GT a ddywedodd:'Dwi'n credu bod y gwahaniaeth yn y gyfradd pleidleisio ychydig yn llai bellach nag y bu ers talwm pan oedd mwy o bobl o lawer yn pleidleisio. Nodaf y cyfraddau isod - mae'r etholaethau yn nhrefn eu natur crefyddol -yr etholaeth lleiaf Pabyddol yn gyntaf, a'r un fwyaf Pabyddol yn olaf.
East Belfast - 60.0%
North Down - 53.8%
Strangford - 54.5%
East Antrim - 53.5%
Lagan Valley - 60.0%
S Antrim - 58.6%
N Antrim - 72.9%
East Londonderry - 60.9%
South Belfast - 62.4%
Upper Bann - 61.1%
North Belfast - 60.9%
Fermanagh South Tyrone - 71.2%
South Down - 65.0%
Mid Ulster - 73.1%
Newry & Armagh - 70.8%
West Tyrone - 71.7%
Foyle - 63.9%
West Belfast - 67.4%
Mae hwn yn edrych yn weddol drawiadol i mi. Ac eithrio Foyle (cyn gadarnle yr SDLP - llai felly bellach) mae'r 7 etholaeth gydag canran uchel o babyddion yn gweld 65% a mwy yn bwrw pleidlais. Mae'r etholaethau hynny lle mae llai na 55% y bwrw pleidlais yn dueddol o fod yn etholaethau mwyafrifol Protestanaidd. Dwi'n derbyn dy bwynt am fater dosbarth ayb ond hyd yn oed wedyn fe ymddengys fod mwy a'r waith yma na Demograffeg yn unig.
GT a ddywedodd:Na, na - roedd RUC Special Branch yn rhan ganolog o hyn oll. Mae'n debyg y byddan nhw yn dod allan o bethau yn waeth nag MI5 ac ati am bod Mrs O'Loan efo'r hawl i edrych i mewn i'w busnes. Yr RUC gafodd eu pardduo yn adroddiad diweddaraf Mrs O'Loan i'w gweithgareddau yng Ngogledd Belfast - Gweler.
Mae'n debyg bod mwy o lawer o'r math yma o beth i ddod.
Wel yn wir. Mae ymchwiliadau o'r fath yn allweddol os am greu hygrededd yn y broses heddwch. Yn anffodus ymddengys fod yna fwy o frwdfrydedd dros rai mathau o ymchwiliadau nac eraill. Tybed pryd y cawn ymchwiliad i berthynas elfennau o'r PIRA gyda'r lluoed cydd Prydeinig? Byth? Wedi marw rhai o arweinwyr SF? Be di dy farn GT?