Rhowch 'train spotters' yn lle 'crefyddwyr', ac fe welwch mor wallgof yw'r sefyllfa.
Gwrthwynebu'r breintiau arbennig sydd gan grefyddwyr ydw i. O gadw o fewn terfynau'r gyfraith, dylen nhw fod â'r un hawliau fel unigolion â phawb arall, ond dim mwy.
Felly, er bod hawl gyfreithiol gan babyddion ac anglicanwyr (a chrefyddwyr eraill swir o fod) i geisio dylanwadu ar y llywodraeth, dw i'n cwestiynu safiad moesol sy'n dweud y byddai'n well ganddynt beidio â helpu unrhyw blentyn a chau'r asiantaethau i lawr na bod yn rhwym o gynnig cyfle i gwpl hoyw fabwysiadu plentyn. Yma gwelwn beth sy'n wir bwysig i'r crefyddwyr. Lles plant? Yntau dogma?
Ydw i'n bovvered tho?
<a href="http://www.venganza.org"> <img></a>
Rhithffurf defnyddiwr
Horwth ap Ffrwchnedd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 138
Ymunwyd: Sul 16 Gor 2006 9:46 am

Postiogan Macsen » Sul 28 Ion 2007 12:38 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Y gwirionedd yw mai'r syniad bod hyd yn oed 4% yn cael osgoi eu barn awdurdodol caeth yn gwneud i'r ffwndamentalwyr seciwlar tagu hyd at chwydu, oherwydd eu bod yn bobl sydd yn gwrthwynebu pob rhyddid, ond eu rhyddid hwythau.

Mae'n rhaid cael gwared ar homoffobia yn gyfan gwbwl, am ei fod o, fel hiliaeth, yn beth llechwraidd iawn. Pe bai'r wladwriaeth yn rhoi cymal mewn cyfraith sy'n gadael i ran o'r wlad barhau i fod yn homoffobic mi fyddai'n rhoi ei gymeradwyaeth i rywbeth sydd a dim lle o gwbwl mewn cymdeithas fodern, ac yn annog pobol homoffobic eraill. Mae dy ddadl di fel dweud 'mi fyddai'n iawn i rai llefydd wahaniaethu yn erbyn pobol dduon, mae yna ddigon o lefydd eraill allen nhw fynd wedi'r cwbwl, rhydd i bobol hiliol arddodi ei barn ar eraill'. Os ydi o'n anghywir, mae'n anghywir ymhobman.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dylan » Sul 28 Ion 2007 9:35 pm

rooney a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:hen ffycin bryd i ni stopio rhoi rhagfarnau crefyddol ar rhyw fath o bedestol uwchlaw rhagfarnau eraill. Rhagfarn ydi rhagfarn ydi rhagfarn. Twll eu tinau.


Ie, dwi'n siwr byddai'r byd yma'n le lot gwell i fyw ynddo os yw gwleidyddion yn penderfynu beth ddylai moesau pobl fod. (sarcasm)

Actiwali, beth am adael i wleidyddion benderfynu popeth dros y bobl. Dwi'n siwr fyddai hynny'n nefoedd ar y ddaear. (sarcasm)


eh?

yr unig bwynt ydi na ddylai sefydliadau crefyddol gael eu heithrio o'r gyfraith. Dylai pawb ufuddhau'r gyfraith, neu beth ddiawl ydi'r pwynt?

Ok mi wna i sefydlu crefydd newydd fory (ar ôl brecwast) sy'n arddel lot o bethau sy'n anghyfreithlon. A dw i'n MYNNU am yr hawl i gael fy eithrio rhag y gyfraith honno. Pam lai? Os di fy nghrefydd i'n dweud y dylwn i fwyta babis yna pwy ddiawl ydi'r wladwriaeth i ddweud nad ydw i'n cael? Does ganddyn nhw ddim hawl.

Ac mae gen i gymaint yn union o hawl â'r Cathlics
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron