Dwi newydd orffen darllen llyfr Bardd Barking am wleidyddiaeth, cerddoriaeth a gwladgarwch The Progressive Patriot.
Does dim byd chwyldroadol o newydd yma, ond mae yna sawl syniad diddorol:
• Nad oes wnelo gwladgarwch ddim oll â cheidwadaeth. (Pwynt mae George Orwell yn ei wneud yn The Lion and the Unicorn).
• Bod gan y Chwith gymaint o hawl â’r Dde i’w hystyried eu hunain yn draddodiadwyr (traditionalists) gan eu bod nhw’n rhan o draddodiad hir o bobl Prydain yn mynnu eu hawliau gan bobl rymus y wlad – tradddodiad sy’n dechrau gyda’r Magna Carta a yn estyn trwy'r Rhyfel Cartref a brwydrau’r Lefelwyr a’r Cloddwyr, trwy’r brwydr dros estyn yr etholfraint rhwng 1832 ac 1928, ac ymlaen.
• Bod eisiau diffinio Prydeindod ar sail lle yn lle hil (“space not race”), gan adael i bobl ddiffinio eu Prydeindod eu hunain, neu ei ddiffyg, ar sail y llefydd ym Mhrydain sy’n bwysig iddyn nhw.
Mae fe’n mynd bant ar ôl sawl sgwarnog – canu gwerin yr Unol Daleithiau; profiad ei dad fel warden tân yn yr Ail Ryfel Byd – ond rhywsut yn llwyddo i ddod â’r cyfan yn ôl at ei gilydd.