Yr Alban, Lloegr, a Chaerferwig

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yr Alban, Lloegr, a Chaerferwig

Postiogan Dili Minllyn » Iau 15 Chw 2007 9:13 pm

Yn ôl stori gan y BBC a’r Telegraph, mae Cyngor Bwrdeistref Caerferwig wedi rhoi heibio cynllun i roi tocynnau rhad i’r theatr leol i bobl leol (sydd eisoes yn talu’n rhannol am y peth trwy Dreth y Cyngor), gan i ddynes o’r SNP gwyno wrth y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol y gallai’r fath beth anffafrio Albanwyr, dwy filltir a hanner i ffwrdd yn y sir (a’r wlad) nesaf. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dylan » Iau 15 Chw 2007 9:37 pm

hmm, 'di cwynion fel hyn ddim yn helpu'r achos nadyn. Wela' i fawr ddim o'i le ar y cynllun gwreiddiol, yn enwedig gan bod y trigolion lleol, fel ti'n dweud, yn cyfrannu tuag ato gyda'u trethi cyngor yn barod.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dili Minllyn » Iau 15 Chw 2007 10:21 pm

Yn hollol. Yn anffodus, dwi'n meddwl bod yr achos yn arwydd o wleidydd di-ddychymyg heb ddigon o waith go-iawn i'w wneud, yn mynnu busnesa lle nad oedd ei hangen.

Mae hi wedi rhoi anrheg hyfryd hefyd i wrthwynebwyr ei phlaid, sy'n gallu honni ar sail hyn mai criw penchwiban efo obsesiwn di-baid am y cam mawr gafodd yr Albanwyr gan y Saeson yw'r SNP (fel mae'r sylwadau ar yr ethygl yn y Telegraph yn dangos.).
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dylan » Iau 15 Chw 2007 11:32 pm

mae hyn yn fel ar fysedd y sawl a geisia bardduo'r pleidiau cenedlaetholgar fel plant anaeddfed gyda rhyw fath o gomplecs hunanol. Swn i'n awgrymu bod yr aelod SNP 'ma'n osgoi gwneud mwy o niwed.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Iau 15 Chw 2007 11:59 pm

yn gysylltiedig o fath, dw i hefyd yn cydymdeimlo â'r sawl sy'n pryderu am y "West Lothian Question" bondigrybwyll. Alla' i ddim yn lân â dallt pam nad ydi'r pleidiau cenedlaetholgar yn datgan yn frwd eu cefnogaeth i'r ymgyrch i rwystro aelodau nad ydynt yn atebol i etholwyr Lloegr rhag pleidleisio dros faterion sy'n effeithio ar Loegr yn unig. Swn i'n mynd ymhellach a dweud dylent ddechrau cefnogi'r ymgyrch am senedd i Loegr. Mae 'na rhyw fân sylwadau bychain wedi'u gwneud, ond dylent wneud cyhoeddiad sicr ac amlwg o'u cefnogaeth.

Byddai'n sicr o ennyn sylw a mymryn o barch o du'r Saeson. Mae pethau fel yr helynt Berwick 'ma yn hollol hollol wrth-gynhyrchiol.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dili Minllyn » Maw 20 Chw 2007 12:32 pm

Gyda llaw, bues i'n somedig iawn cael gwybod yn ddiweddar nad yw Caerferwig yn dal mewn rhyfel ag Ymerodraeth Rwsia, er gwaetha'r chwedl am hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron