Gwerthu tai cyngor - da 'ta drwg?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan pigog » Iau 01 Maw 2007 3:04 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:[quote="Hen Rech Flin
Yr hyn sydd ei hangen yw syniadau positif am sut i ymdopi ag anghenion cartrefu pobl heddiw.


A dyna pam mai sustem y dyfodol a nid sustem y gorffennol yw sosialaeth. Tai fel cartrefi - dogma sosialaidd.

Beth sydd ei angen ydi peidio ymddiried yn y sector breifast i adeiladu tai fforddiadwy at angen lleol - achos does dim ddiddordeb gennynt mewn unrhywbeth ond elw. Dyna sydd wedi ein rhoi yn y llanast presennol.

Beth sydd ei eisiau ydi stop ar adeiladu tai newydd gan y sector breifat ac adeiladu tai at anghenion lleol gan y cynghoirau sir neu'r cynulliad. Does dim rheswm yn y byd pam na allem wneud hyn.[/quote]

Hollol cytuno - neges gorau y sgwrs. Problem yw mae cynghoiriau sir yn dal y rhoi cyniatad i developers preifet i adeiadau tau mewn estates sydd yn edrych fel 'Brookside' gyda prisiau a bobl rhi drud. Ond mae na dogfenau i gael i edrych ar systems arall. Fel engraifft mae Peter Griffiths - chief exec y Principality yn Caerdydd wedi gwneud ymchwil ac ysgrifenu lan systems gwahaniaeth sydd ar gal dros y byd. Un diddorol sydd yn Colorado - bobol yn prynu a gwerthu tu fewn yn hyn system. Felly mae'r arian yn aros yn y cymdeithas.
Eisiau gweithred gyda geiriau
pigog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 132
Ymunwyd: Llun 22 Ion 2007 3:42 am
Lleoliad: pigog yn y gorllewin neu pwdu yn Caerdydd

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 02 Maw 2007 2:38 am

SbecsPeledrX a ddywedodd: Ond os mai dyma'r drefn ar hyn o bryd, dwi eisiau i'r dosbarth gweithiol a thrigolion tai cyngor bod a'r tolc fwyaf o fuddsoddiad posib.

Nid barn Farcsaidd - Sosialaidd yw dweud y fath beth, Sbecs, ond barn economeg-egalitaraidd. Yr egalitarydd economaidd mwyaf i dramwyo'r ynysoedd hyn oedd Mrs Thatcher. Roedd hi'n gwerthu tai cyngor er mwyn rhoi cyfle i bobl o'r dosbarth gweithiol cael manteision perchentyaeth. Roedd Thatcher yn preifateiddio cwmnïau gwladol gan sicrhau bod gweithwyr y cwmnïau hynny yn cael y cyfle i brynu cyfranddaliadau am y tro cyntaf. Rhoddodd Thatcher y cyfle i ddyn fel Tyrone O'Sullivan, a oedd yn arfer rheoli ei weithwyr trwy undebaeth, i reoli ei weithwyr fel rheolwr go iawn.

Y darlun sydd wastad yn dod i feddwl wrth gofio'n ôl i gyfnod Thatcher yw'r un o'r hogyn ifanc yn ei bresys cochion yn gwneud miliwn dros nos. Rhaid cofio mae hogyn o'r dosbarth gweithiol yw'r llanc yn y llun.

Roedd Thatcher yn fwy o ddemocrat cymdeithasol nag oedd hi'n geidwadwraig gyfalafol. Dyna paham ei bod hi mor boblogaidd ym mysg y dosbarth gweithiol yn Lloegr a Chymru. (Cafodd y Ceidwadwyr mwy o gefnogaeth Gymreig o dan Thatcher na chawsant cynt ers 1859!).

Rhoi cyfle i'r dosbarth gweithiol oedd bwriad holl bolisiau Thatcher. Gelli'r beirniadu Thatcher oherwydd bod rhywfaint o'i bwriad wedi methu, ond rwy'n methu'n lan a ddeall sut mae unrhyw un sydd yn credu yn lles y dosbarth gweithiol yn gallu beirniadu'r bwriad.

Dyma ddiwedd y wers hanesyddol.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 02 Maw 2007 3:38 am

SbecsPeledrX a ddywedodd:Rydan ni'n cytuno te HRF. Y marcsydd a'r cenedlaetholwr sy'n meddwl bod modd rhyddhau ein gwlad drwy llyfu'r union werthoedd a'i chwalodd!


Rhyfedd, ynte, bod dau o farn mor wahanol yn cytuno yn hyn o beth. :D

Rwy'n gweld sosialaeth yn anghydnaws a chenedlaetholdeb oherwydd mae hanfod sosialaeth yw dibyniaeth ar y wladwriaeth. Yr unig wladwriaeth mae pobl Cymru yn gallu dibynnu arno, ar hyn o bryd, yw'r wladwriaeth Brydeinig. Mae polisïau sydd yn cadarnhau dibyniaeth pobl at y wladwriaeth, gan hynny, yn eu rhwymo yn gadarnach at Brydeindod.

Drwg y polisïau tai cymdeithasol cyfredol yw eu bod yn rhwymo pobl at y wladwriaeth. Y cosyn fwyaf yn y benefits trap yw rhent ar dai preifat neu grypto-preifat y Cymdeithasau Tai. Mae tŷ dau loft yn y gogledd gan Gymdeithas Tai yn codi rhent o £70 yr wythnos, sef £1.75 yr awr cyn treth. Gan mae £5.35 cyn treth yw'r isafswm cyflog, mae'r rhent yn ormod o ganran i'w talu i benteulu di-waith chwilio am waith er mwyn lladd ei ddibyniaeth ar y wladwriaeth.

Yn yr hen ddyddiau roedd disgwyl i gyngor (cyngor plwyf, gyda llaw, nid cyngor sir) gallu adennill pris y tŷ yn ôl o fewn 50 mlynedd. Bellach mae'n rhaid i Gymdeithas Tai ad-enill ei fuddsoddiad, a gwneud elw, o fewn 25 mlynedd, sydd yn gwneud i bris morgais effeithio ar bris rhent.

Er bod ffactorau megis gwerth holl stoc Cymdeithas Tai (gan gynnwys tai sydd wedi eu prynu yn eu cyfanrwydd, bellach) yn creu sefyllfa lle mae rhentu yn ychydig yn llai nag ydy prynu, mae'n wireb bron os na elli di fforddio prynu tŷ, rwyt ti'n methu fforddio rhentu chwaith.

Pe baem yn mynd yn ôl i'r sefyllfa, cyn Thatcheraidd, lle'r oedd tŷ cyngor yn opsiwn rhad (£20-£30 yr wythnos yn ôl prisiau cyfredol) yna bydda fodd i bobl gweithio a thalu rhent, yn hytrach na pheidio â gweithio er mwyn i'r rhent cael ei dalu drostynt gan y wladwriaeth holl bwysig Brydeinig.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 02 Maw 2007 11:54 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:
SbecsPeledrX a ddywedodd: Ond os mai dyma'r drefn ar hyn o bryd, dwi eisiau i'r dosbarth gweithiol a thrigolion tai cyngor bod a'r tolc fwyaf o fuddsoddiad posib.

Yr egalitarydd economaidd mwyaf i dramwyo'r ynysoedd hyn oedd Mrs Thatcher. Roedd hi'n gwerthu tai cyngor er mwyn rhoi cyfle i bobl o'r dosbarth gweithiol cael manteision perchentyaeth.


Dyma fy nghyfraniad olaf i'r drafodaeth yma, achos mae gan pobl eu barn, a dwi ddim yn meddwl fod neb am berswadio'r llall. Ond os gai jest esbonio i ti ar ba bwynt den ni'n anghytuno. Ti'n credu bod Thatcher wedi bwriadu helpu'r dosbarth gweithiol wrth werthu tai cyngor. Dwi'n credu fod hi wedi bwriadu distrywio'r cysyniad o dai cyngor a gwaethygu'r balans grymoedd rhwng y dosbarth gweithiol a'r dosbarth canol yn y tymor canol. Gallwn gytuno ei fod wedi rhoi ased gwerthfawr yn nwylo un cenhedlaeth o denantiaid cyngor - ond side effect oedd hwna, y siwgr i fynd efo'r ffisyg, y peth gaeth un cenhedlaeth ohonom am beidio a creu gormod o ffys wrth iddi neud.

Dwi'n meddwl ei bod hi'n ast. Dwni ddim be ti'n ei feddwl ohoni.

A rwan, dwi di blino gymaint ar fforymau gwleidyddol maes-e unwaith yn rhagor - gai rest am ryw 6 mis cyn dwad nol :D
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 38 gwestai