Pabyddion i gau'u hasiantaethau mabwysiadu!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Barbarella » Llun 30 Gor 2007 9:36 pm

rooney a ddywedodd:dyma beth mae'r byd real yn feddwl:

Yy, ie, 14 mlynedd nôl. Roedd rhaid i ti fynd nôl mor bell â hynny i ffeindio pôl oedd yn cefnogi dy safbwynt, oedd?

Beth am <a href="http://www.bbc.co.uk/pressoffice/pressreleases/stories/2007/01_january/26/gay.shtml">bôl mwy diweddar, un ICM i Newsnight</a>, o Ionawr eleni:

Pôl o'r ganrif hon a ddywedodd:64% of those polled believed gay couples should be allowed to adopt, as opposed to 32% who said they should not.


Braf bod agweddau cul, afiach yn marw allan yn slo bach. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Pryderi » Llun 30 Gor 2007 9:47 pm

Rhaid cofio bod byd o wahaniaeth rhwng 1993 a heddiw. Yn 1993, roedd yr oedran cydsynio yn 21, doedd pobl hoyw ddim yn gallu ymaelodi a'r lluoedd arfog, roedd Cymal 28 (gyda'i gyfeiriad at pretend families) mewn grym, doedd dim diogelwch statudol yn erbyn rhagfarn homoffobaidd, roedd agweddau homoffobaidd yn rhemp ymhlith yr heddlu.

Mae pethau wedi newid yn llwyr.
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Postiogan rooney » Gwe 03 Awst 2007 11:56 pm

Pryderi a ddywedodd:Mae'n warthus bod asianataethau mabwysiadu yn erbyn yr hawl i blant gael eu mabwysiadu gan gyplau o'r un rhyw.

Fyddwn ni ddim yn dadlau bod mabwysiadu o'r fath yn addas i bob plentyn, ond pan fod cynifer o blant angen teulu mabwysiedig addas, mae diystyru pob cwpl o'r un rhyw yn hynod o haerllug ac yn groes i hawliau'r plant.


beth? a beth am hawl plentyn i gael mam a tad? trwy roi'r plentyn at gwpl hoyw yr wyt yn gwadu'r plentyn rhag cael mam a thad, ac yn gorfodi dau dad neu ddau fam arno, a'r rheiny'n cysgu hefo'u gilydd- yn dilyn lifestyle lle na ellir cael plant mewn modd naturiol

hawliau hoywon yn trumpio hawliau plant: dim diolch
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Sad 04 Awst 2007 12:00 am

Pryderi a ddywedodd:Rhaid cofio bod byd o wahaniaeth rhwng 1993 a heddiw. Yn 1993, roedd yr oedran cydsynio yn 21, doedd pobl hoyw ddim yn gallu ymaelodi a'r lluoedd arfog, roedd Cymal 28 (gyda'i gyfeiriad at pretend families) mewn grym, doedd dim diogelwch statudol yn erbyn rhagfarn homoffobaidd, roedd agweddau homoffobaidd yn rhemp ymhlith yr heddlu.

Mae pethau wedi newid yn llwyr.


ni ddim wedi gweld oblygiadau'r holl "hawliau" yma eto. Disgwyliwch chi tan i ni weld effaith yr "arbrofion" yma. Mae pechodau yn bechodau am reswm, gan mae nhw'n dod a dinistr hefo nhw.

Ac oes rhaid gwneud defnydd o'r gair rhyfedd yna "homophobia". Does neb sydd yn gwrthwynebu'r hawliau yma ofn pobl sydd yn byhafio'n hoyw. A byhafio'n hoyw mae nhw- does dim gennyn hoyw, a nid yw 10% o bobl yn hoyw: celwyddau yw rhain gan y lobi hoyw.

yr oedd yr un math o bobl trendi yn llawenhau yn 1967 pan wnaethpwyd erthylu yn dderbyniol yn ol y gyfraith. 7 miliwn wedi eu lladd ers hynny. Y broblem gyda pobl trendi yw fod nhw wastad eisiau rhoi hawliau newydd i bobl wneud pethau pechadurus, er mwyn i nhw gael eu gweld fel arloeswyr... ond ydy nhw'n cymryd y cyfrifoldeb am y dinistr mae nhw'n achosi i'r gymdeithas yn y tymor hir? Nope.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan ceribethlem » Sad 04 Awst 2007 8:11 am

rooney a ddywedodd: does dim gennyn hoyw
Fel rhywun sydd wedi astudio gradd yn geneteg a biocemeg, ac ar fin cychwyn Masters, bydde diddordeb gyda fi i wybod sut wyt ti'n gallu profi'r dywediad yma, yn arbennig o gofio bod gwyddonwyr yn ffeindio mwy a mwy o enynnau yn rheolaidd, ac fod nifer o'r rheini yn rheoli agweddau o bersonoliaeth.
Diolch
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Pryderi » Sad 04 Awst 2007 8:12 am

Does neb yn dadlau fod hawliau rhieni sy'n mabwysiadu yn fwy pwysig na hawliau'r plant! Mewn rhai ardaloedd, mae prinder o ddarpar-rieni sy'n cael eu hystyried yn addas i fabwysiadu. Yn y fath achosion, mae'r plant yn gorfod cael eu gofalu gan rieni maeth.

P'run sydd fwya niweidiol i'r plant - cael eu symud o un riant maeth i'r llall, neu cael eu dwyn i fyny gan gwpl o'r un rhyw sydd wedi mynd drwy'r broses drylwyr o fabwysiadu?
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Postiogan Pryderi » Sad 04 Awst 2007 8:31 am

Ynglyn a'r honiad o 'bechod':

Rhaid cofio fod y rhan fwyaf o'r brwydrau y mae'r gymuned hoyw (gyda chefnogaeth canran uchel o bobl sydd ddim yn hoyw) wedi eu hennill dros y blynyddoedd yn amherthnasol i'r cwestiwn o 'bechod':

yr hawl i wasanaethu yn y lluoedd arfog;

yr hawl i gydnabyddiaeth fod eich cymar yn next of kin;

yr hawl i fyw heb fod o dan gysgod deddf sydd yn cyfeirio at 'deuluoedd ffug';

hawliau cyflogaeth a gwasanaethau cyfartal;

yr hawl i gwyno i'r heddlu heb ofn sarhad;

yr hawl i gael eich ystyried fel rhiant mabwysiadu.

Nid pechodau yw'r rhain, ond hawliau sydd yn berthnasol i fywyd pob dydd y mae pobl sydd ddim yn hoyw wedi eu cymryd yn ganiataol dros y blynyddoedd.
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Postiogan rooney » Sad 11 Awst 2007 1:32 am

Pryderi a ddywedodd:Ynglyn a'r honiad o 'bechod':

Rhaid cofio fod y rhan fwyaf o'r brwydrau y mae'r gymuned hoyw (gyda chefnogaeth canran uchel o bobl sydd ddim yn hoyw) wedi eu hennill dros y blynyddoedd yn amherthnasol i'r cwestiwn o 'bechod':


mae hoyw yn bechod yn ol y Beibl, nid "honiad" yw ond ffaith
nid oes gennyn hoyw, nid yw 10% o bobl yn hoywon, celwyddau yw'r honiadau yma
fe geith dyn rhoi pa bynnag hawliau yr hoffer i'r hoywon, ond pechod yw pechod, ac mae pethau'n bechodau am resymau da iawn
yn anffodus mae llawer o bobl "trendi" yn meddwl fod nhw'n llawer mwy clyfar ac yn gwybod yn well, ac yn anwybyddu hyn
yn union fel rhoi "hawl" i ddynes erthylu ei plentyn, ffeminists y 60au wedi cael eu ffordd ac wrth eu bodd... y canlyniadau 40 mlynedd yn ddiweddarach? 7 MILIWN wedi eu lladd gan erthylu. Ond hei, mae'r merched hunanol wedi cael "hawliau", felly beth yw'r ots? :rolio:

fe fydd hawliau'r plant yn cael eu anwybyddu a bydd oblygiadau y pethau yma'n effeithio llawer o blant a'r gymdeithas i'r dyfodol. Pryderi- pam ti'n poeni fwy am hawliau hoywon na hawliau plant?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Sad 11 Awst 2007 1:41 am

Pryderi a ddywedodd:Does neb yn dadlau fod hawliau rhieni sy'n mabwysiadu yn fwy pwysig na hawliau'r plant! Mewn rhai ardaloedd, mae prinder o ddarpar-rieni sy'n cael eu hystyried yn addas i fabwysiadu. Yn y fath achosion, mae'r plant yn gorfod cael eu gofalu gan rieni maeth.

P'run sydd fwya niweidiol i'r plant - cael eu symud o un riant maeth i'r llall, neu cael eu dwyn i fyny gan gwpl o'r un rhyw sydd wedi mynd drwy'r broses drylwyr o fabwysiadu?


Fe fydd llai o rieni addas ar gael oherwydd y ddeddf yma oherwydd bydd gwasanaethau mabwysiadau catholig yn cau lawr. Felly, os ti wirioneddol yn poeni am ddiffyg rhieni addas yna fydde ti am weld y rhain yn aros yn agored, ond na, mae rhoi "hawliau" i hoywon yn fwy pwysig i ti :rolio:

Pam fod rhaid gorfodi gwasanaethau catholig i roi plant at unrhyw deulu heblaw teulu priod catholig? fyddai hi'n dderbyniol gorfodi'r asiantaeth i roi plant at deulu mwslim neu hindu- na? pam ddim?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Boibrychan » Sad 11 Awst 2007 10:32 am

Fel arfer Rooney mae dy safbwynt yn gwneud fi'n gyfoglyd :drwg:

Rooney a ddywedodd:Pam fod rhaid gorfodi gwasanaethau catholig i roi plant at unrhyw deulu heblaw teulu priod catholig? fyddai hi'n dderbyniol gorfodi'r asiantaeth i roi plant at deulu mwslim neu hindu- na? pam ddim?


Gan fod pawb arall yn gorfod dilyn y rheol a does dim optio allan jest achos fod dy gasineb a barn mochedd yn dod dan fanner grefyddol, achos mai diolch byth gwlad seciwlar ydan ni! Dwi'n meddwl byddai'n dderbyniol ond dwi'n siwr fod na rhyw rheol parch crefyddol neu rhywbeth
sy'n ei wneud yn llai tebygol.

Be di'r ots pwy sy'n magu'r plentyn os mae nhw'n addfwyn a chariadus a sefydlog!
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron