Ynglyn ac un genhedlaeth yn manteisio allan o arwerthiant Thatcher ac am eu plant.... Wel be ma hynny wedi golygu yw bod cyfoeth y teulu di codi wrth i bris iw tai godi. Wedyn ma hyn di rhoi'r allwedd i'w plant prynnu tai. Ma fe di diwgydd gyda un o ffrindiau fi yn ddiweddar - gwnath ei mam ai thad prynnu ty cyngor gyda'r gwerthiant yn yr 80au - r' on nhw yn deulu dlawd uffernol ond yn amlwg mae ei sefyllfa wedi gwella erbyn hyn. Maent wedi helpu ei merch nawr rhoi blaendal ar gyfer ty mae wrthi'n prynnu. Tasai hwnna ddim di digwydd o gwbl oni bai am yr arwerthiant - a byddai mam ai tad dal yn dlawd, heb dy, nac arian, na gobaith iddyn nhw wnai plentyn. Gall neb ddianc o ffeithiau fel hyn.
Un teulu ydy hynny. Dwi yn fab i ddau athro a felly nhw hefo cyflog neis, mae'r rheini yng nghyfraith yn berchen ar gwmni llwyddianus yn yr Alban mae nhw wedi ei greu eu hunain gyda gwaith caled sy'n cyflogi fy mrawd yng nghyfraith a 2 arall. Ond, dwi erioed wedi gofyn i nhw am help gyda prynnu ty a byddwn i byth, dim ond am help gyda neud chydig o waith DIY o gwmpas y lle. Onid gellir dadlau mae rhywbeth 'dosbarth canol' ydy cael mami a dadi i helpu ti brynnu ty yn hytrach nag neud y gwaith caled dy hun? Fel ddudis i, naethon ni orfod cael morgais 100% i gael ty, dim blaendal ganddom ni a dim ond cynilion oeddwn i wedi bod yn ei gadw ers i mi ddechrau gweithio yn 16 oed i dalu am y ffioedd. Dwi'm yn ystyried fy hun yn 'special case' o gwbl. Dyna oedd rhaid ei wneud i brynnu ty. Mor syml a hynny.
Mae llawer iawn o blant 'dosbarth gweithiol' methu lan a chael ty cyngor gan bod dim digon o Dai Cyngor. Llawer yn byw mewn tai Cymdeithasau Tai fel Tai Clwyd ac ati ond llawer yn byw mewn tai rhent yn y sector breifat hefyd.
Fel wedes i - gellir nid plesio pawb - felly dwi ddim yn meddwl. Ma pobl sydd yn byw mewn tai cyngor yn fwy tlawd na'r rheiny sydd yn byw mewn
tai preifat (drychwch er enghraifft ar y llu o bobl dosbarth canol sydd wedi symud i Gaerdydd i weithio ir cynullaid ac yn byw mewn tai preifat yn Canton, Grangetown ac yn ennill arian da) - sain meddwl fod hwnna yn flaenoraieth a sain meddwl y dylsai nhw cael yr un fanteision a phobl sydd yn diodde o tlodi! Dwi yn meddwl fod hwnna yn bwynt teg a synhwyrol.
Dwi'm yn siarad am y cyfryngis ac ati yng Nghaerdydd, dwin siarad am pobl gyffredin sy'n rhentu tai preifat ar draws Cymru a'r DU. Mae arnai ofn bod llawwer o bobl 'dosbarth gweithiol' yn byw mewn tai preifat erbyn hyn. Ti'n gwadu'r hawl iddynt nhw brynnu eu tai yn rhad. Be ydy'r gwahaniaeth rhwng 1 person sydd wedi bod digon lwcus i gael ty cyngor ac un arall sydd wedi gorfod cael ty preifat iw rhentu?
Y gwir ydy dy fod ddim am weld 'cyfoeth' y gwyr busnes yn cael ei gymryd oddi wrthynt!
Abathdi'r busnes 'dosbarth' - dwi'n teimlo fod e'nallweddol yn y cyswllt yna (wel y pwnc yma yn sicr) yn fy marn i. Dwi yn meddwl fod e'n dangos psychy gwhanol y dosbarth canol ar dosbarth gweithiol. HY bod y canol yn cymryd rhywbeth fel prynnu tai yn rhwybeth caniataol - ond ir gweithiol mae yn golygu rhwybeth lot yn fwy iddyn nhw ai teuluoedd ac yn rhoi gobaith iddynt yn nhermau buddsoddiad ac hefyd y dyfodol (yn enwedig pam dwi yn son am engrhaifft fy ffrind uchod) .
Mwy o gyffredinoli mae dod a rhyw ddadl Dosbarth Canol yn ei olygu. Mi olygodd o lot i fi a'r wraig pan brynnom ni'n ty ni rhyw 9 mis yn nol. Mae llawer o pobl na fedrant fforddio hyn sydd ddim yn byw mewn Ty Cyngor Rhods. Mae'n biti dy fod yn dewis anwybyddu'r pobl yma.
Gad i fi neud pethe yn glir S.W - falle bod ti yn di camddeall a falle mai fi sydd yn ranol ar fai am hynny. Nid wyf yn son am ti - son yn gyffredinol am bobol ydw i yn gyffredinol(onestli!) . Ymddiheuriadau os ti fi di rhoi'r camargraff i ti
Iawn. Ti just di dewis pwnc anghywir i drio rhoi bai am fethiannau pob dim ar y Dosbarth Canol. Mae on rhywbeth sy'n wirioneddol mynd ar fy wic i bod pobl yn lle trio trafod issues yn dweud "bai dosbarth canol di hynny". Ceillau.