Tudalen 1 o 2

Ta Ta Tony

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 5:31 am
gan sanddef

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 5:57 pm
gan Macsen
Mae'n debygol o fynd bryd hynny, ond ers pryd mae'n swyddogol?

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 6:59 pm
gan Clebryn
Dyw'r stori yma ddim eto'n swyddogol ychan.

Dyw e fawr o "sgwp" chwaith gyda'r rhan fwyaf o sylwebwyr gwleidyddol wedi disgwyl iddo gyhoeddi ei ymddiswyddiad o fewn wythnos wedi canlyniadau siomedig ar Fai y 3ydd.

O ran diddordeb, mae gen i wager bach ar John Denham ar gyfer yr arweinyddiaeth

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 7:26 pm
gan Positif80
Ydi rywun isio prynu cerdyn?

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 7:28 pm
gan sanddef
Dyw'r stori yma ddim eto'n swyddogol ychan.


Dim ond cyfieithu teitl y post gwreiddiol ydw i.

Dyw e fawr o "sgwp" chwaith


A beth? Esgus i drafod ei ymddiswyddo ydy hwn, nid i ennill rhyw fath o breis am newyddiadwriaeth.

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 7:42 pm
gan Positif80
Beth am whip-round?

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 8:15 pm
gan sanddef
Ond beth fydd Tony yn ei neud nesaF? Dyma rai awgrymiadau:

1. Mynd i Tuscani am wyliau
2. Gwisgo mwstash ffug a symud i Brazil
3. Esgyn i'r nefoedd
4. Seilio plaid wleidyddol newydd hollol nyts
5. Rhedeg am y swydd o Faer Llundain
6. Bitsio am Brown
7. Atal tswnami gyda grym ei wen
8. Prynu ty yn Bagdad

PostioPostiwyd: Sul 08 Ebr 2007 5:32 pm
gan Geraint Edwards
sanddef a ddywedodd:Ond beth fydd Tony yn ei neud nesaF? Dyma rai awgrymiadau:

1. Mynd i Tuscani am wyliau
2. Gwisgo mwstash ffug a symud i Brazil
3. Esgyn i'r nefoedd
4. Seilio plaid wleidyddol newydd hollol nyts
5. Rhedeg am y swydd o Faer Llundain
6. Bitsio am Brown
7. Atal tswnami gyda grym ei wen
8. Prynu ty yn Bagdad


Be am ailffurfio ei hen fand roc, "Ugly Rumours"? Neu mynd ar grash course yn Nant Gwrtheyrn yn ei hoff iaith ("ffycin Welsh")?

PostioPostiwyd: Iau 10 Mai 2007 7:55 am
gan Cymro13
Heddiw yw'r diwrnod gweler

PostioPostiwyd: Iau 10 Mai 2007 11:33 am
gan gwallt blonde
27 Mehefin bydd ei ddiwrnod olaf!

http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk_politics/6639945.stm