-S.W. :
Eh? Dwi di ffurfio fy marn. Mae'n siwr bod sawl un o'r 'dealluswyr' ma ti'n son amdanynt yn mynd i gytuno a mi. Dydw i heb ddeud bod o ddim bwys os dan ni'n ei chael hi'n anghywir, gwirion byddai hynny. Wrth gwrs ei bod hi'n bwysig. Ond, dydy hynny ddim yr un peth a deud bod yn rhaid i ni gyd fod yn gytun a beth ydy'r penderfyniad gorau. Mae manteision i ni fod yn ran o'r Ewro, mae hefyd mantiesion i ni beidio. Mae o fyny i blaenoriaethau a barn unigolion i benderfynu wedyn ar ba ochr i'r ffens dan ni'n eistedd. Dyna ydy rhyddid i benderfynu dros ein hunain. O be wyt ti'n arddel bydd yn rhaid i'r hollwybodus ma i gyd gytuno. Ond, hyd yn oed ar mater fel yr Ewro nid pawb sy'n cytuno hyd yn oed ymhlith arbenigwyr yn y maes hwn.
Gwir, ond mae posib sefydlu comisiwn arbenigol a'u tasgu i gyrraedd penderfyniad neu gynllun. Hwn yw'r modd arferol o ateb cwestiynau cymleth mewn llywodraeth ddemocrataidd gynrhychiadol nid osgoi cyfrifoldeb drwy gynnig refferendwm i'r cyhoedd.
Ti eto'n newid natur y drafodaeth. Pan ddois i i fewn i'r drafodaeth yma roeddet ti'n dweud mae dim ond pobl sy'n dallt ddylsai pleidleisio ar y mater. Nid dadalu o blaid neu yn erbyn y cysyniad o refferendwm oeddwn i. Ti sy'n newid o i hynny wan.
Petai Refferendwm yn cael ei chynnal byddai'n deg ddisgwyl i unrhyw rai sydd a barn ar y mater allu bwrw pleidlalsi ynddo. Mae hynny'n egwyddor hollol syml. Os ydyn ni'n ei chael hi'n anghywir wel maen rhaid byw hefo hynny - buan iawn bydd y galwn yn codi am ail refferedwm os ydy'r torfeydd yn credu eu bod yn colli allan.
Mae'n hollol deg disgwyl i gomisiwn gael ei sefydlu ar mater beth bynnag. na adrodd yn nol i'r cyhoedd er mwyn i ni allu rhoi sel bendith i'r peth neu ei wrthod yn unol a be dan ni'n ei gredu.
S.W. :
Mewn ffordd mi rydan ni'n 'shareholders' yn arian y DU a Banc Lloegr - hynny yw y llywodraeth sydd a'r grym gyda'r peth.
Mae rhanddalwyr cwmni yn ethol bwrdd weithredol i redeg y cwmni. Yr unig benderfyniadau weithredol mae'n rhanddalwyr yn wneud yw'r rhai mae'r bwrdd yn gofyn iddynt wneud yn yr AGM.
A be yn union ydy'r gwahaniaeth rhwng Cyf Cyff a Refferendwm Blewyn? Heb pleidlais o gefnogaeth gan y Cyf Cyff gall y bwrdd gweithredol ddim bwrw ymlaen a rhyw waith neu'i gilydd.
Mae Cyfranddalwyr hefyd yn gallu ethol Cadeirydd ac ati, sydd just fel y llywodraeth yn y bon.
S.W. :
Nid ydw hynny yn golygu petai refferendwm YN cael ei gynnal nad oes rwydd hynt i'r cyhoedd benderfynnu be fyddai'r opsiwn gorau iddynt nhw.
Tydy'r cyhoedd ddim yn deall y mater.
Sut wyt ti'n gwbod? Os ydw i'n cytuno a un arbenigwr ond yn anghytuano ag un arall ydw i'n dallt y mater?
S.W. :
Dwi di deud yn barod, gan bod yr Heddlu yn gorfod bod yn fwy atebol i anghenion y cyhoedd mae nhw i fod iw gwarchod.
Ond ti heb egluro pam fod hyn yn beth da ? Fysa heddlu etholedig yn fwy atebol i anghenion y cyhoedd - ta gofynion y cyhoedd ?
Mae'r ateb yno i ti, byddai'r heddlu yn atebol i anghenion y cyhoedd. Y llyowdraeth (boed hynny yn San Steffan, neu Caerdydd) bydd yn gyfrifol am deddfau ac ati a felly'n penderfynu be gann yr Heddlu ei wneud a dim ei wneud.