Ie i'r €uro!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Euro i Brydain? Mmm?

Ie!
38
63%
Naaaaa!
16
27%
Ddim yn bothered.
6
10%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 60

Postiogan Blewyn » Iau 06 Rhag 2007 12:49 pm

S.W. a ddywedodd:Mae gwahaniaeth enfawr rhwng seilio barn yn y cyd-destyn yma a mynd at lawfeddyg. Hynny'n ddigon blydi amlwg.

Eglura fo ta genius - sut bo cwestiwn meddygol yn wahanol i gwestiwn economeg/gyfansoddiadol ?
O iwsio dy logic di dytlswn ni symud i ffwrdd o democratiaeth yn gyfan gwbl a rhoi'r hawl i benderfynu ar wleidyddiaeth yn nwylo'r 'deallusion'.

Sut felly ?
Dwi'n seilio fy marn i ar bethau drwy ddehngli sut byddai'n effeithio ar yr hyn sy'n bwysig i fi. Dwi wedyn yn pleidleisio ar sail hyn.

Iesu Goc mae'na rwdls ar maes-e !! Wyt ti'n seilio dy farn nelo problem efo dy beipiau ar be ti'n ddeall (chydig, siawns) wedyn gwneud pleidlais am y peth, ta ti'n codi dy ffon a galw'r plymar ?

Da ni ddim yn dadlau modd o ffurfio barn SW, dadlau ydym pa gwestiynnau y dylid eu hateb ein hunain a pa gwestiynnau y dyliwn eu hateb drwy ofyn y deallusion.

Refferendwm - mae o YN gallu dod a sefydlogrwydd i rhywbeth (mae o hefyd yn gallu dod ag ansefydlogrwydd gan ddibynnu ar y canlyniad wrth reswm). Mae hynny'n glir iw weld. Os ydy'r llywordraeth am newid rhywbeth sy'n destyn dadl yna mae rhoi'r peth yn nwylo'r cyhoedd yn gallu tynnu'r ddadl "mynd yn groes i ewyllus y bobl" allan yn llwyr.

A be ddiawl mae hyn yn gyflawni ? Ydy o'n gwneud y canlyniad yn gywir ? Na. T'ydi osgoi bai neu lleihau dadlau ddim yn datrys problemau SW !
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Nanog » Gwe 14 Rhag 2007 9:08 pm

"Let me issue and control a nation's money, and I care not who writes its laws"
Meyer Amchel Rothschild (1743-1812)
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan S.W. » Sul 16 Rhag 2007 10:08 am

S.W. :
Mae gwahaniaeth enfawr rhwng seilio barn yn y cyd-destyn yma a mynd at lawfeddyg. Hynny'n ddigon blydi amlwg.


Eglura fo ta genius - sut bo cwestiwn meddygol yn wahanol i gwestiwn economeg/gyfansoddiadol ?


Wel os ti angen help hefo'r cwestiwn yne ti angen mwy o help nag o ni di meddwl.

Swn i'm yn meddwl gofyn i Nain os dylswn i gael operation ar fy nghefn achos does gen hi'm cliw ynglyn ag edrych ar ol cefnau. Ond fel person sy'n byw ym Mhrydain ac yn cael ei phensiwn mewn £oedd byddai perffaith hawl ganddi ddweud "dwi isio cael Ewro neu dwi'n licio cadw'r £.


Dyfyniad:
O iwsio dy logic di dytlswn ni symud i ffwrdd o democratiaeth yn gyfan gwbl a rhoi'r hawl i benderfynu ar wleidyddiaeth yn nwylo'r 'deallusion'.


Sut felly ?


Ti isio i bethau fel yma cael ei benderfynu gan yr economegwyr ayyb. Wel os felly does dim terfyn ar hynny - pwy benderfynith ar ba blaid fyddai orau? Y 3 Gwr Doeth?


Dwi'n seilio fy marn i ar bethau drwy ddehngli sut byddai'n effeithio ar yr hyn sy'n bwysig i fi. Dwi wedyn yn pleidleisio ar sail hyn.

Iesu Goc mae'na rwdls ar maes-e !! Wyt ti'n seilio dy farn nelo problem efo dy beipiau ar be ti'n ddeall (chydig, siawns) wedyn gwneud pleidlais am y peth, ta ti'n codi dy ffon a galw'r plymar ?


Be? Wyt ti off dy ben? Dwi'm yn siarad am peips yma'r idiot? Siarad dwi am pa arian sydd gennym ni yma dim byd arall.

Di'r gallu gen ti i drafod issue yma yn lle trio 'blurrio' ar goll gen ti?

Da ni ddim yn dadlau modd o ffurfio barn SW, dadlau ydym pa gwestiynnau y dylid eu hateb ein hunain a pa gwestiynnau y dyliwn eu hateb drwy ofyn y deallusion.


Ti sy'n dadlau nhw nid fi. Dan ni'm yn dadlau am meddygon na plymars chwaith, ti sy'n codi nhw i drio profi pwynt. "trio" ydy'r gair gorau am wn i.

Os wyt ti am seilio'r Ewrop i Brydain ar sail economeg yn unig wel wrth reswm y dadl economaidd dylid ei drafod. Ond pam bod angen iddo fod yn ecsgliwsif ar economeg? Does ffwc o ddiddordeb gen i mewn economeg achos does dwi'm yn ddallt o. Ond dwi yn credu bod arian wedi ei reoli ar raddfa gwladwriaeth yn hytrach nag lefel trawswladwriaethol yn beth gwell. Dim econemeg, gwleidyddiaeth di hynny.
Dyfyniad:
Refferendwm - mae o YN gallu dod a sefydlogrwydd i rhywbeth (mae o hefyd yn gallu dod ag ansefydlogrwydd gan ddibynnu ar y canlyniad wrth reswm). Mae hynny'n glir iw weld. Os ydy'r llywordraeth am newid rhywbeth sy'n destyn dadl yna mae rhoi'r peth yn nwylo'r cyhoedd yn gallu tynnu'r ddadl "mynd yn groes i ewyllus y bobl" allan yn llwyr.


A be ddiawl mae hyn yn gyflawni ? Ydy o'n gwneud y canlyniad yn gywir ? Na. T'ydi osgoi bai neu lleihau dadlau ddim yn datrys problemau SW !


Ydy o'n neud o'n gywir? Wel wrth ffycing rheswm mae'n neud o'n gywir i'r rhai sy'n cytuno a'r farn dydy?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re:

Postiogan Nanog » Gwe 07 Maw 2008 8:30 am

Nanog a ddywedodd:
Mae'n ddrwg 'da fi ddweud wrthot ond rwyt ti'n edrych ar un darn back or jig-saw. Ti'n iawn i ddweud fod yr Euro yn cryfhau yn erbyn y dollar. Mae'r un peth yn wir am y bunt....h.y. yn cryfhau erbyn y dollar. Mae hi hefyd yn gwanhau erbyn yr Euro. Ond, dim ond darnau o bapur yw bob un ononynt yn y pen-draw. I gael mwy, dyna gyd sydd eisie gwneud yw troi''r peiriant argraffu 'mlan. Un o'r sgams mwya sy'n bodoli ond sydd ddim yn cael ei drafod ar y prif gyfryngau. Beth ydw i mlan o biti? Mae un stor o werth yn ennill tir erbyn y cwbwl lot. Gwybod beth?


Gwrandewch ar hwn....

http://www.youtube.com/watch?v=styYIG-fiEc

Mae'r uu peth yn wir am y bunt a'r dollar. Os gallaf ddod o hyd iddo, mi wna i bostio'r wybodaeth am faint mae'r ****ers wrthi'n printo.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Ie i'r €uro!

Postiogan Madrwyddygryf » Iau 01 Ion 2009 10:05 pm

Roedd BBC wedi gwneud arolwg ac mae'n dangos bod mwyafrif o bobl prydeinig yn erbyn cael euro ym Mhrydain. Eitha digalon yn fy marn i, yn arbennig wrth weld nawr pa mor ddiwerth yw'r bunt.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Ie i'r €uro! - rwan!

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 02 Ion 2009 9:23 pm

Wel, rhaid cyfaddef (a) dw i ddim wedi synnu ac (b) dw i ddim yn dallt yr agwedd hon. Mae'r Almaen wedi ymuno, mae Ffrainc wedi ymuno, mae'r Eidal wedi ymuno - mae hyd yn oed Slofacia wedi ymuno! Oni ymunwn ninnau, cawn ni ein gadael yn high & dry heb ddim byd.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Ie i'r €uro!

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 14 Ion 2009 10:45 pm

Roedd na rhaglen ddadl ar Radio 4 ddoe. Fel arfer Peter Oborne yn malu cachu ac fel arfer, yn dryw i Daily Mail, yn dod fyny a Natsiwyr. :rolio:
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Ie i'r €uro!

Postiogan tomas » Sad 21 Chw 2009 3:46 pm

rwy'n gefnogwr brwd o'r undeb ewropeaidd a'r ewro (serch eu ffaeleddau) a hoffwn weld cymru a'i economi yn chwarae rhan gyflawn, genedlaethol, yn y ddau ffenomenom.

serch hyn credaf fod yn bwysig nad ydym yn dadansoddi llwyddiant yr ewro (a'r undeb i raddau) o ganlyniad i'n chwant eideolegol i ymuno.

rhaid cydnabod bod gwrthwynebiad chwyrn o fewn y du i ymuno a'r ewro. nid rhesymeg economaidd bur sy'n bwydo meddylfryd y gwrthwynebwyr ond chwant i sicrhau parhad y bunt (priod symbol y wladwriaeth brydeinig ar sawl lefel), parhad sofraniaeth economaidd y du (mewn gwirionedd, nid ydy'r fath beth yn bodoli bellach yn fy marn i), parhad syniadaeth ac eideoleg yr "island nation" .

yn yr un modd, credaf mai rhesymeg tebyg sy'n gyrru y rheini ohonom sydd am weld cymru'n datblygu hunaniaeth wleidyddol, economaidd, cymdeithasol a chenedlaethol llawnach a chryfach, i ystyried fod ymuno a'r ewro er ein lles.

mae'r adain dde brydeinllyd yn ymwrthod integreiddio ewropeaidd gan y byddai'r broses yn sicr o negyddu symbolau y wladwriaeth brydeinig ynghyd a'r cysyniad o brydeindod ac yn wir, yn yr hir dymor, yr angen i brydain fawr an-ffederal fodoli. dyma'r union rhesymau credaf fod y rheini ohonom (yng nhgymru a'r alban o leia) sydd am weld yr ewro yn cael ei fabwysiadu, o blaid y datblygiad.

cymeradwyaf y dacteg hon. er mwyn i genedl fodoli, mae'n rhaid iddi fodoli yng nghalonnau, breuddwydion, gobeithion a dychymyg y bobl. ni fydd hyn yn digwydd ar lefel genedlaethol gymreig yn fy marn i tra bod prydain yn parhau i fodoli, dim ots pa mor anodd yw diffinio prydeindod, dim ots pa mor wan yw'r cysyniad. tra bod prydain, prydain o unrhyw fath yn bodoli, credaf y bydd cymru yn rhan ohoni. os gall ymuno a'r ewro wanhau seiliau y wladwriaeth brydeinig, oni ddylai'r sefydliadau cenedlaetholgar yng nghymru ganolwbwyntio'n llwyr ar greu mudiad pro-ewro yng nghymru, a'r du yn ei chyfanrwydd ???

ar lefel eideolegol gallwn weld y byddai ymuno a'r ewro o blaid ein hamcanion.

yn y cyfamser, credaf y dylem ystyried ychydig bwyntiau eraill:

- mae'n deg i ddweud nad ydy'r ewro wedi bod o fudd i bob gwlad sy'n aelod. mae trafferthion economaidd sbaen a gwlad groeg yn amlwg. nid ydy aeloaeth or eurozone wedi arbed y sefyllfa yn y gweldydd hynny. mae sawl sylwebydd economaidd ar lefel genedlaethol a rhyngwladol wedi cynnig bod trafferthion y ddwy wlad wedi eu gwaethygi o ganlyniad i'r ffaith eu bod yn aelodau o'r ewro. cofiwn fod s+p wedi lleihau graddfa credyd y ddwy wlad unwaith yn barod yn 2009.

- cyfeirir yn aml at lwyddiant economaidd sawl gwlad unigol yn yr eurozone. mae'n naturiol i ni yng nghymru i edrych dros y mor at yr iwerddon megis priod engraifft o sut gall ymuno a'r ewro hyrwyddo twf economaidd. nid yw'r iwerddon wedi medru dianc o grafancau y dirwasgiad presennol, sy'n siwr o waethygu. nid yr ewro oedd yn gyfrifol am enedigaeth a thwf y celtic tiger. llif credyd rhad ar raddfa rhyngwladol, chwyddiant y farchnad dai a thwf y sector fancio yn nulyn o ganlyniad i gyundrefn drethol rhyddfrydol oedd wrth wraidd y llewyrch economaidd yno... yr union ffactorau a fu'n gyfrifol am dwf artiffisial marchnadoedd y gorllewin fel uned. mae posibilrwydd y bydd graddfa credyd yr ynys werdd yn cael ei leihau yn y dyfodol agos. (wrth gwrs mae posibilrwydd y bydd hyn yn digwydd i'r du yn ogystal wrth i faich colledion y banciau gwestiynnu gallu'r llywodraeth i wireddu ei rhwymedigaethau mewn punnoedd yn y farchnad gilt. credaf fod y ffactor hon yn profi ymhellach nad enwad ariannol yn unig sydd wrth wraidd llwyddiant neu fethiant economi).

- onid oes posibilrwydd real na fyddai'r DU yn medru ymuno a'r ewro ar y foment gan na allai gyflawni'r criteria ymuno o ganlyniad i'r ddyled 'genedlaethol' ?
tomas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2009 11:37 am

Re: Ie i'r €uro!

Postiogan Dai dom da » Sad 21 Chw 2009 8:37 pm

Gwyliwch zeitgeist addendum, wedyn fydd e'n ddigon clir pam ddylse ni fyth fotio o blaid yr ewro.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron