Ie i'r €uro!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Euro i Brydain? Mmm?

Ie!
38
63%
Naaaaa!
16
27%
Ddim yn bothered.
6
10%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 60

Postiogan Blewyn » Sul 01 Ebr 2007 4:33 am

sanddef a ddywedodd:Rho'r manylion a'r barnau economaidd gwahanol i'r cyhoedd ac yna gad i'r cyhoedd benderfynnu.


Er mwyn be ? Pam ar y ddaear fysa ti'n gofyn i'r cyhoedd ateb cwestiwn does ganddyn nhw'm hopes mul o'i ddeall ? A pam y cwestiwn hwn, a nid yr holl gwestiynnau eraill mae ein llywodraeth yn ateb bob dydd ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan sanddef » Sul 01 Ebr 2007 6:30 am

Blewyn a ddywedodd:
sanddef a ddywedodd:Rho'r manylion a'r barnau economaidd gwahanol i'r cyhoedd ac yna gad i'r cyhoedd benderfynnu.


Er mwyn be ? Pam ar y ddaear fysa ti'n gofyn i'r cyhoedd ateb cwestiwn does ganddyn nhw'm hopes mul o'i ddeall ? A pam y cwestiwn hwn, a nid yr holl gwestiynnau eraill mae ein llywodraeth yn ateb bob dydd ?


Pam cael democratiaeth o gwbl? Pam cael dewis llywodraeth? Ond yn bwysicach: pam gwastraffu amser yn trafod yr ewro efo Blewyn?
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan S.W. » Sul 01 Ebr 2007 6:39 am

Reit, does gennai ddim mynedd dyfynnu pob dim ti di ddeud Blewyn ond yn fras.

Mae fy marn i ar yr Ewro, er heb ei seilio ar economeg yn gyfiawn. Does dim rhaid i ti gytuno a fy marn, a sut dwi wedi dod at fy marn. Ond, yn y pendraw mae'n hollol gyfiawn. Pan yn teithio i Ffrainc byddwn in hoffi defnyddio'r Franc, pan yn mynd i'r Almaen byddwn yn hoffi defnyddio'r Deutch Mark, pan yn mynd i Sbaen y Peseto ayyb.

Ti'n defnyddio cymhariaethau twp ar y diawl wrth ddweud "byddet ti'n disgwyl cael deud sut y dylid rhedeg gorsaf niwclear" ac ati. Ymgais i 'blurrio' issues yn unig ydy hynny. Byddwn i'm yn dweud wrth Bos gorsaf niwclear y Wylfa sut i neud ei waith, ond petai'r Llywodraeth yn penderfynnu gwerthu holl arfau niwclear nhw i Woolworths byddwn i yn disgwyl cael dweud fy nweud. Byddwn i ddim yn dweud wrth meddyg sut i wneud ei waith ond petai'r Llywodraeth yn ceisio newid fy ysbyty lleol yn un Bupa byddwn yn disgwyl cael dweud fy nweud. Nid arbenigwr mewn ysbytai nag arfau niwclear mohonf, ond mae'n sicr yn rhywbeth geith effaith arnai. Yn yr un ffordd mae'r Ewro hefyd yn neud hyn. Dwi'm yn gwbod pethau am gyfraddau llog ac ati, ond dwi yn gwbod bod dwi ddim isio banc ganolog yn Ewrop i fod yn gyfrifol am y materion hyn dros yr UE i gyd. Well gen i Fanc Canolog Cymru diolch yn fawr iawn.

Yn bersonol dwi'n licio'r system yn America ble mae hyd yn oed Pennaeth yr Heddlu mewn talaith neu dinas yn gallu cael ei ethol gan y bobl. Ok, yma rhywun sy'n arddel cael gwared ar gamerau cyflymder sy'n siwr o gael ei ethol. Ond, mae'r cysyniad o ran rhoi perchnogaeth o'r heddlu i'r gymuned yn rhywbeth da. Eto, nid arbenigwr mewn materion o Trais a Chyfiawnder mohonof ond person sy'n cael ei effeithio gan benderfyniadau ein heddlu a'r Swyddfa Gartref.

Nid gofyn i pobl egluro effaith cyfraddau llog uchel ar yr ecomoni leol ydan ni yma Blewyn. Gofyn i'r cyhoedd os hoffant nhw weld yr Ewro yng Nghymru neu ym Mhrydain. Mae'r 'issues' cyfraddau llog ac ati'n bodoli yn y system bresenol hefyd, mater o benderfynu pwy sy'n neud y gwaith ac yn rheoli arian y wlad ydy o yn y bon.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Blewyn » Sul 01 Ebr 2007 11:56 am

sanddef a ddywedodd:Pam cael democratiaeth o gwbl? Pam cael dewis llywodraeth?

Er mwyn iddyn nhw lywio'r wlad....dyna yw eu pwrpas ! Mae'n beth niweidiol iawn galw am refferendwm ar gwestiwn fel hyn achos :

a) Ti'n rhoi get-out ar blat i'n arweinwyr, ddylai fod yn ddigon mawr i'n tywys yn y cyfeiriad gorau. Wrth gwrs eu bod yn hapus efo'r syniad o refferendwm - digon hawdd codi'r ysgwyddau a deud 'wel dyna ddewisiodd y bobl' oes eith pethau'n rhemp mewn canlyniad.
b) Mae ci fy Mam yn deall gymaint ar y cwestiwn a pobl gyffredin (a dwi'n cynnwys fy hun yn hyn).
c) Drwy gynnal refferendwm ti'n meddwl dy fod yn rhoi y cwestiwn i'r bobl, ond mewn ymarfer y cyfryngau sy'n penderfynnu - y papurau newydd a'r gwleidyddion uchel eu clochdar. Am bob person dwys, meddylgar sy'n pleidleisio am resymau doeth, mae gen ti ddeg sy'n pleidleisio am nad ydynt yn hoffi Johnny Foreigner (neu vice versa, mor ultra-right-on eu bod yn hoffi dim mwy na cydio eu fferau o'i flaen).
d) Y pobl sy'n fwy tebygol o pleidleisio ydy'r rhai sydd a'r barn neu theimlad cryfaf ar y pwnc - hynny yw, y rhai mwyaf eithafol.

Mae refferendwm yn gadael i bawb gael 'dweud eu dweud', ond fel modd o wneud penderfyniadau priodol mae o'n wrth-effeithiol iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan sanddef » Sul 01 Ebr 2007 1:21 pm

Blewyn a ddywedodd:
sanddef a ddywedodd:Pam cael democratiaeth o gwbl? Pam cael dewis llywodraeth?

Er mwyn iddyn nhw blah blah blah blah blah blah blah


Cwestiwn rhethregol, Blewyn, cwestiwn rhethregol. Ond dw'i wedi cadw dy sylwadau i'w ddefnyddio fel modd yn erbyn insomnia yn y dyfodol. :winc:
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Blewyn » Sad 07 Ebr 2007 6:54 am

S.W. a ddywedodd:Ti'n defnyddio cymhariaethau twp ar y diawl wrth ddweud "byddet ti'n disgwyl cael deud sut y dylid rhedeg gorsaf niwclear" ac ati. Ymgais i 'blurrio' issues yn unig ydy hynny.

Os ti ddim yn deall sut i redeg gorsaf niwcliar, t'ydy dy farn ar redeg gorsaf niwcliar ddim yn werth ei wrando arno. Mae'r cymhariaeth yn syml ac yn briodol. T'ydy mynnu dy hawl i gael dy ddeud ddim yn golygu fod rheidrwydd ar neb i wrando.
S.W. a ddywedodd:Byddwn i'm yn dweud wrth Bos gorsaf niwclear y Wylfa sut i neud ei waith, ond petai'r Llywodraeth yn penderfynnu gwerthu holl arfau niwclear nhw i Woolworths byddwn i yn disgwyl cael dweud fy nweud.

Mi gefaist ddweud dy ddweud pan etholwyd y llywodraeth. Os ti mor wirion ag ethol llywodraeth sydd yn meddwl ei fod yn syniad da i werthu arfau niwcliar i Woolworths, ar dy ben di mae'r canlyniad. Pan ti'n ethol llywodraeth ti'n dewis arweinwyr, nid gweision (mewn ystyr ymarferol).
S.W. a ddywedodd:Byddwn i ddim yn dweud wrth meddyg sut i wneud ei waith ond petai'r Llywodraeth yn ceisio newid fy ysbyty lleol yn un Bupa byddwn yn disgwyl cael dweud fy nweud.Nid arbenigwr mewn ysbytai nag arfau niwclear mohonf, ond mae'n sicr yn rhywbeth geith effaith arnai. Yn yr un ffordd mae'r Ewro hefyd yn neud hyn.

Ag yn yr un ffordd mi gei ddweud dy ddweud drwy gymryd rhan yn y broses democrataidd lleol - ond chei di ddim refferendwm ar bob cwestiwn lle ti'n debyg o anghytuno a'r llywodraeth.
S.W. a ddywedodd:Dwi'm yn gwbod pethau am gyfraddau llog ac ati, ond dwi yn gwbod bod dwi ddim isio banc ganolog yn Ewrop i fod yn gyfrifol am y materion hyn dros yr UE i gyd. Well gen i Fanc Canolog Cymru diolch yn fawr iawn.

Pam ?
S.W. a ddywedodd:Yn bersonol dwi'n licio'r system yn America ble mae hyd yn oed Pennaeth yr Heddlu mewn talaith neu dinas yn gallu cael ei ethol gan y bobl. Ok, yma rhywun sy'n arddel cael gwared ar gamerau cyflymder sy'n siwr o gael ei ethol. Ond, mae'r cysyniad o ran rhoi perchnogaeth o'r heddlu i'r gymuned yn rhywbeth da.

Yn ngolau be ti wedi esbonio am anfanteision ethol pennaeth yr heddlu, pam felly dy fod yn credu ei fod yn beth da ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan S.W. » Sad 07 Ebr 2007 7:46 am

Blewyn, dwim yn gwbod os mai just trio creu dadl wyt ti neu be ond yn y fan yma ti just yn newid holl destyn dadleuon i siwtio dy hun.

Dwim yma yn dadlau bod yn rhaid i ni gael refferendwm ar yr Ewro. Nid dyna oedd testyn y drafodaeth. Ond, petai y Llywodraeth yn penderfynu cynnal refferendwm ar y mater hwn byddai'n berffaith resymol i mi fel person gyffrednin sy'n byw a gweithio yn y DU i ffurfio fy marn i, wedi ei seilio ar be bynnag sy'n iawn i mi i ddatgan hynny ar ffurf pleidlais. Os ydw i a phawb arall yn cael ein profi i fod yn anghywir yna 'tough' mae'n rhaid i mi fyw a hynny.

Ti'n dadlau mae dim ond arbennigwyr sy'n dallt y dalltings hefo cyfraddau llog a sut mae economi yn gweithio y dylid gwneud hyn. Sori, sbwriel llwyr hunanbwysig ydy hynny. Fel dwi wedi dweud dwi'n seilio fy nadl i ar y dymuniad i gael Banc Canolog Cymreig. Does gen i ddim problem yn sut mae Banc Lloegr yn gweithio, ar lefel y DU mae'n neud jobyn dda iawn o be dwi'n weld. Fel person sy'n credu mewn Cymru sy'n wladwriaeth lawn ond yn aelod o'r UE, i mi yma yng Nghymru dylsai'r corff sy'n penderfynu ar economi'r wlad gael ei leoli nid ym Mrwsel nag yn yr Almaen.

Efallai bod ne ddim ffigyrau ac ati yn sail i fy marn, ond o ddefnyddio hynny waeth i mi anghofio pleidleisio mewn etholiadau eniwe. Mae'r deunydd etholiadau dwi wedi eu derbyn trwy'r post yn y wythnosau diwethaf yn cynnwys son am Cau Ysbytai (nid arbenigwr ar redeg y GIG mohonof), Cau Ysgolion (nid arbenigwr ar Addysg mohonof), Ynni Adnewyddol (nid arbenigwr ar Ynni mohonof), a'r ffaith bod yr ecomoni'n ffynnu neu methu o ddibynnu taflen pa blaid dwi'n ei ddarllen (eto, nid arbenigwr mewn be sy'n golygu bod economi'n llwyddo neu methu mohonof).

Dwi'n amau fy mod i'n unigryw yn hynny o beth. O ddefnyddio dy logic di byddai dim pwynt i mi foddran pleidleisio a just gadael i'r pobl holl alluog neud y gwaith drostai. Dwi'n amlwg yn rhy dwp i gymryd rhan yn y broses democrataidd. O ia, nid democratiaeth byddai be ti'n arddel nage!

Gwlad Democrataidd Cynrychioladol ydy'r DU. Felly dan ni yn ethol pobl i neud y gwaith ar ein rhan. Gellir defynddio'r ddadl hynny yn ei thro i wrthod y syniad o refferendwm. Ond, ni ellir defnyddio'r ddadl hynny i wrthod hawl y pobl i ddefnyddio refferendwm petai yn cael ei gynnig. Pwrpas refferendwm ydy i adael i'r pobl neud eu meddyliau eu hunain i fyny - a byw gyda chanlyniadau hynny. Democratiaeth go iawn gellir dadlau, y math mwyaf o ymgynghoriad.

Byddwn in hoffi gweld Pennaeth yr Heddlu yn cael eu ethol gan fy mod i'n meddwl byddai perchnogaeth democrataidd cyhoeddus o'r heddlu yn beth da. Efallai na fydd y person dwi'n cytuno a nhw'n cael eu ethol. Ond, dyna ydy democratiaeth Blewyn. Rhaid byw gyda farn y cyhoedd a ceisio eu newid at y tro nesaf - a dyna fydd hanes y Blaid.

[/b]
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Blewyn » Llun 09 Ebr 2007 6:00 am

S.W. a ddywedodd:Ond, petai y Llywodraeth yn penderfynu cynnal refferendwm ar y mater hwn byddai'n berffaith resymol i mi fel person gyffrednin sy'n byw a gweithio yn y DU i ffurfio fy marn i, wedi ei seilio ar be bynnag sy'n iawn i mi i ddatgan hynny ar ffurf pleidlais. Os ydw i a phawb arall yn cael ein profi i fod yn anghywir yna 'tough' mae'n rhaid i mi fyw a hynny.

T'ydy hyn ddim digon da. Gwell amcan yw cymryd y penderfyniad cywir yn ol deallusrwydd gorau'r mwyaf deallus yn ein mysg, nid cymryd rhyw-rhyw benderfyniad ar sail y ffaith fod dim ots os ydy o'n gywir achos mae pawb yn gyfrifol amdano. T'ydy osgoi bai ddim yn ateb i broblem.
S.W. a ddywedodd:Ti'n dadlau mae dim ond arbennigwyr sy'n dallt y dalltings hefo cyfraddau llog a sut mae economi yn gweithio y dylid gwneud hyn. Sori, sbwriel llwyr hunanbwysig ydy hynny.

Sut ffwc wyt ti'n dyfalu fod rhywun sy'n fodlon gadael y penderfyniad i arbenigwr yn fwy hunanbwysig na rhywun sy'n mynnu cael cymyd rhan yn y penderfyniad, er nad yw yn deall y pwnc ?
S.W. a ddywedodd:Fel dwi wedi dweud dwi'n seilio fy nadl i ar y dymuniad i gael Banc Canolog Cymreig. Does gen i ddim problem yn sut mae Banc Lloegr yn gweithio, ar lefel y DU mae'n neud jobyn dda iawn o be dwi'n weld. Fel person sy'n credu mewn Cymru sy'n wladwriaeth lawn ond yn aelod o'r UE, i mi yma yng Nghymru dylsai'r corff sy'n penderfynu ar economi'r wlad gael ei leoli nid ym Mrwsel nag yn yr Almaen.

Cyn gymaint a dwi'n deall y pwnc, cytunaf yn llwyr. Ond oes'na ddim dyletswydd arnom i wrthsefyll yr ysfa i ymyrryd mewn mater da ni ddim yn llawn ddeall ? Yn hytrach, ddylia ni ddim o leiaf drefnu ymchwil democrataidd gan y gorau yn ein mysg ar y pwnc, yn hytrach na nadu a puo am gael ein ffordd ein hunain ar sail yr ychydig da ni'n ddeall ?

Eto dwi'n gofyn - pam ti'n teimlo ei fod yn ddilys i ti bleidleisio ar y pwnc yma, ond nid ar - er enghraifft - pa awyren ddylia Ryanair brynu ? Hyd y gwelaf ti'n deall tua r'un faint ar y ddau bwnc. Gwir, mae penderfyniad yr ewro yn mynd i effeithio arnat yn uniongyrchol, lle t'ydy awyren Ryanair ddim - onid ydy hyn yn fwy o reswm i wneud yn siwr fod y penderfyniad cywir yn cael ei gymryd ?
S.W. a ddywedodd:Efallai bod ne ddim ffigyrau ac ati yn sail i fy marn, ond o ddefnyddio hynny waeth i mi anghofio pleidleisio mewn etholiadau eniwe.

Refferendwm da ni'n drafod, ddim etholiad. D'oes neb yn deud na ddyli bleidleisio mewn etholiadau.
S.W. a ddywedodd:O ddefnyddio dy logic di byddai dim pwynt i mi foddran pleidleisio a just gadael i'r pobl holl alluog neud y gwaith drostai. Dwi'n amlwg yn rhy dwp i gymryd rhan yn y broses democrataidd.

D'oes neb rhy dwp i gymryd rhan. Pwynt pleidleisio yw i ddewis y rhai hollalluog i neud y gwaith drostat.
S.W. a ddywedodd:Byddwn in hoffi gweld Pennaeth yr Heddlu yn cael eu ethol gan fy mod i'n meddwl byddai perchnogaeth democrataidd cyhoeddus o'r heddlu yn beth da. [/b]

Pam ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan S.W. » Llun 09 Ebr 2007 8:01 am

S.W. :
Ond, petai y Llywodraeth yn penderfynu cynnal refferendwm ar y mater hwn byddai'n berffaith resymol i mi fel person gyffrednin sy'n byw a gweithio yn y DU i ffurfio fy marn i, wedi ei seilio ar be bynnag sy'n iawn i mi i ddatgan hynny ar ffurf pleidlais. Os ydw i a phawb arall yn cael ein profi i fod yn anghywir yna 'tough' mae'n rhaid i mi fyw a hynny.


T'ydy hyn ddim digon da. Gwell amcan yw cymryd y penderfyniad cywir yn ol deallusrwydd gorau'r mwyaf deallus yn ein mysg, nid cymryd rhyw-rhyw benderfyniad ar sail y ffaith fod dim ots os ydy o'n gywir achos mae pawb yn gyfrifol amdano. T'ydy osgoi bai ddim yn ateb i broblem.
S.W. :


Eh? Dwi di ffurfio fy marn. Mae'n siwr bod sawl un o'r 'dealluswyr' ma ti'n son amdanynt yn mynd i gytuno a mi. Dydw i heb ddeud bod o ddim bwys os dan ni'n ei chael hi'n anghywir, gwirion byddai hynny. Wrth gwrs ei bod hi'n bwysig. Ond, dydy hynny ddim yr un peth a deud bod yn rhaid i ni gyd fod yn gytun a beth ydy'r penderfyniad gorau. Mae manteision i ni fod yn ran o'r Ewro, mae hefyd mantiesion i ni beidio. Mae o fyny i blaenoriaethau a barn unigolion i benderfynu wedyn ar ba ochr i'r ffens dan ni'n eistedd. Dyna ydy rhyddid i benderfynu dros ein hunain. O be wyt ti'n arddel bydd yn rhaid i'r hollwybodus ma i gyd gytuno. Ond, hyd yn oed ar mater fel yr Ewro nid pawb sy'n cytuno hyd yn oed ymhlith arbenigwyr yn y maes hwn.

Ti'n dadlau mae dim ond arbennigwyr sy'n dallt y dalltings hefo cyfraddau llog a sut mae economi yn gweithio y dylid gwneud hyn. Sori, sbwriel llwyr hunanbwysig ydy hynny.


Sut ffwc wyt ti'n dyfalu fod rhywun sy'n fodlon gadael y penderfyniad i arbenigwr yn fwy hunanbwysig na rhywun sy'n mynnu cael cymyd rhan yn y penderfyniad, er nad yw yn deall y pwnc ?


Mae dy ddadl na ddylsai person sy'n arbenigwr yn y maes hwn gymryd rhan mewn refferendwm yn drewi o rhyw egostistiaeth mawr.

S.W. :

Fel dwi wedi dweud dwi'n seilio fy nadl i ar y dymuniad i gael Banc Canolog Cymreig. Does gen i ddim problem yn sut mae Banc Lloegr yn gweithio, ar lefel y DU mae'n neud jobyn dda iawn o be dwi'n weld. Fel person sy'n credu mewn Cymru sy'n wladwriaeth lawn ond yn aelod o'r UE, i mi yma yng Nghymru dylsai'r corff sy'n penderfynu ar economi'r wlad gael ei leoli nid ym Mrwsel nag yn yr Almaen.


Cyn gymaint a dwi'n deall y pwnc, cytunaf yn llwyr. Ond oes'na ddim dyletswydd arnom i wrthsefyll yr ysfa i ymyrryd mewn mater da ni ddim yn llawn ddeall ? Yn hytrach, ddylia ni ddim o leiaf drefnu ymchwil democrataidd gan y gorau yn ein mysg ar y pwnc, yn hytrach na nadu a puo am gael ein ffordd ein hunain ar sail yr ychydig da ni'n ddeall ?

Eto dwi'n gofyn - pam ti'n teimlo ei fod yn ddilys i ti bleidleisio ar y pwnc yma, ond nid ar - er enghraifft - pa awyren ddylia Ryanair brynu ? Hyd y gwelaf ti'n deall tua r'un faint ar y ddau bwnc. Gwir, mae penderfyniad yr ewro yn mynd i effeithio arnat yn uniongyrchol, lle t'ydy awyren Ryanair ddim - onid ydy hyn yn fwy o reswm i wneud yn siwr fod y penderfyniad cywir yn cael ei gymryd ?


Dyma ni eto, 'blurring issues' gyda dy gymhariaeth hefo dewis Ryanair o awyrennau tro ma. Wel yn syml dydy'r math o awyren mae Ryanair yn ei gael ddim yn mynd i effeithio arnai, hyd yn oed os dwi'n dewis hedfan hefo nhw. Cyn belled bod ganddo dwy adain, peilot ac injan ac yn ddiogel yna dwi'n hapus. Ond, petawn i'n shareholder yn y cwmni a bod Ryanair yn dewis newid eu awyrennau i gyd am spacehoppers yna byddwn yn gallu codi llais am hynny trwy'r mannau priodol, er nad ydw i'n arbennigwr mewn awyrennau na chwaith spacehoppers.

Mewn ffordd mi rydan ni'n 'shareholders' yn arian y DU a Banc Lloegr - hynny yw y llywodraeth sydd a'r grym gyda'r peth. Mae hyn yn cael effaith arnom. Mae gennai farn. Ok, diom wedi ei seilio ar ffigyrau. Ond pam ddylsai o fod wedi ei seilio ar ffigyrau yn unig? Onid ydy ei wrthod gan fy mod yn credu mewn cael corff sydd ymhellach i ffwrdd o'r cyhoedd yn ddilys hefyd? Dio'm fel bod pob arbenigwr ar ffigyrau yn gytun a'r y mater chwaith.
S.W. :
Efallai bod ne ddim ffigyrau ac ati yn sail i fy marn, ond o ddefnyddio hynny waeth i mi anghofio pleidleisio mewn etholiadau eniwe.

Refferendwm da ni'n drafod, ddim etholiad. D'oes neb yn deud na ddyli bleidleisio mewn etholiadau.


Semantics, etholiad ar mater ydy refferendwm.

S.W. :

O ddefnyddio dy logic di byddai dim pwynt i mi foddran pleidleisio a just gadael i'r pobl holl alluog neud y gwaith drostai. Dwi'n amlwg yn rhy dwp i gymryd rhan yn y broses democrataidd.


D'oes neb rhy dwp i gymryd rhan. Pwynt pleidleisio yw i ddewis y rhai hollalluog i neud y gwaith drostat.


Eto, dadl o blaid neu yn erbyn refferendwm ydy hynny. Nid ydw hynny yn golygu petai refferendwm YN cael ei gynnal nad oes rwydd hynt i'r cyhoedd benderfynnu be fyddai'r opsiwn gorau iddynt nhw.

S.W. :

Byddwn in hoffi gweld Pennaeth yr Heddlu yn cael eu ethol gan fy mod i'n meddwl byddai perchnogaeth democrataidd cyhoeddus o'r heddlu yn beth da. [/b]
Pam ?


Dwi di deud yn barod, gan bod yr Heddlu yn gorfod bod yn fwy atebol i anghenion y cyhoedd mae nhw i fod iw gwarchod.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Blewyn » Mer 11 Ebr 2007 8:33 am

S.W. a ddywedodd:Eh? Dwi di ffurfio fy marn. Mae'n siwr bod sawl un o'r 'dealluswyr' ma ti'n son amdanynt yn mynd i gytuno a mi. Dydw i heb ddeud bod o ddim bwys os dan ni'n ei chael hi'n anghywir, gwirion byddai hynny. Wrth gwrs ei bod hi'n bwysig. Ond, dydy hynny ddim yr un peth a deud bod yn rhaid i ni gyd fod yn gytun a beth ydy'r penderfyniad gorau. Mae manteision i ni fod yn ran o'r Ewro, mae hefyd mantiesion i ni beidio. Mae o fyny i blaenoriaethau a barn unigolion i benderfynu wedyn ar ba ochr i'r ffens dan ni'n eistedd. Dyna ydy rhyddid i benderfynu dros ein hunain. O be wyt ti'n arddel bydd yn rhaid i'r hollwybodus ma i gyd gytuno. Ond, hyd yn oed ar mater fel yr Ewro nid pawb sy'n cytuno hyd yn oed ymhlith arbenigwyr yn y maes hwn.

Gwir, ond mae posib sefydlu comisiwn arbenigol a'u tasgu i gyrraedd penderfyniad neu gynllun. Hwn yw'r modd arferol o ateb cwestiynau cymleth mewn llywodraeth ddemocrataidd gynrhychiadol - nid osgoi cyfrifoldeb drwy gynnig refferendwm i'r cyhoedd.
S.W. a ddywedodd:Mae dy ddadl na ddylsai person sy'n arbenigwr yn y maes hwn gymryd rhan mewn refferendwm yn drewi o rhyw egostistiaeth mawr.

Dim ond os ti'n snob gwrthdroedig efo lwmp o gymhleth israddoldeb. Ar y gwir - ydy o'n egotistiaeth i ddweud mai dim ond y rhai sy'n gallu dreifio ddylai ddreifio, neu dim ond y rhai all gynllunio adeiladau ddylai wneud hynny ?
S.W. a ddywedodd:Mewn ffordd mi rydan ni'n 'shareholders' yn arian y DU a Banc Lloegr - hynny yw y llywodraeth sydd a'r grym gyda'r peth.

Mae rhanddalwyr cwmni yn ethol bwrdd weithredol i redeg y cwmni. Yr unig benderfyniadau weithredol mae'n rhanddalwyr yn wneud yw'r rhai mae'r bwrdd yn gofyn iddynt wneud yn yr AGM.
S.W. a ddywedodd:
Blewyn a ddywedodd:Refferendwm da ni'n drafod, ddim etholiad. D'oes neb yn deud na ddyli bleidleisio mewn etholiadau.

Semantics, etholiad ar mater ydy refferendwm.

Fel dwedais, d'oes neb yn deud na ddyli bleidleisio mewn etholiadau.
S.W. a ddywedodd:Nid ydw hynny yn golygu petai refferendwm YN cael ei gynnal nad oes rwydd hynt i'r cyhoedd benderfynnu be fyddai'r opsiwn gorau iddynt nhw.

Tydy'r cyhoedd ddim yn deall y mater.
S.W. a ddywedodd:Dwi di deud yn barod, gan bod yr Heddlu yn gorfod bod yn fwy atebol i anghenion y cyhoedd mae nhw i fod iw gwarchod.

Ond ti heb egluro pam fod hyn yn beth da ? Fysa heddlu etholedig yn fwy atebol i anghenion y cyhoedd - ta gofynion y cyhoedd ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron