Dim Digon o Roddwyr Sberm

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Fyddech Chi'n Rhoddi Sberm?

Byddwn, Pam Lai?
4
17%
Na Fyddwn, Dw i ddim Eisiau Ryw Emo-Goth yn Troi Fyny ar fy Stepan Drws Mewn 15 Mlynedd...
13
54%
Rydw i'n Ferch
7
29%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 24

Dim Digon o Roddwyr Sberm

Postiogan Macsen » Iau 17 Mai 2007 4:28 pm

Dwi'n gweld bod 'na raglen ar BBC 3 pnawn 'ma yn cwyno nad yw digon o ddynion ym Mhrydain yn fodlon rhoddi sberm.

Ar un llaw mae'n rhyfedd bod nhw'n cael trafferth gan bod cyflenwad bron yn ddiderfyn ar gael, ond mae nifer yn anghyffurddus gyda'r syniad am nad yw'r broses yn anhysbys.

Fyddech chi'n rhoi sberm, fel bod teulu rywle yn cael y pleser o fagu plentyn? Ta ydi'r syniad bod gennych chi hyd at 50 o blant rywle yn y byd yn un rhy frawychus?

Cwestiwn anodd. :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan ceribethlem » Iau 17 Mai 2007 4:52 pm

Gyda dulliau profi DNA modern wedi cyplysu a diwylliant o siwio pawb a phopeth, bydden i ddim yn rhoi sberm achos mewn 18 mlynedd fe all rhyw fenyw siwio fi am gwerth 18 mlynedd o CSA. Bolycs i hwnna.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Macsen » Gwe 18 Mai 2007 8:07 am

Sai'n credu bod modd iddyn nhw wneud dan y ddeddf newydd. Dyw dulliau profi DNA ddim o bwys oherwydd nad yw'r peth yn anhysbys mwyach - gall y plentyn ofyn am y ffurfleni sy'n dweud pwy yw ei dad/thad biolegol. Ond ar y teulu sy'n magu'r plentyn mae'r cyfrifoldeb amdano.

Dwi'n meddwl bod hwn yn fater diddorol oherwydd bod yna gymaint o pros and cons. Y pro ydi dy fod ti'n rhoi bywyd cyfan i rywun heb golli unrhywbeth dy hun - mae rhai pobol yn fodlon rhoi rhan o'u corff i gadw rywun arall yn fyw, felly beth sy'n bod ar rhoi rhywbeth hollol adnewyddadwy er mwyn creu bywyd yn y lle cyntaf? Rwyt ti hefyd yn rhoi hapusrwydd mawr i ryw deulu rywle sy'n anobeithio eisiau plentyn ond methu cael unrhyw ffordd arall.

Ar y cons, wrth gwrs, mae'r ffaith dy fod ti'n gwybod bod gen ti mwy nag un mab/merch rywle nad wyt ti byth yn mynd i'w nabod. Mae hefyd y posibilrwydd y bydden nhw'n troi fyny ar dy stepan drws, gan achosi gofid i unrhyw deulu arall y byddet ti efo. Mae yna hefyd y cwestiynau crefyddol/moesol arferol - ydi o'n chwarae Duw, ydi o'n erbyn natur. Ac a ydi o'n deg ar y plentyn i gael gwybod pan mae'n 15 nad ei dad o ydi ei dad o?

Cwestiwn anodd. :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 18 Mai 2007 11:46 pm

O ran y grefydd Gristionogol nid ydwyf yn ymwybodol o unrhyw ddadleuon moesol yn erbyn rhoi had. Mi fydda angen ymestyn dipyn ar ddiffiniad godineb i'w cymhwyso i roi had.

Mae'n debyg fy mod i'n rhy hen i gynnig bellach, y prif reswm dros beidio â chynnig pan oeddwn yn iau oedd diffyg gwybodaeth bod galw am roddion o had. Er fy mod wedi gweithio ym maes iechyd am flynyddoedd maith, nid ydwyf yn ymwybodol o unrhyw alw penodol am roddwyr had nac o unrhyw hysbysrwydd o le a sut gellir gwneud rhodd.

Rwy'n rhoi gwaed oherwydd bod pobl y GIG yn dod i'r neuadd pentre' pob blwyddyn ac yn gofyn am rodd, mae'r gwasanaeth ar angen am roddion o waed yn hysbys gan hynny. Pe bai'r angen am roddion o had yr un mor hysbys rwy'n sicr bydda lawer mwy yn fodlon cynnig rhodd. (Nid fy mod i'n awgrymu cynnal sesiynau rhoi had yn y Neuadd Goffa :wps: - jest rhoi lefel debyg o hysbysrwydd i'r achos).

O ran y ddadl rhoddion hysbys / anhysbys, mi fyddwn yn hapusach rhoi had gyda'r sicrwydd bod cofnod o'r rhoddwr yn cael ei gadw. Yn bennaf er mwyn cael y sicrwydd bod modd cysylltu ag unrhyw blentyn (neu ei rieni) pe bai rhywbeth genetig difrifol yn cael ei ddarganfod wedi'r rhodd; a hefyd oherwydd yr ofn bach yng nghefn y meddwl "beth petai fy mab go iawn yn planta a hanner chwaer rhodd trwy ddiffyg gwybodaeth?"
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan DAN JERUS » Gwe 07 Medi 2007 8:19 pm

Mmm, wel da chi 'di codi pwyntia da iawn yn fan hyn ond dwi'm yn gweld ddim byd o'i le arno fo fy hun. Yn wir, dwi'n rhoi sperm yn aml iawn. I fy hosan Peacocks :winc:
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Positif80 » Gwe 07 Medi 2007 9:17 pm

No way, nefar, byth.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Kez » Sad 08 Medi 2007 2:39 am

Faint wyt ti'n ei gael am litr? Mae gen i hen ddigon i sbario os yw'r pris yn iawn, a 'top quality' yw e 'ed.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron