Ie i'r €uro!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Euro i Brydain? Mmm?

Ie!
38
63%
Naaaaa!
16
27%
Ddim yn bothered.
6
10%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 60

Ie i'r €uro!

Postiogan Jon Bon Jela » Sul 11 Maw 2007 2:19 pm

Helo hyfryds,

Ymddiheuriadau os yw edefyn tebyg wedi'i phostio o'r blaen (botwm ymchwilio Jon yn ffwcd am ryw reswm) ond beth yw barn y maes am gael yr Euro ym Mhrydain?

Nid economydd mohonof, ond gallaf ddyfalu mae colli ein gallu i osod cyfraddau llog fydd y peth fwyaf negyddol all ddigwydd inni.

Ond dw i eisiau'r Euro nawr! Mae'r arian mor lliwgar a phert!
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Ie i'r €uro!

Postiogan sanddef » Sul 11 Maw 2007 6:44 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:Helo hyfryds,

Ymddiheuriadau os yw edefyn tebyg wedi'i phostio o'r blaen (botwm ymchwilio Jon yn ffwcd am ryw reswm) ond beth yw barn y maes am gael yr Euro ym Mhrydain?

Nid economydd mohonof, ond gallaf ddyfalu mae colli ein gallu i osod cyfraddau llog fydd y peth fwyaf negyddol all ddigwydd inni.

Ond dw i eisiau'r Euro nawr! Mae'r arian mor lliwgar a phert!

Nid economydd ydw innau chwaith, felly dw'i ddim yn gallu dadlau o blaid nac yn erbyn, ond dw'i o blaid yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r Ewro yn gweithio ar y cyfandir, felly hoffwn i weld yr Ewro'n disodli'r bunt. Ond ni fydd hynny yn digwydd am ddau reswm: yn gyntaf, mae poblogaeth Prydain yn dal yn Ewrosgeptig; yn ail, mae''r aelodau newydd wedi addo y byddant yn mabwysiadu'r Ewro maes o law (hyd yma, dim ond Slofenia sydd wedi gwneud hynny), felly fe fyddai'n well gan San Steffan aros i weld hynny'n digwydd (ac yn llwyddo) cyn cefnu ar y bunt.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Re: Ie i'r €uro!

Postiogan Jon Bon Jela » Sul 11 Maw 2007 9:03 pm

sanddef a ddywedodd:

Cytuno 100%. Cyprus a Malta fydd nesaf i fabwysiadu'r arian ar 1/1/2008, gyda Slofacia yn dilyn ar 1/1/2009 a Lithwania, Bwlgaria ac Estonia yn 2010. Mae'n debyg roedd Lithwania fod ymuno eleni, ond doedd ei heconomi ddim yn barod.

Mae'n debyg erbyn 2022, y DU fydd yr unig wlad fydd ddim wedi mabwysiadu'r Ewro o'r gwledydd UE presennol. :drwg:
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Ie i'r €uro!

Postiogan sanddef » Sul 11 Maw 2007 9:15 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd: Mae'n debyg erbyn 2022, y DU fydd yr unig wlad fydd ddim wedi mabwysiadu'r Ewro o'r gwledydd UE presennol. :drwg:

...ac eithrio Denmarc a Sweden. Dw'i'n gallu dychmygu Sweden yn ymuno yn y pen draw ond mae Denmarc yn fwy Ewrosgeptig na Phrydain.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Jon Bon Jela » Sul 11 Maw 2007 9:24 pm

Hefyd, erbyn hynny, gall Croatia; Twrci; FYROM; Albania; Norwy; Gwlad yr Iâ; Yr Ynys Werdd; Y Swisdir; Georgia; Montenegro a Serbia hefyd fod yn aelodau.

Phew! Tipyn o ben tost gwleidyddol am wn i!

Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod Denmarc mor Ewrosceptig â hynny. Pan es i yno yn 2005, roedd yr Euro yn cael ei dderbyn bron ymhobman!
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Cath Ddu » Sul 11 Maw 2007 9:34 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod Denmarc mor Ewrosceptig â hynny. Pan es i yno yn 2005, roedd yr Euro yn cael ei dderbyn bron ymhobman!

Wrth gwrs. Os ydi mwyafrif helaeth dy dwristiaeth a dy fasnach yn deillio o'r Almaen yna ti ddim am wrthod yr arian. Serch hynny, fel un fu'n ymgyrchu yn Nenmarc adeg refferendwm yn wlad ar ymuno gyda'r Euro (yr oeddwn yno fel rhan o ymdrech yr ymgyrch na yma ym Mhrydain) yr oedd safon y ddadl ynghyd a'r canlyniad bendigedig yn fater o gryn falchder.

Yr oedd y canlyniad yn Sweden hyd yn oed yn well o ystyried fod y cyfan o'r prif bleidiau yn ymgyrchu o blaid. I raddau helaeth ymgyrch pleidiau'r chwith a phleidiau 'gwyrdd' oedd yn gyfrifol am y canlyniadau yn y ddwy wlad.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan sanddef » Sul 11 Maw 2007 9:44 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd: Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod Denmarc mor Ewrosceptig â hynny. Pan es i yno yn 2005, roedd yr Euro yn cael ei dderbyn bron ymhobman!

Mae'n cael ei derbyn, ond mae'r Daniaid hyd yma wedi gwrthod yr Ewro bob tro.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan sanddef » Sul 11 Maw 2007 9:54 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
Wrth gwrs. Os ydi mwyafrif helaeth dy dwristiaeth a dy fasnach yn deillio o'r Almaen yna ti ddim am wrthod yr arian.

Yn wir, a'r rheswm am Euroscepticism Denmarc yw (i raddau) am eu bod yn eu meddyliau yn cysylltu'r UE â'r Almaen, eu gelynion traddodiadol. Maen nhw hefyd yn falch o'r wladwriaeth sydd ganddynt, a dydan nhw ddim yn hoff o'i gweld yn cael ei newid gan fiwrocratiaeth eu cymydog mawr.[/quote]
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Jon Bon Jela » Sul 11 Maw 2007 10:12 pm

Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan bartiddu » Sul 11 Maw 2007 10:28 pm

Dim bod gennyf i ddoethineb mawr ar y pwnc o bell ffordd, ond dwi wedi sylwi trwy dilyn trafodaeth ar fforwm trafod arall ar y pwnc, os geith y gwledydd sydd hefo'r cyflenwadau olew mwya eu ffordd (Iran a Rwsia e.e.), yr Ewro fydd yn cymeryd lle y Dollar, nawr te! Hyn yw'r prif rheswm medd rhai am elyniaeth UDA tuag at Iran!
Ta beth, fyddai'n braf cael gwared o wep Liz oddiar yr arian hefyd, fydd Cymru medru cael nodyn Ewro ei hyn tybed? Pwy neu be fydde arno? Y Ddraig i mi ar un ochor (I gymeryd lle Liz wrth gwrs) A Iolo Morgannwg ar yr ochor draw ( y deg ewro fydde hwn) :D

Erthygl Aljazeera - Ewro am Olew
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron