Cath Ddu a ddywedodd:S.W. a ddywedodd:Ond roedd on sylfaenol anheg yn ei hun - blackmail gan Thacher oedd o a dim mwy.
Blacmel?! Sut felly? Oedd Mrs T yn mynd o amgylch perchnogion tai cyngor yn bygwth dweud wrth wragedd / gwyr am affairs y wraig/gwr oni bai bod nhw'n prynu y tŷ?
'Roedd y polisi yn rhoi cyfle unigryw i bobl oedd heb droedle o fewn y farchnad dai i gael troedle o'r fath. Dyna yn wir gynnig 'level playing field' fe fyddwn yn dadlau. Pam fod hyn yn dy boeni gymaint SW?
Sori Bribe oeddwn i'n meddwl. Un cenhedlaeth yn manteisio ar tai cutprice, wedyn gwerthu eu tai am ddiawl o bris. Dyna dwi'n gweld yn elfennol anheg. Os am adael iddynt nhw prynnu ty am ostyngiad mawr dylsant ei ei dro unai gorfod ei werthu am bris llai, neu talu rhan o'r elw yn nol i'r Cyngor.
SW a ddywedodd:Os oes person isio prynnu ty gan y Cyngor yna yn syml dylsant dalu'r pris mae'r farchnad yn gofyn amdano ar yr adeg honno. Nid rhyw sybsidi enfawr gan y wladwriaeth.
Wel wir, aelod o Plaid yn plygu i rym y farchnad. Dwi'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd
Wel ar hyn o bryd mae modd prynnu ty mewn ar bris gostynedig mewn rhyw farchnad caeth iawn - h.y. dim ond y tenant yn cael ei brynnu gan y Cyngor a hynny am llawer llai nag pris y farchnad. Ac yna, ei werthu ar y farchnad agored i unrhyw berson a fynant. Dyna ni, Thatcher (a rwan Llafur honedig) yn defnyddio'r wladwriaeth i greu elw er budd neb ond y person sy'n berchen y ty.
Fel nodiais i gynne, yn fy marn i dylse person sy'n prynnu ei dy cyngor am bris gostynedig ei werthu mewn marchnad cyfyngedig hefyd.
Neu, wrth gwrs gorfodi landlordiaid preifat i werthu eu tai nhw i tenantiaid am llai nag pris y farchnad hefyd. Ond, dwi'n siwr na fyddai hi wedi meiddio gwneud hynny, misio ypsetio'r gwyr busnes arianog nagoes?
Rhods a ddywedodd:Ac or gwerthiant tai - eto - da ni yn gweld un ochr!!! Dewch mlan bois - falle fod rai o wannabe middle class reds maes e ddim di mynd ar gyfal ty neu stad council or blaen !!!!( jyst jocan - na gyd!!!!! ) ond fel wedes i gynne jyst drychwch ar y nifer o teuluoedd sydd yn berchen ar dai hen gyngor. Mae'r chwith am rhyw rheswm yn meddwl fod e yn rong am rhyw rheswm i ferchen ar ty/eiddo. Wel - y realiti yw mai rhan fwy o bobl (99.99%)am berchen ar dai/eiddo a pam talu miloedd ar filoedd menw rent ir cyngor lleol?
Iawn, dwi'n berchen ar fy nhy fy hun ac yn talu morgais o £96,000 sef 100% o werth y ty. Cyn hynny oeddwn i'n talu £500 y mis mewn rhent i landlord preifat. Dyna oedd rhaid i fi ei wneud i gael byw mewn ty yn fy ardal i. Byddwn i di gallu cael ty cyngor? Na, dim digon ohonyn nhw yn Rhuthun bellach, er bod stadau eithaf mawr, fel ti'n deud oedden nhw wedi eu gwerthu. Oeddwn i'n gallu disgwyl gostyngiad ar prynnu dy gan fy landlord preifar? Na, er fy mod wedi rhoi dros £12,000 iddo mewn rhent pan aeth fy hen gartref ar y farchnad £140,000 oedd gwerth y ty a £140,000 oedd o am ei gael.
Felly sut bod tenant ty Cyngor yn fwy haeddianol nag tenant landlord preifat Rhods?
Ar ben hynny, dwi'n gwbod am sawl dy cyngor yn Sir Ddinbych sydd wedi cael eu prynnu yn y 3 blynedd diwethaf ma gan y tenantiad am bris isel ar y diawl er i'r cyngor rhai misoedd ynghynt wario gryn dipyn o arian ar neud y ceginau a'r stafelloedd molchi i fyny. A pwy sy'n talu am hwnne? Ni'r trethdalwyr.