Cefais gip ar gyfweliad efo David Cameron ar y teledu dros y pen-wythnos.
Wrth restru'r gwahaniaethau rhwng Llafur a'r Toriaid, dywedodd fod y Blaid Lafur o blaid "Regional Assemblies" a "we [h.y. y Blaid Geidwadol] would scrap regional assemblies".
Nawrte, gan nad oes "regional assemblies" yn unman ond yng Nghymru (Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon ar stop, ac ni ellir disgrifio Senedd yr Alban fel Assembly), a chan na ellir "sgrapio" rhywbeth nad ydyw'n bod, deellais i hyn i olygu bod arweinydd y Toriaid yn dweud fod ei blaid yn cefnogi sgrapio'r Cynulliad.
A yw hyn yn gywir, neu ai llithriad (Freudaidd o bosib) ar ran DC ydoedd? (neu ai fy nghlyw innau sy'n methu wrth fynd yn hyn?)