S.W. a ddywedodd:S.W. a ddywedodd:Sorry Blewyn ond rwtch llwyr ydy dweud y dylsai dim ond pobl sy'n arbenigo mewn rhyw faes bleidleisio ar rhywbeth. Mae pethau fel yr Ewro yn effeithio ar bawb,
Blewyn a ddywedodd:Mae'r rhan fwyaf o bolisiau yn effeithio ar bawb mewn un ffordd neu llall SW.
Cytuno. Mi mae nhw. Mae'n digon teg felly disgwyl mewn system o ddemocrtiaeth cael nodi ein barn ar hynny. Mae fy marn i ar bwnc yr un mor dilys a dy un di hyd yn oed os dwin dod i fy marn mewn ffordd wahanol!
Nac ydi SW, t'ydy o ddim. Petaet yn beirianydd car, a fi ddim, mi fysa dy farn di ar bwnc adnewyddu ceir yn lawer mwy dilys na f'un i.
S.W. a ddywedodd::
pam na ddylswn i gael dweud fy nweud, er nad ydw i'n seilio'r dweud yne ar syms?
Blewyn a ddywedodd:A dyna fo, fel dwedais yn gynharach - problem fwyaf democratiaeth "pam na ddylswn i gael dweud fy nweud". Yr ateb yw, achos :
a) Dwyt ti ddim eisiau dim ond dweud dy ddweud go iawn, ti eisiau pleidlais hefyd - digon hawdd i ti ddweud dy ddweud yn sefyll ar focs yn ganol dre bnawn Sadwrn, ond peth arall ydy ymyrryd yn y broses penderfynnu
b) I dy gymharu a'r arbenigwyr, ti'm yn deall y cwestiwn a d'oes ge ti ddim ateb perthnasol iddo.
S.W. a ddywedodd:Pwy wyt ti i ddweud ei fod on berthnasol neu beidio? Fel dwi newydd ddeud mae gennai hawl im marn, mae fy marn yr un mor 'iawn' a dy un di cyn belled a fy mod i'n gallu ei gyfiawnhau o. Does dim agen gallu egluro cyfraddau llog, rol band Ewrop ac ati i ddweud os ydw I'N credu bod yr Ewro'n iawn neu beidio.
Da ni ddim yn son am fy marn i a dy farn di - da ni'n son am farn arbenigydd cydnabyddedig a barn dyn y stryd. Wrth gwrs fod barn yn ddilys os gellir ei gyfiawnhau, ond pwy sy'n penderfynnu meini prawf y cyfiawnhad ?
Credaf bysa'r rhan fwyaf o bobl yn dadlau FOD angen gallu egluro (neu o leiaf ddeall) bob mathau o bynciau economiadd cyn cael y fraint o gymryd rhan yn y fath benderfyniad.
S.W. a ddywedodd:S.W. a ddywedodd:Sut wyt ti am ddiffinio pwy sy'n arbenigwr mewn maes penodol ?
Blewyn a ddywedodd:R'un ffordd ti'n diffino arbenigwr mewn unrhyw faes arall - drwy broses o benderfyniad democrataidd gynrhychiadol yn seiliedig ar feini prawf perthnasol i'r maes, i'r gorau o'n deallusrwydd presennol yn y maes hwnnw.
Llond trol o eiriau mawr yn y fan honno yn deud ddiawl o ddim byd.
Mae'n ddrwg gen i os ti'n rhy ddwl i'w deall nag i'w edrych i fyny, ond mae nhw'n disgrifio yn union sut mae democratiaeth gynrhychiadol yn gweithio. Wele
http://en.wikipedia.org/wiki/Representative_democracyS.W. a ddywedodd::
Be wyt ti, gwleidydd? Wyt ti am i ni eistedd arholiadau cyn mynd mewn i'r blwch pleidleisio?
Na, ond ar yr un tro t'ydw i ddim am gynnig i ti gael pleidleisio ar - er enghraifft - y sustem orau o redeg gorsaf egni niwclear. Mae'r cwestiwn (os na ti'n digwydd bod yn beiriannydd dilys i'r dasg) tu hwnt i dy allu di i'w ateb.
S.W. a ddywedodd::
Dwi hefo barn ar yr Ewro. Dwi yn seilio hynny nid ar economeg ond ar fy marn i o wleidyddiaeth cenedlaethol. Ydy un yn fwy cyfiawn na'r llall? Nac ydi.
Wel dwi'n anghytuno. Yn fy marn i t'ydy dy farn di ar y pwnc ddim yn seiliedig ar fwy na dy ysfa i gael dweud dy ddweud.
S.W. a ddywedodd:Rhyw elitiaeth hunanbwysig ydy be sy'n ei arddel. A ceilliau llwyr ydy hynnny.
Blewyn a ddywedodd:Rwtch gwrthdro-snobyddol. Petaet yn dysgu yfory fod clefyd erchyll arnat mi fyset am y cyntaf i ganfod yr elitydd elitaf o'r elite ar y pwnc.
S.W. a ddywedodd:Am llwyth o geilliau!
Na fyset ?
S.W. a ddywedodd:Byddwn i'm yn cymryd lifft gan ddreifar sydd methu dreifio chwaith.
Byset ?
Pr'un ydy o SW ?
S.W. a ddywedodd::
Ond yn y fan yma siarad am pwy ddylsai pleidleisio ar fater neu beidio dan ni. Be ti'n ddeud ydy bod dy farn di yn well gan bod ti'n edrych ar gyfraddau llog ac ati a felly yn 'arbeningwr'.
Y..na, t'ydw i ddim yn arbenigwr ar economeg, yn anffodus.
S.W. a ddywedodd::
Diom bwys bod on effeithio ar bawb arall fel ti wedi nodi ar y dechrau mae pobl fel Blewyn yn gwbod yn well gelly gadewch y mater at y gwybodusion. Sori, ond hunanbwysigrwydd ydy hynny dim mwy dim llai.
Ddim o gwbl. Mae bron iawn bob maes mewn bywyd yn cael ei redeg gan arbenigwyr - cwffio tan, adeiladu pontydd, ffermio, canu telyn, hwylio - a ti'm y diswgyl cael cymryd rhan yn y penderfyniadau hynny.
S.W. a ddywedodd::
Mae gennym i gyd yr hawl i ddod i farn a gweithredu ar hynny mewn etholiad. Dwi'n seilio fy manr ar annibyniaeth ar deimlad o eisiau gweld Cymru yn cynrychioli ei hun ar lwyfan ryngwladol mewn byd glwleidyddol. Dadl emosiynol os lici di. Mae gennai radd mewn Gwlediyddiaeth a diddordeb mawr yn y maes. Ond, mae fy marn i yr un mor cyfiawn a person sydd heb ddiddordeb mawr yn y maes ond yn arddel barn boed hynny'n farn unoliaethol neu cenedlaethol.
Um....so ti'n deud fod ganddynt hawl i bleidleisio ar y mater am dy fod yn arbenigwr mewn gwleidyddiaeth ?