Ie i'r €uro!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Euro i Brydain? Mmm?

Ie!
38
63%
Naaaaa!
16
27%
Ddim yn bothered.
6
10%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 60

Postiogan sanddef » Iau 15 Maw 2007 10:18 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Dwi, yn sicr, yn ei erbyn. Dyw’r drefn sydd ohoni, sef Banc Lloegr yn rheoli’r bunt, ddim yn berffaith, ond byddai unrhyw drefn Ewropeaidd yn llawer gwaeth. Trwy golli rheolaeth ar ei harian, mae gwlad yn colli rheolaeth ar gyfraddau llog, y cyflenwad arian (ac felly ar chwyddiant), ac i raddau helaeth yn colli rheolaeth ar wariant cyhoeddus.

Ar hyn o bryd, mae gan lywodraeth Prydain rywfaint o reolaeth ar Fanc Lloegr, ond fyddai dim gobaith i lywodraethau cenedlaethol reoli Banc Canolog Ewrop. Does gan yr Undeb Ewropeiadd, chwaith, ddim o’r sefydliadau democrataidd cadarn a allai reoli’r fath fanc.

Dwi’n dal i synnu bod cymaint o genedlaetholwyr Cymreig, sydd o blaid dataganoli cymaint o bethau bach, ond am ganoli rheolaeth ar y peth mwyaf oll, sef arian y wlad.


I'r gwrthwyneb, dw'i'n ystyried llwyddiant y Deutschmark yn y gorffennol yn esiampl o sut mae peidio rhoi rheolaeth arian yn nwylo gwleidyddon yn beth da. O ran canoli arian, nid yw cadw'r bunt yn Llundain yn llai canolog o safbwynt datganoli a Chymru na'i drosglwyddo i Frankfurt am Main, ac mae cael gwared o San Steffan fel rhyw fath o Middle Man rhwng Caerdydd a Brwsel yn ddigon dealladwy o safbwynt cenedlaetholwyr.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan S.W. » Sul 18 Maw 2007 8:24 am

Sorry Blewyn ond rwtch llwyr ydy dweud y dylsai dim ond pobl sy'n arbenigo mewn rhyw faes bleidleisio ar rhywbeth. Mae pethau fel yr Ewro yn effeithio ar bawb, pam na ddylswn i gael dweud fy nweud, er nad ydw i'n seilio'r dweud yne ar syms?

Sut wyt ti am ddiffinio pwy sy'n arbenigwr mewn maes penodol? Gelli di ddim dadlau bod person sy'n gwrthwnyebu'r Ewro gan eu bod yn gwrthod y syniad o'r un arian ar gyfer nifer o wledydd yr un mor ddilys ei farn a rhywun sy'n dallt cyfraddau llog ac ati?

Rhyw elitiaeth hunanbwysig ydy be sy'n ei arddel. A ceilliau llwyr ydy hynnny.

Yn fy marn i.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Blewyn » Maw 27 Maw 2007 4:14 am

S.W. a ddywedodd:Sorry Blewyn ond rwtch llwyr ydy dweud y dylsai dim ond pobl sy'n arbenigo mewn rhyw faes bleidleisio ar rhywbeth. Mae pethau fel yr Ewro yn effeithio ar bawb,

Mae'r rhan fwyaf o bolisiau yn effeithio ar bawb mewn un ffordd neu llall SW.
S.W. a ddywedodd:pam na ddylswn i gael dweud fy nweud, er nad ydw i'n seilio'r dweud yne ar syms?

A dyna fo, fel dwedais yn gynharach - problem fwyaf democratiaeth "pam na ddylswn i gael dweud fy nweud". Yr ateb yw, achos :

a) Dwyt ti ddim eisiau dim ond dweud dy ddweud go iawn, ti eisiau pleidlais hefyd - digon hawdd i ti ddweud dy ddweud yn sefyll ar focs yn ganol dre bnawn Sadwrn, ond peth arall ydy ymyrryd yn y broses penderfynnu
b) I dy gymharu a'r arbenigwyr, ti'm yn deall y cwestiwn a d'oes ge ti ddim ateb perthnasol iddo.
S.W. a ddywedodd:Sut wyt ti am ddiffinio pwy sy'n arbenigwr mewn maes penodol?

R'un ffordd ti'n diffino arbenigwr mewn unrhyw faes arall - drwy broses o benderfyniad democrataidd gynrhychiadol yn seiliedig ar feini prawf perthnasol i'r maes, i'r gorau o'n deallusrwydd presennol yn y maes hwnnw.
S.W. a ddywedodd:Gelli di ddim dadlau bod person sy'n gwrthwnyebu'r Ewro gan eu bod yn gwrthod y syniad o'r un arian ar gyfer nifer o wledydd yr un mor ddilys ei farn a rhywun sy'n dallt cyfraddau llog ac ati?

Ddim heb ofyn am esboniad ehangach o'i ddadl.
S.W. a ddywedodd:Rhyw elitiaeth hunanbwysig ydy be sy'n ei arddel. A ceilliau llwyr ydy hynnny.

Rwtch gwrthdro-snobyddol. Petaet yn dysgu yfory fod clefyd erchyll arnat mi fyset am y cyntaf i ganfod yr elitydd elitaf o'r elite ar y pwnc.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan S.W. » Maw 27 Maw 2007 1:25 pm

S.W. a ddywedodd:Sorry Blewyn ond rwtch llwyr ydy dweud y dylsai dim ond pobl sy'n arbenigo mewn rhyw faes bleidleisio ar rhywbeth. Mae pethau fel yr Ewro yn effeithio ar bawb,


Blewyn a ddywedodd:Mae'r rhan fwyaf o bolisiau yn effeithio ar bawb mewn un ffordd neu llall SW.


Cytuno. Mi mae nhw. Mae'n digon teg felly disgwyl mewn system o ddemocrtiaeth cael nodi ein barn ar hynny. Mae fy marn i ar bwnc yr un mor dilys a dy un di hyd yn oed os dwin dod i fy marn mewn ffordd wahanol!

S.W. a ddywedodd::

pam na ddylswn i gael dweud fy nweud, er nad ydw i'n seilio'r dweud yne ar syms?


Blewyn a ddywedodd:A dyna fo, fel dwedais yn gynharach - problem fwyaf democratiaeth "pam na ddylswn i gael dweud fy nweud". Yr ateb yw, achos :

a) Dwyt ti ddim eisiau dim ond dweud dy ddweud go iawn, ti eisiau pleidlais hefyd - digon hawdd i ti ddweud dy ddweud yn sefyll ar focs yn ganol dre bnawn Sadwrn, ond peth arall ydy ymyrryd yn y broses penderfynnu
b) I dy gymharu a'r arbenigwyr, ti'm yn deall y cwestiwn a d'oes ge ti ddim ateb perthnasol iddo.


Pwy wyt ti i ddweud ei fod on berthnasol neu beidio? Fel dwi newydd ddeud mae gennai hawl im marn, mae fy marn yr un mor 'iawn' a dy un di cyn belled a fy mod i'n gallu ei gyfiawnhau o. Does dim agen gallu egluro cyfraddau llog, rol band Ewrop ac ati i ddweud os ydw I'N credu bod yr Ewro'n iawn neu beidio.

S.W. a ddywedodd:
Sut wyt ti am ddiffinio pwy sy'n arbenigwr mewn maes penodol
?

Blewyn a ddywedodd:R'un ffordd ti'n diffino arbenigwr mewn unrhyw faes arall - drwy broses o benderfyniad democrataidd gynrhychiadol yn seiliedig ar feini prawf perthnasol i'r maes, i'r gorau o'n deallusrwydd presennol yn y maes hwnnw.


Llond trol o eiriau mawr yn y fan honno yn deud ddiawl o ddim byd. Be wyt ti, gwleidydd? Wyt ti am i ni eistedd arholiadau cyn mynd mewn i'r blwch pleidleisio? Dwi hefo barn ar yr Ewro. Dwi yn seilio hynny nid ar economeg ond ar fy marn i o wleidyddiaeth cenedlaethol. Ydy un yn fwy cyfiawn na'r llall? Nac ydi.

S.W. a ddywedodd:Rhyw elitiaeth hunanbwysig ydy be sy'n ei arddel. A ceilliau llwyr ydy hynnny.


Blewyn a ddywedodd:Rwtch gwrthdro-snobyddol. Petaet yn dysgu yfory fod clefyd erchyll arnat mi fyset am y cyntaf i ganfod yr elitydd elitaf o'r elite ar y pwnc.


Am llwyth o geilliau!

Byddwn i'm yn cymryd lifft gan ddreifar sydd methu dreifio chwaith.

Ond yn y fan yma siarad am pwy ddylsai pleidleisio ar fater neu beidio dan ni. Be ti'n ddeud ydy bod dy farn di yn well gan bod ti'n edrych ar gyfraddau llog ac ati a felly yn 'arbeningwr'. Diom bwys bod on effeithio ar bawb arall fel ti wedi nodi ar y dechrau mae pobl fel Blewyn yn gwbod yn well gelly gadewch y mater at y gwybodusion. Sori, ond hunanbwysigrwydd ydy hynny dim mwy dim llai.

Mae gennym i gyd yr hawl i ddod i farn a gweithredu ar hynny mewn etholiad. Dwi'n seilio fy manr ar annibyniaeth ar deimlad o eisiau gweld Cymru yn cynrychioli ei hun ar lwyfan ryngwladol mewn byd glwleidyddol. Dadl emosiynol os lici di. Mae gennai radd mewn Gwlediyddiaeth a diddordeb mawr yn y maes. Ond, mae fy marn i yr un mor cyfiawn a person sydd heb ddiddordeb mawr yn y maes ond yn arddel barn boed hynny'n farn unoliaethol neu cenedlaethol.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Gwyn » Maw 27 Maw 2007 1:46 pm

Blewyn a ddywedodd:...fel dwedais yn gynharach - problem fwyaf democratiaeth "pam na ddylswn i gael dweud fy nweud".
...digon hawdd i ti ddweud dy ddweud yn sefyll ar focs yn ganol dre bnawn Sadwrn, ond peth arall ydy ymyrryd yn y broses penderfynnu


Hmm... ie, ma cael dweud eich dweud yn broblem fawr gyda democratiaeth yndyw e?! :lol: Pobol yn ymyrryd yn y broses benderfynu? Gwarthus!

Sori Blewyn, ma'n amlwg bo ti ddim yn deall democratiaeth so, yn anffodus, gei di ddim pleidleisio ar ddim byd. Sori, arbenigwyr yn unig! :winc:
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Postiogan Blewyn » Iau 29 Maw 2007 3:56 pm

S.W. a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Sorry Blewyn ond rwtch llwyr ydy dweud y dylsai dim ond pobl sy'n arbenigo mewn rhyw faes bleidleisio ar rhywbeth. Mae pethau fel yr Ewro yn effeithio ar bawb,


Blewyn a ddywedodd:Mae'r rhan fwyaf o bolisiau yn effeithio ar bawb mewn un ffordd neu llall SW.


Cytuno. Mi mae nhw. Mae'n digon teg felly disgwyl mewn system o ddemocrtiaeth cael nodi ein barn ar hynny. Mae fy marn i ar bwnc yr un mor dilys a dy un di hyd yn oed os dwin dod i fy marn mewn ffordd wahanol!


Nac ydi SW, t'ydy o ddim. Petaet yn beirianydd car, a fi ddim, mi fysa dy farn di ar bwnc adnewyddu ceir yn lawer mwy dilys na f'un i.

S.W. a ddywedodd::

pam na ddylswn i gael dweud fy nweud, er nad ydw i'n seilio'r dweud yne ar syms?


Blewyn a ddywedodd:A dyna fo, fel dwedais yn gynharach - problem fwyaf democratiaeth "pam na ddylswn i gael dweud fy nweud". Yr ateb yw, achos :

a) Dwyt ti ddim eisiau dim ond dweud dy ddweud go iawn, ti eisiau pleidlais hefyd - digon hawdd i ti ddweud dy ddweud yn sefyll ar focs yn ganol dre bnawn Sadwrn, ond peth arall ydy ymyrryd yn y broses penderfynnu
b) I dy gymharu a'r arbenigwyr, ti'm yn deall y cwestiwn a d'oes ge ti ddim ateb perthnasol iddo.


S.W. a ddywedodd:Pwy wyt ti i ddweud ei fod on berthnasol neu beidio? Fel dwi newydd ddeud mae gennai hawl im marn, mae fy marn yr un mor 'iawn' a dy un di cyn belled a fy mod i'n gallu ei gyfiawnhau o. Does dim agen gallu egluro cyfraddau llog, rol band Ewrop ac ati i ddweud os ydw I'N credu bod yr Ewro'n iawn neu beidio.

Da ni ddim yn son am fy marn i a dy farn di - da ni'n son am farn arbenigydd cydnabyddedig a barn dyn y stryd. Wrth gwrs fod barn yn ddilys os gellir ei gyfiawnhau, ond pwy sy'n penderfynnu meini prawf y cyfiawnhad ?

Credaf bysa'r rhan fwyaf o bobl yn dadlau FOD angen gallu egluro (neu o leiaf ddeall) bob mathau o bynciau economiadd cyn cael y fraint o gymryd rhan yn y fath benderfyniad.
S.W. a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Sut wyt ti am ddiffinio pwy sy'n arbenigwr mewn maes penodol ?

Blewyn a ddywedodd:R'un ffordd ti'n diffino arbenigwr mewn unrhyw faes arall - drwy broses o benderfyniad democrataidd gynrhychiadol yn seiliedig ar feini prawf perthnasol i'r maes, i'r gorau o'n deallusrwydd presennol yn y maes hwnnw.


Llond trol o eiriau mawr yn y fan honno yn deud ddiawl o ddim byd.

Mae'n ddrwg gen i os ti'n rhy ddwl i'w deall nag i'w edrych i fyny, ond mae nhw'n disgrifio yn union sut mae democratiaeth gynrhychiadol yn gweithio. Wele http://en.wikipedia.org/wiki/Representative_democracy
S.W. a ddywedodd::
Be wyt ti, gwleidydd? Wyt ti am i ni eistedd arholiadau cyn mynd mewn i'r blwch pleidleisio?

Na, ond ar yr un tro t'ydw i ddim am gynnig i ti gael pleidleisio ar - er enghraifft - y sustem orau o redeg gorsaf egni niwclear. Mae'r cwestiwn (os na ti'n digwydd bod yn beiriannydd dilys i'r dasg) tu hwnt i dy allu di i'w ateb.
S.W. a ddywedodd::
Dwi hefo barn ar yr Ewro. Dwi yn seilio hynny nid ar economeg ond ar fy marn i o wleidyddiaeth cenedlaethol. Ydy un yn fwy cyfiawn na'r llall? Nac ydi.

Wel dwi'n anghytuno. Yn fy marn i t'ydy dy farn di ar y pwnc ddim yn seiliedig ar fwy na dy ysfa i gael dweud dy ddweud.
S.W. a ddywedodd:Rhyw elitiaeth hunanbwysig ydy be sy'n ei arddel. A ceilliau llwyr ydy hynnny.


Blewyn a ddywedodd:Rwtch gwrthdro-snobyddol. Petaet yn dysgu yfory fod clefyd erchyll arnat mi fyset am y cyntaf i ganfod yr elitydd elitaf o'r elite ar y pwnc.

S.W. a ddywedodd:Am llwyth o geilliau!

Na fyset ?
S.W. a ddywedodd:Byddwn i'm yn cymryd lifft gan ddreifar sydd methu dreifio chwaith.

Byset ?

Pr'un ydy o SW ?
S.W. a ddywedodd::
Ond yn y fan yma siarad am pwy ddylsai pleidleisio ar fater neu beidio dan ni. Be ti'n ddeud ydy bod dy farn di yn well gan bod ti'n edrych ar gyfraddau llog ac ati a felly yn 'arbeningwr'.

Y..na, t'ydw i ddim yn arbenigwr ar economeg, yn anffodus.
S.W. a ddywedodd::
Diom bwys bod on effeithio ar bawb arall fel ti wedi nodi ar y dechrau mae pobl fel Blewyn yn gwbod yn well gelly gadewch y mater at y gwybodusion. Sori, ond hunanbwysigrwydd ydy hynny dim mwy dim llai.

Ddim o gwbl. Mae bron iawn bob maes mewn bywyd yn cael ei redeg gan arbenigwyr - cwffio tan, adeiladu pontydd, ffermio, canu telyn, hwylio - a ti'm y diswgyl cael cymryd rhan yn y penderfyniadau hynny.
S.W. a ddywedodd::
Mae gennym i gyd yr hawl i ddod i farn a gweithredu ar hynny mewn etholiad. Dwi'n seilio fy manr ar annibyniaeth ar deimlad o eisiau gweld Cymru yn cynrychioli ei hun ar lwyfan ryngwladol mewn byd glwleidyddol. Dadl emosiynol os lici di. Mae gennai radd mewn Gwlediyddiaeth a diddordeb mawr yn y maes. Ond, mae fy marn i yr un mor cyfiawn a person sydd heb ddiddordeb mawr yn y maes ond yn arddel barn boed hynny'n farn unoliaethol neu cenedlaethol.

Um....so ti'n deud fod ganddynt hawl i bleidleisio ar y mater am dy fod yn arbenigwr mewn gwleidyddiaeth ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan sanddef » Iau 29 Maw 2007 4:53 pm

Blewyn a ddywedodd:Nac ydi SW, t'ydy o ddim. Petaet yn beirianydd car, a fi ddim, mi fysa dy farn di ar bwnc adnewyddu ceir yn lawer mwy dilys na f'un i.


Cymhariaeth flin amherthnasol arall gan Blewyn. Mae'n fel gwylio paent yn sychu mewn slow motion.

D-O-E-S
D-I-M
B-A-R-N
U-N-F-R-Y-D
G-A-N
A-R-B-E-N-I-G-W-Y-R
A-R
Y-R
E-W-R-O.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Boibrychan » Iau 29 Maw 2007 6:08 pm

Dwi'n deall yn iawn o ble mae Blewyn yn dod, achos da ni yn ethol pobl i wneud penderfyniadau drosom ni. Mae'r penderfyniadau bach"dibwys" yn mynd o dan y radar heb i neb sylwi.

Y trwbwl yw bod pwnc for fawr yn mynd i angen refferendwm neu bydde na gryn dipyn o stwr. Mae'n ddigon gwir mai economwyr dylsau wybod orau yn sicyr mae ei barn yn fwy dilus na un fi on yn y fath sefyllfa mae fy marn i yr un mor bwysig!

Beth fedrwn ni obeithio am ydy bod yr arbenigwyr yn defnyddio eu sgiliau i egluro ei barn naill ffordd neu'r llall a bod pawb yn mynd i wneud penderfyniadau synhwyrol yn seiliedig ar hyn.

:lol:
"Dream On"

Y gwir yw mae pobl yn pleidleisio neu ddim yn pleidleisio am bob math o resymau. Fel lliw gwallt, lliw croen, acen, o ba wlad mae rhywun yn dod, gallu rhywun i gerdded ar draeth heb syrthio drosodd :) :winc:

Ond felna mae hi, a dwi ddim eisiau arholiadau cyn gorfod pleidleisio na gorfod egluro pam drws nesaf i'r blwch da'r croes ynddi!


Mae hi'n ddadl reit berswadiol i beidio a meddwl yn ddwys am unrhywbeth os ydy rhywun yn medru canslo fo allan gyda phleidlais anwybodus i'r gwrthwyneb.
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan Blewyn » Sad 31 Maw 2007 2:35 pm

sanddef a ddywedodd:D-O-E-S
D-I-M
B-A-R-N
U-N-F-R-Y-D
G-A-N
A-R-B-E-N-I-G-W-Y-R
A-R
Y-R
E-W-R-O.


Beth yw'r ateb i hyn ? Parhau i drafod y pwnc ar lefel arbenigol, a phenderfynnu ar y cwestiwn yn ol y drafodaeth honno, neu ateb y cwestiwn ar bennod o Big Brother drwy text-in, neu gofyn i Noel Edmonds greu sioe arbenig ar ei gyfer - llawn cystal a refferendwm !
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan sanddef » Sul 01 Ebr 2007 12:22 am

Blewyn a ddywedodd:
Beth yw'r ateb i hyn ? Parhau i drafod y pwnc ar lefel arbenigol, a phenderfynnu ar y cwestiwn yn ol y drafodaeth honno, neu ateb y cwestiwn ar bennod o Big Brother drwy text-in, neu gofyn i Noel Edmonds greu sioe arbenig ar ei gyfer - llawn cystal a refferendwm !


Rho'r manylion a'r barnau economaidd gwahanol i'r cyhoedd ac yna gad i'r cyhoedd benderfynnu.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai

cron