Gwerthu tai cyngor - da 'ta drwg?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cath Ddu » Gwe 23 Chw 2007 10:28 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Cath - wrth gwrs mae'r gwahoddiad i dreffynnon yn sefyll, wyt ti dal ofn dwad?


Ofn?! O ni dan yr argraff dy fod wedi symud i Ddolgellau.

Sbecs a ddywedodd:O rhan polisiau sy'n fuddiol i'r dosbarth gweithiol Cath ti mor bell or marc ei fod yn chwerthinllyd. Den ni ddim yn cytuno ar wleidyddiaeth yn aml ond fel mae SW yn deud - one off bribe oedd gwerthu tai cyngor.


Ddaru SW ddim dweud hynnyond fe ymddengys mai dyna oedd o'n feddwl. Unwaith eto - NA. Am y tro cyntaf mae pobl o'r dosbarth gweithiol sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i'r wlad trwy dalu trethi a magu plant yn gallu gadael etifeddiaeth i'r plant hynny. Rwan mae'r dosbarth canol wedi cymeryd yn ganiataol ei hawl i adael eiddo a chyfoeth i'w plant - proses oedd yn ail greu cyfoeth o fewn yr un dosbarth. Trwy bolisi Thatcher fe gafodd cannoedd o filoedd o'r dosbarth gweithiol hefyd y cyfle i adael cyfoeth i'w plant a thrwy hynny newid amgylchiadau teuluoe cyfan unwaith ac am byth. Pam fod hyn yn ymddangos mor beryglus i gyfranwyr dosbarth canol Maes E? Ofn level playing field?

Sbecs a ddywedodd:Fedri di ddadle os wyt ti eisiau ei fod wedi elwa un cenhedlaeth o denantiaid cyngor


Gweler uchod.

Sbecs a ddywedodd:Byddi di'n deud nesa bo cau byrberi, docs lerpwl neu longbridge yn fuddugoliaeth i'r dosbarth gweithiol - achos gath un cenhedlaeth o weithwyr bribe bach redundancy.


Wrth gwrs fod hi'n fuddugoliaeth. Be di'r pwynts cadw swyddi sy'n mynd i ddiflanu ar ddiwedd y dydd beth bynnag. Be di'r pwynt hyfforddi pobl i greu dillad i Chavs os oes modd cynig dyfodol gwel iddynt? A ddylid fod wedi cadw Longbridge ar agor i greu eir crap jyst oherwydd fod y cwmni yn un Prydeinig? C'mon Sbecs - rho gyfle i bobl ail-hyfforddi a phrynu Skoda :winc: .

Sbecs a ddywedodd:A jest fel Aside i Rhods - mae undebau yn etholedig met. Dyna'r holl bwynt.


O ia, sori am hynny. Dwi'n siwr fod etholwyr Gwynedd yn falch o'i gallu i ddylanwadu ar rym yr undebau o fewn Cyngor Gwynedd a'r Gwasanaeth Iechyd. Sod the public - give ME my rights. Dyna dy undebau llafur Sbecs, jyst un grwp arall sy'n amddiffyn eu hunain ar draul y cyhoedd.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Gwe 23 Chw 2007 10:38 pm

S.W. a ddywedodd:Sori Bribe oeddwn i'n meddwl. Un cenhedlaeth yn manteisio ar tai cutprice, wedyn gwerthu eu tai am ddiawl o bris.


Iawn, debyg fod bribe yn well gair na blacmel. Serch hynny, os oed pawn yn gwerthu ei tai er mwy gwneud y fath elw lle yn union oedden nhw'n byw wedyn felly?

SW a ddywedodd:Iawn, dwi'n berchen ar fy nhy fy hun ac yn talu morgais o £96,000 sef 100% o werth y ty. Cyn hynny oeddwn i'n talu £500 y mis mewn rhent i landlord preifat. Dyna oedd rhaid i fi ei wneud i gael byw mewn ty yn fy ardal i. Byddwn i di gallu cael ty cyngor? Na, dim digon ohonyn nhw yn Rhuthun bellach, er bod stadau eithaf mawr, fel ti'n deud oedden nhw wedi eu gwerthu. Oeddwn i'n gallu disgwyl gostyngiad ar prynnu dy gan fy landlord preifar? Na, er fy mod wedi rhoi dros £12,000 iddo mewn rhent pan aeth fy hen gartref ar y farchnad £140,000 oedd gwerth y ty a £140,000 oedd o am ei gael.


Felly cefnfigen ydi sail dy ddadl SW? Y diawled yna mewn tai Cyngor yn cael mantais? Rhag cywilydd i Thatcher, y disbarth canol yn dioddef ond yr hen ddosbarth gweithiol na'n cael mantais. Difyr.

SW a ddywedodd:Felly sut bod tenant ty Cyngor yn fwy haeddianol nag tenant landlord preifat Rhods?


Dwi'n gywir, cefnfigen YDI sail dy ddadl.

SW a ddywedodd:Ar ben hynny, dwi'n gwbod am sawl dy cyngor yn Sir Ddinbych sydd wedi cael eu prynnu yn y 3 blynedd diwethaf ma gan y tenantiad am bris isel ar y diawl er i'r cyngor rhai misoedd ynghynt wario gryn dipyn o arian ar neud y ceginau a'r stafelloedd molchi i fyny. A pwy sy'n talu am hwnne? Ni'r trethdalwyr.


Perffaith wir, ond pwy wedyn oedd wedi gorfod byw mewn tai llai nag addas ers blynyddoedd SW - yr union denantiaid sydd heddiw'n prynu. Beth am ei cyfraniad hwy i gynnal y stoc dai? Ac yng Ngywnedd un dull o bontio diffyg ariannol y Cyngor ydi codi rhent tai cyngor yn uwch o lawer na chwyddinat - ai syndod fod pobl am hawlio'r cyfle i brynu er mwyn ysgoi talu am gamweinyddu y Cyngor lleol?

O ddifrif SW, tydi dy ddadl yn ddim mwy na cri'r dosbarth canol fod bywyd ddim yn deg.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan S.W. » Sad 24 Chw 2007 11:11 am

Cath, i ddechrau dydw i ddim yn prynnu i fewn i'r ddadl ti'n trio'i greu mae rhyw genfigen dosbarth canol tuag at y dosbarth gweithiol ydy hwn. Yn wahanol i rai dwi ddim yn diffinio pwy ydw i nag pwy ydy pobl eraill o'r haen cymdeithasol honedig rydw i neu eraill yn perthyn iddo fo. Dydw i'm yn diffinio person ar saul eu cyfoeth neu sefyllfa gwaith. Ond, o ran diddordeb be sy'n fy ngwneud i'n wahanol i berson sy'n byw mewn ty cyngor? Mae'r ddau ohonom yn gorfod gweithio i fyw, dydw i ddim yn mynd ar wyliau yn flynyddol - oni bai i aros gyda'r rhieni yng nghyfraith yn yr Alban. Dwi'n hapus iawn fy myd ac yn gweithio'n galed er mwy gallu fforddio mwy yn y dyfodol. Dwi'm yn meddwl fy mod i unrhyw gwell nag gwaeth nag person sy'n byw mewn ty cyngor yn gweithio mewn ffatri ayyb. Ydy bod yn fab i athrawon a wedi bod trwy'r brifysgol yn fy ngwneud i'n llai o berson?

Felly na nid cenfigen ydy hyn o gwbl. Holl dwi'n ddeud ydy mae bribe gan Thatcher i'r dosbarth gweithiol, oedd yn dueddol o gefnogi Llafur yn draddodiadol er mwyn ceisio eu cael eu cefnogaeth nhw. Petai Llafur wedi gwneud hyn gelli di ddychmygu ymateb y Blaid Geidwadol - gwobrwyo eu cefnogwyr ac ati. Fy mhroblem i ydy bod modd prynnu ty cyngor am nesa beth i ddim (yn amlwg yn dibynnu ar hyd eich tenantiaeth) ac yna ei werthu ar y farchnad agored i unrhyw berson y mynoch am bris mor uchel ac y gallwch. I fi, mae'r system mae Cymdeithasau Tai yn ei wneud yn lot mwy teg - cymorth i brynnu ty ac os yn ei werthu mewn amser ac yn gwneud elw yna mae'n rhaid talu'n nol rhan o'r cymorth hwnnw gan olygu bod (gobeithio) mwy o arian yn ei dro yn cael ei ffuddsoddi yn y stoc tai.

O ran dy sylw ynglyn a tenantiaid yn byw mewn tai llai nag addas. Nid dim ond yn y sector tai cyhoeddus mae hyn yn bodoli Cath. Dwi'n gwybod am sawl ty yn y sector preifar (mi fuais i'n byw mewn un) oedd yn uffernol - tamprwydd yn y waliau ac ati. Hefyd pan brynnais i'r ty dwi'n byw ynddo fo rwan roedd gwaith aruthrol iw wneud arno, a mae lot o waith dal iw wneud arno fo - newid y to ar y cegin, tynnu'r stafell molchi 1970au allan, rhoi rhywfath o wres yn y gegin ayyb. Fi sy'n gorfod talu am hyn. Mae'n hollol anghywir i tenantiaid mewn unrhyw sector fyw mewn tai 'sub standard' ond os yn cael y cyngor i wario arian ar y ty (gan godi gwerth y ty) ac yna ei brynnu am bris isel mae rhywbeth yn elfennol anheg am hynny.

Gan bod cynlleied o dai ar gael iw rhentu gan y Sector gyhoeddus rwan a hefyd y Cymdeithasau Tai gan olygu bod mwymwy o'r pobl tlotach yn gorfod rhentu gan landlordiaid preifat byddi di'n hoffi gweld deddf yn dod i fewn gan rhoi'r hawl i denantiaid yn y sector preifat i brynnu eu tai nhw am bris gostynedig? Wedi'r cwbl mae hynny hefyd yn cantiatau i pobl adael etifeddiaeth i'r genhedlaeth nesaf, cael sefydlogrwydd ac ati.

Felly i gloi na Cath Ddu, "Nice Try' ond nid cenfigen gan y dosbarth canol tuag at y dobarth gweithiol ydy hyn o gwbl. Ydy pob person dosbarth gweithiol wedi prynnu ty cyngor felly?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan SbecsPeledrX » Sul 25 Chw 2007 4:29 pm

Cath Du - dwi'n meddwl fod pawb yngwbod dy fod yn Tori blaenllaw. Wyt ti o ddifri mor wael wrth ddadlau mai fy nghalw i'n genfigenus ac yn ddosbarth canol yw'r unig beth fedri di neud? Methu deall fy mhwynt neu gwrthod ei ateb wyt ti? Efallai fod ti a dy debyg (sydd byddwn i'n dadlau o'r un dosbarth cymdeithasol a minne) yn gweld arian mawr neu eiddo ym mhoced un person fel budugoliaeth i'r person yna. Ond diolch i dduw mae rhai ohonom yn dal i gredu fod bod ar dy enill, ar draul gweddill dy ddosbarth yn gam yn ei hol.

Ti'n gwbod mod i'n sosialydd, a dwi ddim yn disgwyl i ti gytuno efo fi. Ond dwi YN disgwyl i ti ddeall mod i o'r farn fod digonedd o gyfoeth i fynd rownd, petai'r byd yn cael ei drefnu'n well. Dwi ddim eisiau aros yn dlawd am byth, dwi ddim eisiau i gweddill fy nosbarth gneud. Ond nid drwy i canran ohonom gael ein prynnu gan Thatcher - efo'n eiddo ein hunain - y mae gwneud.

Y gwir ydi, rhoddodd Thatcher eiddo cymunedol i un cenhedlaeth o denantiaid cyngor. Petai hi wedi caniatau i cynghorau wario'r incwm ddoth yn sgil hyn i ail adeiladu'r stoc dai cyngor bydde gen ti rhyw fath o ddadl. Ond ei bwriad hi oedd dileu'r cysyniad o dai Cyngor, yr hawl i rhentu a tenantiaeth oes. Rwan, achos bo fy modryb a fy nain wedi cael swp o bres gan Thatcher (ac efo pawb arall yn cymryd gwirion bydde fod heb cymryd) does dim ty cyngor i mi, a fydd dim ty yn ei chymuned ei hun am bris teg i fy merch.

Dyma'r unig wlad yn ewrop lle mae'r mwyafrif yn perchen y tai y maent yn byw ynddyn nhw. Rhentu yw'r norm ar draws y byd, ond rhentu am bris teg ac efo tenantiaeth sicr. Roedd Thatcher yn benderfynnol o chwalu holl enillion y dosbarth gweithiol ers y Rhyfel byd. Ac heblaw yr NHS fe wnaeth.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan SbecsPeledrX » Sul 25 Chw 2007 4:34 pm

Ac SW - paid chwarae ei gem. Os wyt ti'n gweithio am gyflog ti'n dosbarth gweithiol. Boed yn gyfreithiwr neu dyn bin. Yr un ydi dy sefyllfa economaidd mewn gwirionedd - jest bod dy gyflog yn uwch.

Mae dau ddosbarth, gweithiol a rheoli.

Snobyddiaeth yw unrhywbeth arall.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan SbecsPeledrX » Sul 25 Chw 2007 4:38 pm

Wrth chwalu'r sector tai cyngor rhoddodd Thatcher y cenhedlaethau nesa o'n dosbarth cymdeithasol ni ar drugaredd y landlordiaid preifat - perchnogion eiddo. Y dosbarth rheoli. Rhoi arian a grym yn nhwylo'r dosbarth rheoli wnaeth Thatcher drwy werthu tai cyngor am byggar all a gwrthod gadael i cynghorau adeiladu tai erill. Ac mi oedd hi'n deall yn iawn be oedd hi'n ei wneud.

Eniwe - pwy sydd eisiau trefnu parti mawr yn unai Sir y Fflint neu Pen Llyn - yn barod at pryd fydd yr ast yn marw. (from the neck down dwi'n golygu, mai di marw o'r gwddf fyny ers chydig o flynyddoedd rwan.)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Rhods » Llun 26 Chw 2007 11:13 am

SbecsPeledrX a ddywedodd:Wrth chwalu'r sector tai cyngor rhoddodd Thatcher y cenhedlaethau nesa o'n dosbarth cymdeithasol ni ar drugaredd y landlordiaid preifat - perchnogion eiddo. Y dosbarth rheoli.


Faint felly o bobl Plaid Cymru neu cenedlaetholwyr asgell chwith falle sydd ddim yn y Blaid sydd wedi bod yn lanlordiaid preifat yn y gorffennol? ...yn union! Gallai meddwl am lods!!!!! A faint gwnath prynnu cyfrandaliadau da cwmniau y preifateiddiwyd dan llywodraeth Geidwadol yr 80au? ...ydi'r gair 'rhagrith' yn dal dwr? :?

Mater arall -
Beth sydd gan rhengoedd dosbarth canol Plaid Cymru yn erbyn tai cyngor yn cael ei werthu a pobl tlawd yn eu prynnu? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Rhods » Llun 26 Chw 2007 11:23 am

S.W. a ddywedodd:
Felly sut bod tenant ty Cyngor yn fwy haeddianol nag tenant landlord preifat Rhods?



Dim mater o fod yn 'fwy haeddianol' yw e. Ma pobl sydd yn byw mewn tai cyngor yn tueddol o fod yn reit dlawd (sori - sain gwbod be di'r disgrifad gwleidyddol cywir!) wel rhowch e fel hyn - lot yn dlotach na rheiny sydd da tenantiaid preifat. Mae hwnna yn weddol amlwg. Mewn byd delfrydol - hoffwn plesio pawb S.W. - ond dwi yn meddwl dylsai pobl fwya tlawd ein cymdeithas cael cyfle a gobaith mewn bywyd - a mae rhoi cyfle iddynt berchen ar dy yn rhwybeth sanctiadd ac yn rhoi hunan barch iddynt - ac yn buddsoddiad iw teulu a'u plant fel dywedodd y Gath.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Rhods » Llun 26 Chw 2007 11:26 am

SbecsPeledrX a ddywedodd: Os wyt ti'n gweithio am gyflog ti'n dosbarth gweithiol. Boed yn gyfreithiwr neu dyn bin.

Mae dau ddosbarth, gweithiol a rheoli.



:lol: :lol: :lol: :lol:

a beth arall - felly yw bobl sydd berchen ar busnes ei hunan??? A'i 'rheoli' yw hwnna?? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan S.W. » Llun 26 Chw 2007 11:37 am

Rhods a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:
Felly sut bod tenant ty Cyngor yn fwy haeddianol nag tenant landlord preifat Rhods?



Dim mater o fod yn 'fwy haeddianol' yw e. Ma pobl sydd yn byw mewn tai cyngor yn tueddol o fod yn reit dlawd (sori - sain gwbod be di'r disgrifad gwleidyddol cywir!) wel rhowch e fel hyn - lot yn dlotach na rheiny sydd da tenantiaid preifat. Mae hwnna yn weddol amlwg. Mewn byd delfrydol - hoffwn plesio pawb S.W. - ond dwi yn meddwl dylsai pobl fwya tlawd ein cymdeithas cael cyfle a gobaith mewn bywyd - a mae rhoi cyfle iddynt berchen ar dy yn rhwybeth sanctiadd ac yn rhoi hunan barch iddynt - ac yn buddsoddiad iw teulu a'u plant fel dywedodd y Gath.


Sori Rhods ond rhaid i fi fod yn gwbwl onest hefo ti yma. Mae hwnne'n agwedd patronising uffernol.

Ers pryd mae cael bod yn berchnen ar dy yn 'Sanctaidd'? "An English man's home is his castle" ys dywed y Sais, ond Sanctaidd? Come off it! To uwch dy ben di yn bwysig eithriadol ac efallai yn "Sanctaidd", ond cael bod yn berchen ty? Nachdi!

Wyt ti hefyd yn wirioneddol yn credu mae rhoi ty rhad i berson sy'n rhoi "cyfle", "gobaith", a "hunan barch" i'r dosbarth gweithiol? Ydw i felly i gredu bod pawb sydd ddim yn berchen ar eu tu eu hunain ddim hefo hunan barch, gobaith nag cyfle mewn bywyd? Felly nid gwaith sy'n talu'n deg ac ati mae pobl angen ond ty eu hunain. Erm ok. :rolio:

A nai ofyn yr un peth i ti a nes i ofyn o'r Gath. Be am yr holl bobl 'dosbarth gweithiol' ma sy'n byw mewn tai rhent yn y sector breifar? Mae ne lot ohonyn nhw. Wyt ti am adael iddynt nhw gael prynnu eu cartrefi nhw yn rhad hefyd? Neu ddim isio pissio ffwrdd y gwyr busnes sy'n berchen ar y tai yno?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 42 gwestai

cron