S.W. a ddywedodd:Mae'r ty dwi newydd ei brynnu yn cyn Dy Cyngor.
Touche!
SW a ddywedodd:A fel ddudis i eisioes, y brif beth i fi ydy bod modd prynnu tai cyngor am nesa beth i ddim oherwydd hyd eich tenantiaeth ond wedyn ei werthu am bris uchel
A dyma'r pwynt. Mae y bobl hynny sy'n cael y gostyngiad mwyaf wedi buddsoddi blynyddoedd o gynnal a chadw yn y tai, mae nhw wedi talu rhent am flynyddoedd - a'i dweud wyt ti y dyle rhywun sydd wedi bod yn denant Tŷ Cyngor am ugain mlynedd ddechrau o'r dechrau o fewn y farchnad dai os ydynt yn dymuno bod yn berchnogion ei tŷ? O fod yn 45+ yn gwneud y penderfyniad i brynu byddai angen iddynt barhau i weithio tan yn 70 i dalu morgais arferol er gwaethaf talu am ei tŷ ers ugain mlynedd. Ydi hynny'n deg?
O ran gwerthu yn syth am grocbris, wel am lol. O gael gostyngiad sylweddol yna lle yn union mae nhw'n debygol o gael tŷ arall am bris cyfatebol? Hyd yn oed mewn pentrefi megis Felinheli mae ex tai Cyngor yn rhatach na thai preifat felly hyd yn oed o wneud yr elw (honedig) anferthol o gael gostyngiad llawn dwi'n amheus os ydi'r bobl hyn am ddewis gwerthu. O werthu lle yn union y byddan nhw'n byw SW? Fyddai pris tŷ Cyngor yn ddigon iddynt allu prynu tŷ arall? C'mon SW, get real.
SW a ddywedodd:Mae'r system gan Gymdeithasau Tai yn llawer tecach - cymorth i brynnu a'r Gymdeithas yn cadw perchnagoaeth ar ran io'r ty felly pan ddaw'n amser i werthu mae'r Gymdeithas yn cadw rhan bychan o'r elw ac yn ei ail fuddsoddi.
Un o ddewisiadau Cymdeithasau Tai ydi'r hyn ti'n ddisgrifio ac wrth gwrs mae trefn o'r fath yn parhau i olygu fod rhywun sydd efo rhan berchnogaeth yn unig yn mynd i'w chael hi'n anodd iawn symud ymlaen pan fo'r teulu'n fwy ayb. Serch hynny, fe un sy'n credu mewn dewis mae'n rhaid cytuno fod dewisiadau o'r fath yn beth da. Gobeithio bod ti hefyd yn derbyn y ffaith fod yna dwf sylweddol wedi bod yn y stoc dai oedd yn nwylo Cymdeithasau Tai drwy gydol yr wythdegau a'r nawdegau (ffaith sy'n darnio dadl Sbecs mae bwriad gwerthu tai Cyngor oedd cosbi y dosbarth 'gweithiol').
Serch hynny, yr oedd yna agenda yn erbyn gafael cynghorwyr lleol a phleidiau gwleidyddol ar y stoc tai Cyngor. Heb os, bu'r hawl i brynu yn fodd o lacio gafael pleidiau gwleidyddol dros fywydau pobl. Dwi'n cofio canfasio ym Mhenryncoch ger Pontypridd adeg is-etholiad 1989 a posteri Kim Howells yn britho'r tai cyngor. O fynd ati i gnocio'r drws cael ar ddeall fod bwriad gan y trigolion i bledleisio i Syd Morgan (Plaid Cymru) ond fod y ferch angen tŷ Cyngor felly yr oedd angen plesio'r cynghorydd lleol. Mewn tŷ arall gwraig dros ei deg a thrigian yn nodi fod y Cynghorydd lleol wedi rhoi y poster yn ei ffenest gan ei fod wedi sicrhau byngalo iddi . Onid llwyddiant y polisi oedd y modd y cafodd gafael brwnt y Blaid Lafur ar bledleisiau trigolion stadau cyngor i leihau yn sylweddol?
SW a ddywedodd:Mi atebodd Rhods, be amdanat ti Cath Ddu. Byddet ti'n cefngoi'r hawl i brynnu tai o'r sector breifat gan denantiaid 'dosbarth gweithiol'? Be ydy'r gwahaniaeth rhwng berson tlawd sy'n byw mewn ty cyngor a person tlawd sy'n byw mewn ty sector breifat?
Dim, ond mae yna wahaniaeth o ran perchnogaeth y tŷ. Yn achos y cyntaf mae'r tŷ yn eiddo preifat yn yr ail achos mae'r tŷ yn eiddo i lywodraeth leol neu ganolog. I mi, mae llywodraeth yn ddarostyngedig i'r etholwyr felly mae polisi sy'n lleihau grym y wladwriaeth gan gryfhau annibyniaeth yr etholwyr yn un da. Byddai gorfodi landlord preifat i werthu tŷ am lai na phris y farchnad yn ymyraeth afresymol gan y wladwriaeth yn hawliau yr unigolyn. Felly na SW, fyddwn i ddim hyd yn oed yn ystyried y fath bolisi.