Pryderi a ddywedodd:Ynglyn a'r honiad o 'bechod':
Rhaid cofio fod y rhan fwyaf o'r brwydrau y mae'r gymuned hoyw (gyda chefnogaeth canran uchel o bobl sydd ddim yn hoyw) wedi eu hennill dros y blynyddoedd yn amherthnasol i'r cwestiwn o 'bechod':
mae hoyw yn bechod yn ol y Beibl, nid "honiad" yw ond ffaith
nid oes gennyn hoyw, nid yw 10% o bobl yn hoywon, celwyddau yw'r honiadau yma
fe geith dyn rhoi pa bynnag hawliau yr hoffer i'r hoywon, ond pechod yw pechod, ac mae pethau'n bechodau am resymau da iawn
yn anffodus mae llawer o bobl "trendi" yn meddwl fod nhw'n llawer mwy clyfar ac yn gwybod yn well, ac yn anwybyddu hyn
yn union fel rhoi "hawl" i ddynes erthylu ei plentyn, ffeminists y 60au wedi cael eu ffordd ac wrth eu bodd... y canlyniadau 40 mlynedd yn ddiweddarach? 7 MILIWN wedi eu lladd gan erthylu. Ond hei, mae'r merched hunanol wedi cael "hawliau", felly beth yw'r ots?
fe fydd hawliau'r plant yn cael eu anwybyddu a bydd oblygiadau y pethau yma'n effeithio llawer o blant a'r gymdeithas i'r dyfodol. Pryderi- pam ti'n poeni fwy am hawliau hoywon na hawliau plant?