Tudalen 1 o 1

Yr Alban, Lloegr, a Chaerferwig

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 9:13 pm
gan Dili Minllyn
Yn ôl stori gan y BBC a’r Telegraph, mae Cyngor Bwrdeistref Caerferwig wedi rhoi heibio cynllun i roi tocynnau rhad i’r theatr leol i bobl leol (sydd eisoes yn talu’n rhannol am y peth trwy Dreth y Cyngor), gan i ddynes o’r SNP gwyno wrth y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol y gallai’r fath beth anffafrio Albanwyr, dwy filltir a hanner i ffwrdd yn y sir (a’r wlad) nesaf. :rolio:

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 9:37 pm
gan Dylan
hmm, 'di cwynion fel hyn ddim yn helpu'r achos nadyn. Wela' i fawr ddim o'i le ar y cynllun gwreiddiol, yn enwedig gan bod y trigolion lleol, fel ti'n dweud, yn cyfrannu tuag ato gyda'u trethi cyngor yn barod.

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 10:21 pm
gan Dili Minllyn
Yn hollol. Yn anffodus, dwi'n meddwl bod yr achos yn arwydd o wleidydd di-ddychymyg heb ddigon o waith go-iawn i'w wneud, yn mynnu busnesa lle nad oedd ei hangen.

Mae hi wedi rhoi anrheg hyfryd hefyd i wrthwynebwyr ei phlaid, sy'n gallu honni ar sail hyn mai criw penchwiban efo obsesiwn di-baid am y cam mawr gafodd yr Albanwyr gan y Saeson yw'r SNP (fel mae'r sylwadau ar yr ethygl yn y Telegraph yn dangos.).

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 11:32 pm
gan Dylan
mae hyn yn fel ar fysedd y sawl a geisia bardduo'r pleidiau cenedlaetholgar fel plant anaeddfed gyda rhyw fath o gomplecs hunanol. Swn i'n awgrymu bod yr aelod SNP 'ma'n osgoi gwneud mwy o niwed.

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 11:59 pm
gan Dylan
yn gysylltiedig o fath, dw i hefyd yn cydymdeimlo â'r sawl sy'n pryderu am y "West Lothian Question" bondigrybwyll. Alla' i ddim yn lân â dallt pam nad ydi'r pleidiau cenedlaetholgar yn datgan yn frwd eu cefnogaeth i'r ymgyrch i rwystro aelodau nad ydynt yn atebol i etholwyr Lloegr rhag pleidleisio dros faterion sy'n effeithio ar Loegr yn unig. Swn i'n mynd ymhellach a dweud dylent ddechrau cefnogi'r ymgyrch am senedd i Loegr. Mae 'na rhyw fân sylwadau bychain wedi'u gwneud, ond dylent wneud cyhoeddiad sicr ac amlwg o'u cefnogaeth.

Byddai'n sicr o ennyn sylw a mymryn o barch o du'r Saeson. Mae pethau fel yr helynt Berwick 'ma yn hollol hollol wrth-gynhyrchiol.

PostioPostiwyd: Maw 20 Chw 2007 12:32 pm
gan Dili Minllyn
Gyda llaw, bues i'n somedig iawn cael gwybod yn ddiweddar nad yw Caerferwig yn dal mewn rhyfel ag Ymerodraeth Rwsia, er gwaetha'r chwedl am hyn.