Postiwyd: Iau 06 Rhag 2007 12:49 pm
S.W. a ddywedodd:Mae gwahaniaeth enfawr rhwng seilio barn yn y cyd-destyn yma a mynd at lawfeddyg. Hynny'n ddigon blydi amlwg.
Eglura fo ta genius - sut bo cwestiwn meddygol yn wahanol i gwestiwn economeg/gyfansoddiadol ?
O iwsio dy logic di dytlswn ni symud i ffwrdd o democratiaeth yn gyfan gwbl a rhoi'r hawl i benderfynu ar wleidyddiaeth yn nwylo'r 'deallusion'.
Sut felly ?
Dwi'n seilio fy marn i ar bethau drwy ddehngli sut byddai'n effeithio ar yr hyn sy'n bwysig i fi. Dwi wedyn yn pleidleisio ar sail hyn.
Iesu Goc mae'na rwdls ar maes-e !! Wyt ti'n seilio dy farn nelo problem efo dy beipiau ar be ti'n ddeall (chydig, siawns) wedyn gwneud pleidlais am y peth, ta ti'n codi dy ffon a galw'r plymar ?
Da ni ddim yn dadlau modd o ffurfio barn SW, dadlau ydym pa gwestiynnau y dylid eu hateb ein hunain a pa gwestiynnau y dyliwn eu hateb drwy ofyn y deallusion.
Refferendwm - mae o YN gallu dod a sefydlogrwydd i rhywbeth (mae o hefyd yn gallu dod ag ansefydlogrwydd gan ddibynnu ar y canlyniad wrth reswm). Mae hynny'n glir iw weld. Os ydy'r llywordraeth am newid rhywbeth sy'n destyn dadl yna mae rhoi'r peth yn nwylo'r cyhoedd yn gallu tynnu'r ddadl "mynd yn groes i ewyllus y bobl" allan yn llwyr.
A be ddiawl mae hyn yn gyflawni ? Ydy o'n gwneud y canlyniad yn gywir ? Na. T'ydi osgoi bai neu lleihau dadlau ddim yn datrys problemau SW !