Bobby Sands A.S. R.I.P.

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gwil ap Tomos » Mer 09 Mai 2007 6:38 pm

"Gwna di hynny Guto"

Guto?

Wedi dysgu cymreag wyt ti Sioni bach?
Gwil ap Tomos
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 11 Ebr 2007 8:52 pm
Lleoliad: Arfon

Postiogan Dan Dean » Mer 09 Mai 2007 7:29 pm

Ail ddyfynu fy hun a ddywedodd:
IRA= Murdering Cunts.
Bobby Sands yn IRA.
Felly..BS one of the Murdering Cunts

Rhesymeg hollol anghywir os cai ddeud. Fuaswn yn teimlo fel ffwl yn galw pob un o filwyr yr UDA yn y byd yn lofruddiwr, er engraifft.



Gyda dy resymeg di mae pob un aelod o'r fyddin mewn nifer o wledydd yn y byd yma yn lofruddiwr.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Gwil ap Tomos » Mer 09 Mai 2007 7:35 pm

"Gyda dy resymeg di mae pob un aelod o'r fyddin mewn nifer o wledydd yn y byd yma yn lofruddiwr"


Yndi, mae nhw.
Dyna be ma soldiwrs yn dda amdano ynte. Yn enwedig y rhei sy'n carrio gynnau. ( fel BS?)
Gwil ap Tomos
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 11 Ebr 2007 8:52 pm
Lleoliad: Arfon

Postiogan Dan Dean » Mer 09 Mai 2007 10:47 pm

:ofn:
Dwi di cael syniad campus i gymeryd China drosodd: cael phd yn y gyfraith i Gwil ap Tomos, ei benodi fel prif farnwr y wlad, ac ymhen wythnos bydd y fyddin gyfa wedi ei ddedfrydu i farwolaeth am lofruddio. Wedyn hei presdo, dim problem. Chydig iawn o farwolaethau ar ochor ni.

Diffinia "llofruddio".
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Gwil ap Tomos » Iau 10 Mai 2007 7:03 am

Twt twt Dan bach. Wyt ti'n mynd dros ben llestri 'rwan yntwyt. Paid a trio hiwmor..mae'n amlwg nad yw'r ddawn genti.


Dwi'n trio cofio os galwais i BS a'i gyfeillion yn soldiwrs. Dwi'm yn meddwl y buaswn achos nid dyna oeddant.

PHD yn y gyfraith?
Fysa LlB yn well hwyrach
Gwil ap Tomos
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 11 Ebr 2007 8:52 pm
Lleoliad: Arfon

Postiogan Griff-Waunfach » Iau 10 Mai 2007 8:24 am

Gwil ap Tomos a ddywedodd:Twt twt Dan bach. Wyt ti'n mynd dros ben llestri 'rwan yntwyt. Paid a trio hiwmor..mae'n amlwg nad yw'r ddawn genti.


Dwi'n trio cofio os galwais i BS a'i gyfeillion yn soldiwrs. Dwi'm yn meddwl y buaswn achos nid dyna oeddant.

PHD yn y gyfraith?
Fysa LlB yn well hwyrach


Ond dwyt ti heb diffinio Llofruddiaeth... Mae'r hyn wyt ti yn galw Bobby Sands yn dibynnu ar ddiffiniad y gyfraith o llofruddiaeth. Mae dy ddiffyniad personnol di Gwil o beth yw llofrudd yn ddibwys. Nid du a gwyn mo'r Byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan CORRACH » Iau 10 Mai 2007 8:29 am

Gwil ap Tomos a ddywedodd:Twt twt Dan bach. Wyt ti'n mynd dros ben llestri 'rwan yntwyt. Paid a trio hiwmor..mae'n amlwg nad yw'r ddawn genti.


Dydi'r sarcasm ma sicir ddim yn gweithio, ac yn sicir ddim yn helpu profi dy bwynt di. :?
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Postiogan Gwil ap Tomos » Iau 10 Mai 2007 3:43 pm

Corrach

"Dydi'r sarcasm ma sicir ddim yn gweithio "

'Rwyt ti'n dipyn yn selective efo cyhuddio rhywun o sarcasm. Os nad oes genti rywbeth gwell i ddweud cad allan ohoni, OK?

Griff/Dan

Cytuno yn llwyr nad ydi y Byd yn ddu a gwyn ac fel deudais does gynno fi ffyc all o ddiddordeb diffinio be ydi llofruddiath etc etc h/y ei ddangos yn ddu neu wyn. Barn sydd gynno i a barn sydd gynno chi. Wnaiff neb newid ein meddyliau
Mae'r eda yma yn dechra efo rywbeth fel
' X mlynedd ers marw BS. RIP'
Dwi'n ateb trwy ofyn i bobl gofio marwolaeth pobl wedi eu lladd gan ei fates o.

Pe fuasa yna eda arall yn cael ei agor yn deud
" X mlynedd ers marw (nameyourprominentloyalist) RIP"
yna buaswn yn ymateb trwy ofyn i bobl gofio marolaeth pobl wedi eu lladd gan mates hwnnw.


Dwi'm yn siwr iawn be fyswn yn ei wneud os fysa yna eda yn cael ei agor yn dweud
"X mlynedd ers marw (nameyourbritishserviceman) RIP"
Rhywsut nei gilydd dwim yn gweld un felly yn agor ar y Maes yma.
Hwyrach fysa rhywun yn licio agor un neu hyd yn oed yr eda yma ar y maes canlynol
http://www.arrse.co.uk/cpgn2/Forums.html

Edrach ymlaen am ei weld o.

Dwi wedi darllen lot o be sgynnoch i ddeud ar yr eda arall ( ac yn gweld/cytuno efo mwy na ambell i un o'r pwyntau.) Wnawn i ddim cytuno yn llwyr felly does dim pwynt cario ymlaen. Welai chi ar edau eraill os gai i mewn ddigon cynnar mewn dadl. Does dim gwaeth na trio cael i mewn hanner ffordd.
Toodlepips ole boys
Gwil ap Tomos
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 11 Ebr 2007 8:52 pm
Lleoliad: Arfon

Postiogan Dan Dean » Sad 12 Mai 2007 12:44 pm

does gynno fi ffyc all o ddiddordeb diffinio be ydi llofruddiath

Achos ti'n gwbod yn iawn erbyn rwan nid yw'r diffiniad cywir o'r gair yn ffitio disgrifiad o Bobby Sands. :rolio:

Barn sydd gynno i

Tydi "roedd Bobby Sands yn lofrydd" ddim yn farn, mae'n gelwydd.

Gwil ap Tomos a ddywedodd:Mae'r eda yma yn dechra efo rywbeth fel
' X mlynedd ers marw BS. RIP'
Dwi'n ateb trwy ofyn i bobl gofio marwolaeth pobl wedi eu lladd gan ei fates o.

Sgin neb broblem efo hynnu a ti di anwybyddu'r nonsens ti di honni.

Pe fuasa yna eda arall yn cael ei agor yn deud
" X mlynedd ers marw (nameyourprominentloyalist) RIP"
yna buaswn yn ymateb trwy ofyn i bobl gofio marolaeth pobl wedi eu lladd gan mates hwnnw.

Mae'r holl beth yn dibynnu ar be mae nameyourprominentloyalist wedi neud yn ei fywyd. Mae dy resymeg yn shit.

Dwi'm yn siwr iawn be fyswn yn ei wneud os fysa yna eda yn cael ei agor yn dweud
"X mlynedd ers marw (nameyourbritishserviceman) RIP"

Gan ddefnyddio dy resymeg "one of the murderers = llofrydd" pam ateb gwahanol yn y mater yna? Ac unwaith eto i gyd yn dibynnu be mae nameyourbritishserviceman wedi neud yn ei fywyd.

Ffaith ddiddorol am Sands - cyn i'w deulu gael eu hel allan o'u cartref drwy drais ac ymosodiadau secterian (roedd yn byw mewn ardal Protestanaidd), yr oedd yn aelod o glwb chwaraeon brotestanaidd Willowfield Temperance Harriers. Dyma lun ohono.

Delwedd

Mae'n ymddangos fel nad oedd ganddo broblem ffitio mewn i grwp cyn ymuno - boed yn brotestant neu'n gatholig. Go brin oedd yn gallu gwneud hynnu wedyn. Mae'n dangos sut mae bod ynghanol gwrthdaro secterian yn gorfodi rhywun diniwed i ymuno a grwp arfog. A roedd Sands dim ond un engraifft o nifer fawr o bobol rownd y byd i gyd. Trist de?
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Gwil ap Tomos » Sad 12 Mai 2007 6:54 pm

"Trist de?"

Ia. Iawn.



















Whatever
Gwil ap Tomos
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 11 Ebr 2007 8:52 pm
Lleoliad: Arfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron