Buddugoliaeth i'r SNP

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Buddugoliaeth i'r SNP

Postiogan sanddef » Sul 25 Chw 2007 7:59 pm

Be dach chi'n meddwl am yr holl heip ynglyn â darogan buddugoliaeth i'r SNP yn Holyrood eleni?
Mae'n ddoniol, ond yn hollol anghredadwy yn fy marn i. Mae 46 o 50 sedd y Blaid Lafur yn cynrychioli etholaethau, ond dim ond 8 o 25 sedd yr SNP sy'n cynrychioli etholaethau, llai na'r Democratiaid Rhyddfrydol (13 allan o 17). Dw'i'n siwr bydd yr heip yn hwb i ganlyniadau'r SNP yn yr etholiad nesaf, ond ni allaf ddychmygu'r fath ddaeargryn gwleidyddol a fyddai'n dyrchafu'r SNP yn brif blaid Senedd yr Alban.

Seddi Holyrood:

(Plaid, aelodau o etholaethau + aelodau rhanbarthol = cyfanswm)

Llafur 46 + 4 = 50
SNP 8 + 17 = 25
Ceidwadwyr 3 + 14 = 17
Dem. Rhydd. 13 + 4 = 17
Plaid Werdd 0 + 7 = 7
Sosialaidd 0 + 4 = 4
Grwp Cydgefnogaeth 0 + 2 = 2
Dinesyddion Hyn 0 + 1 = 1
Annibynnol 2 + 3 = 5
Llywydd 1 + 0 = 1
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan krustysnaks » Sul 25 Chw 2007 10:49 pm

Dwi'n meddwl bod y toriadau rhwng y Sosialwyr o fudd i'r SNP ond ddim hanner digon i roi mwyafrif iddyn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 25 Chw 2007 11:19 pm

Dwi ddim yn credu fod unrhyw un yn awgrymu fod yr SNP yn mynd i ennill mwyafrif, ond yn hytrach fod siawns gan yr SNP fod y Plaid mwyaf wedi'r etholiadau, er dwi'n cytuno fod hyn yn golygu tipyn o swings mawr mewn nifer o etholaethau.

Beth ma nhw hefyd yn gobeithio yw y bydd Pleidiau sy'n cefnogi annibyniaeth yn sicrhau mwyafrif yn y Senedd, bydd hyn wedyn yn ei galluogi i alw refferendwm ar y pwnc. Ond mae hyn yn ofyniad mawr hefyd...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Cymro13 » Mer 28 Maw 2007 8:07 am

Stori ddiddorol am hyn yn y Times heddiw gweler
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Cymro13 » Mer 28 Maw 2007 10:57 am

a hwn
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Macsen » Mer 28 Maw 2007 11:16 am

Dwi'n credu bod y wasg yn gor-ddweud llwyddiant yr SNP yn yr etholiad fel bod modd eu alw'n fethiant hyd yn oed pe bai nhw'n enill lot o seddi. Y gobeith iddyn nhw wedyn yw y bydd y syniad o annibyniaeth yn rhedeg allan o stem.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan sanddef » Mer 28 Maw 2007 12:19 pm

Macsen a ddywedodd:Dwi'n credu bod y wasg yn gor-ddweud llwyddiant yr SNP yn yr etholiad fel bod modd eu alw'n fethiant hyd yn oed pe bai nhw'n enill lot o seddi. Y gobeith iddyn nhw wedyn yw y bydd y syniad o annibyniaeth yn rhedeg allan o stem.


Ond gwasg yr Alban sy'n rhagweld buddugoliaeth yr SNP, a dydan nhw ddim yn poeni am agenda San Steffan.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Cymro13 » Mer 28 Maw 2007 12:46 pm

Ond diddorol gweld taw yn y Times oedd yr erthyglau yma. Baswn ni'n disgwyl gweld y Cyfyngau yn yr Alban yn rhoi lot o sylw i hyn ond gan taw y TIMES sef un o brif os nad y prif bapur yn Lloegr yn rhoi sylw i'r SNP mae jest yn dangos faint o impact gwelidyddol maent yn ei gael.
Mae yna adegau yn enwedig yn y nawdegau cynnar lle mae polau piniwn wedi bod yn gryf o blaid yr SNP ac wedyn yn syrthio wrth i'r etholiad ddod yn agosach, ond be dwi'n gweld yn yr achos yma yw fod y gefnogaeth yn cynyddu'n raddol - gawn ni weld beth fydd yn digwydd
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Nanog » Mer 28 Maw 2007 8:48 pm

O flog Vaughan Roderick....... Dyw e ddim cweit yn perthyn i'r edefyn 'ma ond mae'n eitha' diddorol.

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6 ... 494609.stm
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Cath Ddu » Mer 28 Maw 2007 10:13 pm

Dwi'n credu fod Macsen yn anghywir y tro hwn. Sawl tro bu i'r SNP ymddangos fel eu bod am dorri trwodd ond methu. Credaf y bydd 2007 yn eithriad . Yn Alex Salmond mae ganddynt wleidydd go iawn, y cryfaf o bell yn yr SNP a phen ac ysgwydd uwch ben ei wrthwynebwyr yn yr Alban.

Y mae cryfder Salmond, amhoblogrwydd a methiant Llafur Newydd a phenderfyniad cymaint o fawrion Llafur yr Alban i ddilyn gyrfa yn San Steffan yn golygu y bydd Salmond yn allweddol i ganlyniad 2007. Fe allai ffigwr o statws John Reid neu Brown fod yn fygythiad iddo pe byddent yn fodlon ymladd o fewn Senedd yr Alban, ond o ddewis San Steffan y maent dan anfantais sylweddol.

Ni chaiff yr SNP fwyafrif dros bawb ond fe fydd y 4ydd o Fai yn gwawrio gyda'r SNP yn brif blaid yr Alban. Yr unig gwstiwn yw a fyddent mewn sefyllfa digon cryf i ffurfio a chynnal llywodraeth?

ON - ystyriwch lle y byddai Plaid o fod wedi dilyn esiampl yr SNP. Bu iddynt gael gwared o'r llipryn John Swinney (pwy?) a chamu'n ol i'r dyfodol gyda Salmond. Pwy fyddai'n gwadu y byddai Plaid mewn sefyllfa llawer cryfach yn 2007 o fod wedi cael gwared o'r llipryn llwyd a denu Wigley yn ol neu hyd yn oed fentro gyda Adam Price?

Fe wnaiff Plaid yn dda yn 2007 hefyd, ond yn wahanol i'r SNP er gwaethaf ei harweinydd ac nid oherwydd ei harweinydd y bydd hynny.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron