10 Mlynedd o Lafur

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

10 Mlynedd o Lafur

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 01 Mai 2007 8:13 pm

Deng mlynedd yn ol i heddiw cafodd Llwyodraeth Lafur cael ei ethol mewn i bwer.

Er nad wyf yn Lafur, teimlaf bod pethau wedi gwellau o dan y blaid ers iddyn nhw ddod i bwer degawd yn ol. Nid ydym yn gallu gwadu ffaith bod buddsoddi mewn i'n gwasanaeth iechyd ac ein gyfundrefn dysgu wedi digwydd ac rydym yn llawer gwell oherwydd hynny. Rydym hefyd wedi cael y Cynulliad.

Llai weld bydd rai ohonoch yn feirniadol iawn am blynyddoedd Blair, yn arbennig pryd mae'n dod i ymyrraeth yn Irac. Ond dwi'n cofio'r dydd pan ddaeth y blaid mewn i bwer ac mor falch i weld 17 mlynedd o llywodraeth Tori yn dod i ben.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhods » Mer 02 Mai 2007 12:59 pm

Cawn ni weld nawr...

* Gwasanaeth Iechyd mewn argyfwng gyda nifer yng Nghymru mewn bygythiad o cael ei cau/israddio
* Ysgolion yn cau ar draws y wlad
* Swyddfeydd Post yn cau
* Pensiynwyr di cael ei twyllo gan Gordon Brown a colli ei phensiynnau
* Irac
* Prydain dan fygythiad enfawr yn ddyddiol gan derfysgwyr oherwydd y mess mai Blair& co di neud
* Mwy o waith - ie...ond ar gyflogau isel
* Mwy ar benthyciadau - a llawe mwy yn ffidlan y system. Lot o bobl nawr yn 'well off' yn ariannol trwy peidio gweithio
* Cynulliad - ie. Ond be sy di gyflawni?
* Cyfraith a threfn allan o rheolaeth

A hyn yw jyst y dechreuad...

Ie - ma pethe lot yn well dan 'BLAIR'S BRITAIN'!!!!!! :?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan SbecsPeledrX » Mer 02 Mai 2007 3:56 pm

[quote="Rhods"]Cawn ni weld nawr...

* Gwasanaeth Iechyd mewn argyfwng gyda nifer yng Nghymru mewn bygythiad o cael ei cau/israddio sy'n crap, ond o leia mae gwasanaeth iechyd genedlaethol yn dal i fod
* Ysgolion yn cau ar draws y wlad llnembyd i hyfforddi ac addysgu'r genhedlaeth newydd o glowyr - oh na hold on
* Swyddfeydd Post yn cau Ysbytai, Pylle Glo, Ffatrioedd, Siope, Gweithfeydd Dur ......... yn cau er mwyn i'r filltir sgwar aros ar agor
* Pensiynwyr di cael ei twyllo gan Gordon Brown a colli ei phensiynnau Pensiynnau yn cael eu cysylltu eto a enillion, rhywbeth chwalwyd gan ryw blaid sydd bellach wedi mynd yn angof
* Irac Irac, Y Malvinas, Iwerddon
* Prydain dan fygythiad enfawr yn ddyddiol gan derfysgwyr oherwydd y mess mai Blair& co di neud Lloegr dan fygythiad enfawr yn ddyddiol gan weriniaethwyr oherwydd yr mess oedd Thatcher & co di neud o'r Kesh, Y Bogside a Divis.
* Mwy o waith - ie...ond ar gyflogau isel Dim gwaith ar dim cyflog. Youth Slavery Scheme
* Mwy ar benthyciadau - a llawe mwy yn ffidlan y system. Lot o bobl nawr yn 'well off' yn ariannol trwy peidio gweithio lot o bobl yn waeth off drwy methu gweithio
* Cynulliad - ie. Ond be sy di gyflawni? Colonial Office ym mharc cathays yn llwyddo i gadw ni yn ein lle
* Cyfraith a threfn allan o rheolaeth Chwyddiant, Y ddyled genedlaethol a cyfraddau llog allan o reolaeth. Dennis Thatcher yn colli rheolaeth o'i bledren ar ol bod ar y jiws trwy'r dydd.

A hyn yw jyst y dechreuad...

Ma Llafur yn dwats, ond chi'n dwats doniol os chi'n meddwl gallech chi gal get away efo ymosod ar eu record.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan ceredigcaredig » Gwe 04 Mai 2007 11:04 am

Cofio'r noson pan aeth Llafur mewn gyntaf ar ol yr holl flynyddoedd o Thatcheriaeth. Nes i rioed fotio Llafur, ond ro'n i'n llythrennol yn crio gyda balchder wrth weld Ceidwadwyr yn colli. Heb gofio dim byd heblaw Thatcheriaeth ers pan o'n i'n ysgol gynradd.

Wrth gwrs bod pethe wedi gwella dan Llafur - ma unryw un sy'n dweud fel arall yn gwadu'r chwalu cymdeithasol a chymunedol achosodd Thatcher yng Nghymru - yn gwadu'r shifft seicolegol enfawr tuag at hunanoldeb ac unigolyddiaeth - there is no such thing as community, only groups of individuals.

Ond wedi 10 mlynedd y teimlad mwyaf yw siom. Siom bod pethe heb gael eu cyflawni, siom eu bod nhw wedi bradychu egwyddorion a symud i'r dde, siom bod y Cynulliad yn methu cyflawni ffacol, a siom bod datganoli mewn gwirionedd wedi bod yn niweidiol i'r iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Wedi dweud hynny - gwell Llafur na tori - a dau ddewis sydd yn Senedd Prydain.
ceredigcaredig
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Gwe 27 Ebr 2007 11:18 pm

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 04 Mai 2007 12:14 pm

cawn weld rwan madrwyddgryf os yw dy blaid di yn ein condemio i bedwar mlynedd arall efo'r mwncis yma mewn grym.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron