Emrys Weil a ddywedodd:Cath Ddu a ddywedodd:A dweud gwir Emrys ni chredaf y byddwn yn disgrifio Cymru fel 'region' chwaith.
Na finna, ond David Cameron?
Dwi'n credu fod hyn yn gwestiwn ynghylch y gwahaniaeth rhwng 'nation' a 'state'. Y mae pob Ceidwadwr wn i amdano (gan eithro Simon Heffer sy'n ysgrifennu i'r Telegraph) yn derbyn fod y Cymry yn genedl o fewn Prydain. Mae nhw'n derbyn nad cyffelyb yw Cymru a Swydd Efrog. Y ddadl sy'n bodoli yw y graddau o hunan-lywodraeth y dylai Cymru fwynhau. Wedi'r cyfan, trwy ddeunaw mlynedd o lywodraeth Geidwadol cryfhau a nid gwanhau fu ar y Swyddfa Gymreig (sy'n ddull o ddatganoli grym).
O ran Cameron, fe wnaeth gryn dipyn o addewidion wrth ennill yr arweinyddiaeth y byddai o blaid cryfhau y Cynulliad ac mae ei ddewis fel llefarydd Ceidwadol ar faterion Cymreig, sef Cheryl Gillan (sic) wedi datgan yn go glir fod pwerau y Cynulliad yn fater i etholwyr Cymru a neb arall. Am ryw reswm mae'r syniad hwn o atebolrwydd i etholwyr Cymru yn ddiarth i Lafur a llawer yn y mudiad cenedlaethol sydd fel petaent yn ofn gofyn barn ei cyd-Gymry am ddyfodol y corff. Onid pwerau ychwanegol heb ofyn caniatad yw'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd ac onid gweithredu adroddiad Richards HEB holi barn yr etholwyr yw safbwynt tymor canol Plaid a'r LD's?
Emrys a ddywedodd:Mae datganiad DC yn dal yn amwys, ac mae modd ei ddeall i olygu ei fod am sgrapio ein Cymulliad ni (polisi poblogaidd ymysg nifer o selogion ei blaid ar lawr gwlad, mi gredwn).
Fel dwi'n dweud uchod, os byddet yn gwneud dy waith cartref fe fyddet yn gweld nad oes llawer o ddim yn amwys am bolisi Cameron ar y mater hwn. Dim ond yn y bythefnos ddiwethaf mae pencadlys y Blaid Geidwadol wedi cefnogi penderfyniad y Blaid yng Nghymru i ddiddymu enw tad David Davies AS/AC (sef Peter Davies) o restr ymgeiswyr cydnabyddiedig y Ceidwadwyr ar gyfer y Cynulliad gan iddo alw am ddileu'r corff. Braidd yn amlwg felly na fyddai Cameron am alw am yr union beth y bu i'w swyddfa ganol gytuno oedd yn sail i ddileu enw rhywun o restr ymgeiswyr cydnabyddiedig.
O ran cytundeb selogion y Blaid Geidwadol gyda pholisi o ddifa'r Cynulliad falle bod chdi'n iawn, ond byddai hynny hefyd yn wir dwi'n tybio am ganran sylweddol o etholwyr Cymry.