Cath Ddu a ddywedodd:Wel i'r gwrthwyneb GT. Os nad yw'r SF yn ail ddewis i fawr neb yna fe fyddwn yn dadlau fod STV yn eu trin yn gymharol deg.
Nid anhegwch oedd gen i - 'mond dweud nad SF sy'n ennill o'r drefn - yr UUP sy'n dod allan orau efallai.
Cath Ddu a ddywedodd:Fe fyddwn yn gwerthfawrogi dy sylwadau am y diffyg turnout ymysg yr Unoliaethwyr - a'i negyddiaeth 'ta derbyn y sefyllfa sydd yma? (sef fod pethau'n symud yn araf tuag at newid parhaol yn y gogledd).
'Dwi'n credu bod y gwahaniaeth yn y gyfradd pleidleisio ychydig yn llai bellach nag y bu ers talwm pan oedd mwy o bobl o lawer yn pleidleisio. Nodaf y cyfraddau isod - mae'r etholaethau yn nhrefn eu natur crefyddol -yr etholaeth lleiaf Pabyddol yn gyntaf, a'r un fwyaf Pabyddol yn olaf.
East Belfast - 60.0%
North Down - 53.8%
Strangford - 54.5%
East Antrim - 53.5%
Lagan Valley - 60.0%
S Antrim - 58.6%
N Antrim - 72.9%
East Londonderry - 60.9%
South Belfast - 62.4%
Upper Bann - 61.1%
North Belfast - 60.9%
Fermanagh South Tyrone - 71.2%
South Down - 65.0%
Mid Ulster - 73.1%
Newry & Armagh - 70.8%
West Tyrone - 71.7%
Foyle - 63.9%
West Belfast - 67.4%
Mae gwahaniaeth - ond efallai nad yw mor amlwg ag y byddai ambell un yn meddwl. Mae ffactorau eraill ar waith hefyd - megis dosbarth cymdeithasol - yr etholaethau tlotaf sy'n fwyaf tueddol i bleidleisio. Yn gwahanol i weddill Prydain mae pobl dosbarth gweithiol yn ymwneud a'r broses wleidyddol mwy nag yw rhai dosbarth canol.
Fedra i ddim rhoi eglurhad i ti, ond efallai ei bod yn arwyddocaol bod yna elfen lwythol gref i batrymau pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon - ac mae ffyddlondeb llwythol yn sicr o fod yn bwysicach mewn rhai ardaloedd na'i gilydd.
Sanddef a ddywedodd:Mae rhan fwyaf y Garda Síochána yn dod o gefn gwlad Iwerddon, a llawer iawn ohonynt o gadarnleoedd y Wyddeleg (dw'i ddim yn gwybod os mae'r sefyllfa wedi newid, ond pan o'n i'n byw yn y Weriniaeth yn y nawdegau cynnar roedd y gallu i siarad Gwyddeleg yn ofynnol i fod yn heddwas), felly mae/roedd llawer ohonynt yn dod o'r un aelwydydd â chefnogwyr (ac aelodau) yr IRA.
Mae llawer o'r Garda yn wir yn dod o lefydd gwledig - ond pleidleiswyr Fine Gael - plaid wledig - ydi llawer ohonynt. Does yna fawr o gariad rhwng gweriniaethwyr a'r Garda - cafodd nifer o aelodau'r Garda eu lladd gan yr IRA. Dydi'r llithrigrwydd ieithyddol sydd ei angen i gael swyddi cyhoeddus yn y Weriniaeth ddim am beri trafferth i fawr neb.
Sanddef a ddywedodd:Dw'i ddim yn deall be ti'n dweud yma. Yn sicr doedd dim cydweithrediad rhwng yr RUC a'r mudiad gweriniaethol...
Roedd 'rheoli' terfysgwyr Unoliaethol (a Gweriniaethol i raddau llai) yn rhan o strategaeth rhyfel Prydain - felly roedd yn sefydliadol.
Cath Ddu a ddywedodd:Yn rhyfedd iawn mae hefyd yn ymddangos yn weddol amlwg fod yna berthynas wedi bod rhwng y lluoedd cudd Prydeinig ac elfennau o'r mudiad terfysgol gwerinaethol a hynny'n benodol er mwyn ysgogi y broses heddwch. Ond mater arall ydi hyn.......
Yn wir.
Cath Ddu a ddywedodd:A dweud y gwir, dwi ddim yn credu fod y gefnogaeth o du'r Garda wedi bod yn sefydliadol ac felly hefyd yn achos yr RUC fe fyddwn yn dadlau.
Na, na - roedd
RUC Special Branch yn rhan ganolog o hyn oll. Mae'n debyg y byddan nhw yn dod allan o bethau yn waeth nag MI5 ac ati am bod Mrs O'Loan efo'r hawl i edrych i mewn i'w busnes. Yr RUC gafodd eu pardduo yn adroddiad diweddaraf Mrs O'Loan i'w gweithgareddau yng Ngogledd Belfast -
Gweler.
Mae'n debyg bod mwy o lawer o'r math yma o beth i ddod.