O ran y grefydd Gristionogol nid ydwyf yn ymwybodol o unrhyw ddadleuon moesol yn erbyn rhoi had. Mi fydda angen ymestyn dipyn ar ddiffiniad godineb i'w cymhwyso i roi had.
Mae'n debyg fy mod i'n rhy hen i gynnig bellach, y prif reswm dros beidio â chynnig pan oeddwn yn iau oedd diffyg gwybodaeth bod galw am roddion o had. Er fy mod wedi gweithio ym maes iechyd am flynyddoedd maith, nid ydwyf yn ymwybodol o unrhyw alw penodol am roddwyr had nac o unrhyw hysbysrwydd o le a sut gellir gwneud rhodd.
Rwy'n rhoi gwaed oherwydd bod pobl y GIG yn dod i'r neuadd pentre' pob blwyddyn ac yn gofyn am rodd, mae'r gwasanaeth ar angen am roddion o waed yn hysbys gan hynny. Pe bai'r angen am roddion o had yr un mor hysbys rwy'n sicr bydda lawer mwy yn fodlon cynnig rhodd. (Nid fy mod i'n awgrymu cynnal sesiynau rhoi had yn y Neuadd Goffa
- jest rhoi lefel debyg o hysbysrwydd i'r achos).
O ran y ddadl rhoddion hysbys / anhysbys, mi fyddwn yn hapusach rhoi had gyda'r sicrwydd bod cofnod o'r rhoddwr yn cael ei gadw. Yn bennaf er mwyn cael y sicrwydd bod modd cysylltu ag unrhyw blentyn (neu ei rieni) pe bai rhywbeth genetig difrifol yn cael ei ddarganfod wedi'r rhodd; a hefyd oherwydd yr ofn bach yng nghefn y meddwl "beth petai fy mab
go iawn yn planta a hanner chwaer
rhodd trwy ddiffyg gwybodaeth?"