Pa mor euog y dylai ni, bobol a oedd a dim oll i'w wneud a caethwasiaeth, ei deimlo am mai rhai pobol o'n gwlad ni oedd yn gyfrifol amdano? Dylen ni ymddiheuro, er y gallen ni yr un mor hawdd fod ar yr ochor arall yn gofyn am ymddiheuriad?
A faint o ffws y dylai pobol dduon sy'n ddisgynyddion o'r caethweision ei wneud am y peth, o ystyried nad ydyn nhw wedi dioddef unrhyw loes eu hunain a wedi eu geni i wledydd cyfoethocach na fydden nhw pe bai nhw heb gael eu cludo o'u cynefin?
Ydi rhai pobol, fel Ms Dynamite ar raglen BBC noson o'r blaen, yn iawn i feirniadu rywun sy'n byw yn gysurus mewn ty wedi ei brynu gyda cyfoeth caethwasiaeth? Yn enwedig o ystyried ei bod hi yn byw mewn gwlad sydd wedi ei wneud yn gyfoethog gan gaethwasiaeth?