Jon Bon Jela a ddywedodd:Helo hyfryds,
Ymddiheuriadau os yw edefyn tebyg wedi'i phostio o'r blaen (botwm ymchwilio Jon yn ffwcd am ryw reswm) ond beth yw barn y maes am gael yr Euro ym Mhrydain?
Nid economydd mohonof, ond gallaf ddyfalu mae colli ein gallu i osod cyfraddau llog fydd y peth fwyaf negyddol all ddigwydd inni.
Ond dw i eisiau'r Euro nawr! Mae'r arian mor lliwgar a phert!
Nid economydd ydw innau chwaith, felly dw'i ddim yn gallu dadlau o blaid nac yn erbyn, ond dw'i o blaid yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r Ewro yn gweithio ar y cyfandir, felly hoffwn i weld yr Ewro'n disodli'r bunt. Ond ni fydd hynny yn digwydd am ddau reswm: yn gyntaf, mae poblogaeth Prydain yn dal yn Ewrosgeptig; yn ail, mae''r aelodau newydd wedi addo y byddant yn mabwysiadu'r Ewro maes o law (hyd yma, dim ond Slofenia sydd wedi gwneud hynny), felly fe fyddai'n well gan San Steffan aros i weld hynny'n digwydd (ac yn llwyddo) cyn cefnu ar y bunt.