Tudalen 33 o 33

PostioPostiwyd: Mer 22 Awst 2007 6:27 pm
gan Pryderi
Y pwynt dwi'n gwneud ydy nad yw'r Beibl yn condemnio'r rhan fwyaf o'r hawliau sifil mae pobl hoyw wedi eu hennill yn ystod y ddegawd diwethaf. Efallai bod y Beibl yn condemnio gweithgaredd rhywiol hoyw (rwy'n dweud 'efallai' gan nad ydy arbenigwyr yn gallu cytuno ystyron ymysg ei gilydd) ond hyd yn oed pe bai'r dehongliad traddodiadol yn gywir, nid yw Paul yn dweud na all plant gael eu magu gan gwpl o'r un rhyw. Cofia nad oes unrhywun ar wyneb y ddaear yn ddi-bechod.

Mewn gwirionedd, dim ond canran bychan iawn o blant fydd yn cael eu mabwysiadu gan gyplau hoyw. Y tegygolrwydd felly yw na fydd hyn ddim yn rhwystro rhieni rhag roi eu plant i fyny i gael eu mabwysiadu.

PostioPostiwyd: Sul 26 Awst 2007 11:33 pm
gan rooney
Pryderi a ddywedodd:Y pwynt dwi'n gwneud ydy nad yw'r Beibl yn condemnio'r rhan fwyaf o'r hawliau sifil mae pobl hoyw wedi eu hennill yn ystod y ddegawd diwethaf. Efallai bod y Beibl yn condemnio gweithgaredd rhywiol hoyw (rwy'n dweud 'efallai' gan nad ydy arbenigwyr yn gallu cytuno ystyron ymysg ei gilydd) ond hyd yn oed pe bai'r dehongliad traddodiadol yn gywir, nid yw Paul yn dweud na all plant gael eu magu gan gwpl o'r un rhyw. Cofia nad oes unrhywun ar wyneb y ddaear yn ddi-bechod.


mae'n berffaith amlwg na fyddai hyn yn dderbyniol
o fewn priodas mae plant fod cael eu codi, priodas yw rhwng un dyn ac un dynes am oes
ti'n iawn, nid oes neb ar y ddaear yn ddi-bechod ond nid yw hyn yn drwydded i greu sefyllfaoedd pechadurus yn fwriadol, nid dyna ffordd addas i ymateb i'r gras ni wedi ei gael
mae'r deddfau wedi cael ei rhoi i ni er ein lles ni, ac fe wnawn ni'n dda i gadw atynt.