Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Iau 10 Mai 2007 1:39 pm
gan Clebryn
Prif Weinidog llwyddiannus ar y cyfan

Datganoli, Diwygio Cyfansoddiadol, Proses Heddwch Gogledd Iwerddon, Isafswm Cyflog, Kosovo a Sierra Leon, ag Annibyniaeth i Fanc Lloegr oll yn haeddu canmoliaeth mawr

Ar y llaw arall dwi'n ofni taw Irac a'r helynt "loans for peerages" fydd yn cael ei gofio gan drwch yr etholwyr, ac Iac fwy na dim byd arall fydd wedi ei gerfio ar ei epitaff gwleidyddol

PostioPostiwyd: Iau 10 Mai 2007 3:20 pm
gan GT
Gwynt teg ar ol y nytar.

PostioPostiwyd: Iau 10 Mai 2007 3:55 pm
gan Y Celt Cymraeg
Un o brifweinidogion mwyaf llwyddianus rhaid cyfadde, mi fydd hi' n chwith ir wlad 'ma hebddo.
Bechod bod y lol ma am cash for peerages a rhyfel irac yn mynd i bardduo ei hanes, er, mi wnaeth y penderfyniad cywir i fynd i rhyfel i Irac.

PostioPostiwyd: Iau 10 Mai 2007 3:55 pm
gan Gwil ap Tomos
Peidiwch anghofio fod John 'snout in the trough' Prescott yn mynd hefyd.

PostioPostiwyd: Iau 10 Mai 2007 3:56 pm
gan Reufeistr
er, mi wnaeth y penderfyniad cywir i fynd i rhyfel i Irac.


Do chwara teg iddo fo, ma'n wlad llawer mwy heddychlon bellach dydi, y twat.

PostioPostiwyd: Iau 10 Mai 2007 3:56 pm
gan Gwil ap Tomos
A hefyd John 'cujimmy' Reid

PostioPostiwyd: Iau 10 Mai 2007 4:00 pm
gan krustysnaks

PostioPostiwyd: Iau 10 Mai 2007 4:25 pm
gan Nanog
Y Celt Cymraeg a ddywedodd: mi wnaeth y penderfyniad cywir i fynd i rhyfel i Irac.


Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod e wedi bod mas yn Irac yn ymladd. Chware teg iddo. Dewr iawn.

PostioPostiwyd: Mer 06 Meh 2007 3:06 pm
gan Guto Morgan Jones
Gwynt teg ar ei ôl o ddweda i. Unwaith adewith o 10 Stryd Downing fe gaiff o'r anrhydeddau canlynol:

1. Aelodaeth o Urdd y Garter a dwad yn Syr Tony Blair (fel sydd 'di digwydd i Brif Weinidogion ers amser rwan.), yng nghyd ag ambell i anrhydedd arall fel aelod o Urdd Merit neu Urdd Cymrawd er Anrhydedd

2. Parhau yn aelod o'r Cyfrin Gyngor

ac hefyd naillai;
3.cael cic i dy'r arglwyddi ar ôl diweddu fel aelod seneddol, a dwad yn Arglwydd am oes (teitl sydd ddim yn cael ei etifeddu) fel ddigwyddodd i Margaret Thatcher ar ôl iddi hi adael Downing Street.

neu
4. Cael ei greu yn Iarll (sydd yn etifeddol o'i gymharu a chaeel eich creu yn Arglwydd am oes) fel ddigwyddodd i David Lloyd George, Iarll Lloyd George o Dwyfor.

Yn ogystal a hyn mae'n cael pensiwn uffar o hael a bob dim arall sydd yn dwad o fod yn gyn Brif Weinidog ar Brydain