Rhys Llwyd a ddywedodd:* Dyma ydy safbwynt ôl-farn y Cristion yn seiliedig ar y Beibl:
Ond rwyt ti (a HRF) yn camddeall ystyr y gair rhagfarn. Mae'n fwy na jysd "cyn meddwl". Dyw'r ffaith bod ti di meddwl am y peth ddim yn golygu nad yw'n rhagfarnllyd.
Dyma ma 'ngeiriadur i'n dweud ydi "prejudice":
Oxford English Dictionary a ddywedodd:1 preconceived opinion that is not based on reason or experience. 2 unjust behaviour formed on such a basis.
(Fy mhwyslais i). Hynny yw, mae gan Gristnogion safbwynt "preconceived" (o'r Beibl) a does na ddim dadl
rhesymegol i gefnogi'r safbwynt. Felly mae'n rhagfarnllyd.
Ond dwi ddim yn meddwl bod ti'n homoffobig
Rhys Llwyd a ddywedodd:Ond ti di saethu dy hun yn dy droed gan gyfaddau bo ti jest di neud y grefydd fyny. Rhaid ti gofio fod Cristnogion yn credu fod Duw yn ddwyfol, dio ddim yn man made - thats the whole point.
Dim ots be mae Cristnogion yn credu, Duw yn ddwyfol neu beth bynnag. Pam na ddyliwn i gael bwyta babis os dwi'n credu bod hynny'n gywir? Falle bod fy nghrefydd i ddim yn ddwyfol, dwi jysd yn hollol ffyddiog bod bwyta babis yn gywir ac yn gyfiawn.
Be os dwi'n credu bod y byd wedi'i greu gan <a href="http://www.venganza.org/">Anghenfil Spaghetti Hedfanog</a>? (Mae'n "eglwys" go iawn, ffurfiwyd fel ymateb i benderfyniad ysgolion Kansas i ddysgu "creationism" i blant, i bwysleisio -- yn llwyddiannus -- pa mor wirion oedd rhoi triniaeth arbennig i grefydd. Dwi'n arbennig o hoff o'r "dystiolaeth" bod twymo byd-eang yn digwydd oherwydd y cwymp mewn nifer o môr-ladron
)