Tudalen 1 o 6

McCanns a'r pab

PostioPostiwyd: Sad 02 Meh 2007 2:06 pm
gan rooney
Mae Madeleine druan dal ar goll. Edmygaf ei rhieni am eu ymdrechion ac am eu ffydd.

Cwbl warthus oedd y cwestiwn gafodd ei ofyn ar Question Time noson o'r blaen, oedd yn beirniadu y pab am gyfarfod a nhw gan awgrymu fod y pab yn anheg yn cyfarfod a nhw a ddim pob rhiant arall sydd wedi colli plentyn. Ac yr awgrymiad na fuasai'r pab wedi bod mor barod i gyfarfod a "mam sengl ar stad cyngor yn ne Llunain". Cywilydd i'r BBC am ddangos y fath sothach- esiampl arall o pa mor warped yw cynulleidfa y raglen yna.

Y newydd da yw fod ffydd y McCanns yn gryfach na beirniadaethau slei yr anffyddwyr sinicaidd, a gweddiwn y bydd Madeleine yn cael ei dychwelyd nol yn saff.

PostioPostiwyd: Sad 02 Meh 2007 3:19 pm
gan Positif80
Gweddiwch cymaint a mynnwch chi, ond yn anffodus dwi'm yn meddwl fydd y plentyn yma'n ddychwelyd adref yn fyw. Mae hi'n siwr o fod wedi marw neu hefo ryw deulu arall bellach.

Yn bersonol, os oes Duw, dwi'm yn meddwl ei fod o'n un da.

Ond eto, os ydyn nhw'n meddwl bod y Pab yn gallu gwneud rywbeth i'w helpu, dwi'm yn mynd i'w barnu nhw. Beth bynnag sy'n eu helpu i ymdopi hefo'r sefyllfa hunllefus yma.

'Swn i'n sicr ddim yn eu beirniadu ar Question Time, pan dylen nhw siarad am bethau hollol gwahanol ar y rhaglen yna beth bynnag.

Re: McCanns a'r pab

PostioPostiwyd: Sul 03 Meh 2007 1:47 am
gan huwwaters
rooney a ddywedodd:Mae Madeleine druan dal ar goll. Edmygaf ei rhieni am eu ymdrechion ac am eu ffydd.


Digon teg

Cwbl warthus oedd y cwestiwn gafodd ei ofyn ar Question Time noson o'r blaen, oedd yn beirniadu y pab am gyfarfod a nhw gan awgrymu fod y pab yn anheg yn cyfarfod a nhw a ddim pob rhiant arall sydd wedi colli plentyn.


Ddim yn gweld dim o'i le gyda hwn. Dim ond y tabloids fel The Sun a'r News of the World, sy'n heipio pethe cymaint. Ble oedd y pab adeg Soham? Pab gwahanol bellach, ond dal yr un teitl a statws.

Ac yr awgrymiad na fuasai'r pab wedi bod mor barod i gyfarfod a "mam sengl ar stad cyngor yn ne Llunain". Cywilydd i'r BBC am ddangos y fath sothach- esiampl arall o pa mor warped yw cynulleidfa y raglen yna.


Be am yr holl rhieni sy'n colli plant neu'n dioddef o nhw'n cael eu lladd yn Iraq ar hyn o bryd? Peidia neud yr un camgymeriad a George Anwybodus Bush, sy'n meddwl na dim ond Mwslemiaid sy'n byw yn Iraq. Ma na tua 3,000,000 o Gristnogwyr ac Iddewon yn byw ene. Digon o reswm iddo fentro i'r wlad.

Y newydd da yw fod ffydd y McCanns yn gryfach na beirniadaethau slei yr anffyddwyr sinicaidd, a gweddiwn y bydd Madeleine yn cael ei dychwelyd nol yn saff.


Pam na anffyddwyr sinicaidd? Sut wyt ti'n gwybod hyn? Go bosib na Cristions asgell-dee ydynt?

PostioPostiwyd: Sul 03 Meh 2007 8:29 am
gan S.W.
Cywilydd i'r BBC am ddangos y fath sothach- esiampl arall o pa mor warped yw cynulleidfa y raglen yna.


Onid rhaglen fyw ydy Question Time? Os felly sut wyt ti'n gallu beirniadu'r Beeb am ddangos y cwestiwn?

PostioPostiwyd: Sad 09 Meh 2007 12:52 am
gan rooney
Positif80 a ddywedodd:Yn bersonol, os oes Duw, dwi'm yn meddwl ei fod o'n un da.


Ni wedi cael rhyddid i ddilyn Duw neu dilyn Satan. Yn anffodus mae rhai pobl yn cael eu swyno gen Satan. Sut fedri di egluro evil gyda dy worldview di? Sut fedri di egluro fod rhywun wedi gwneud rhywbeth ofnadwy fel hyn?

PostioPostiwyd: Sad 09 Meh 2007 12:54 am
gan rooney
S.W. a ddywedodd:
Cywilydd i'r BBC am ddangos y fath sothach- esiampl arall o pa mor warped yw cynulleidfa y raglen yna.


Onid rhaglen fyw ydy Question Time? Os felly sut wyt ti'n gallu beirniadu'r Beeb am ddangos y cwestiwn?
#

Y gynulleidfa sydd yn creu y cwestiynau ond y Beeb sydd yn dewis y cwestiynau.

PostioPostiwyd: Sad 09 Meh 2007 8:59 am
gan S.W.
rooney a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:
Cywilydd i'r BBC am ddangos y fath sothach- esiampl arall o pa mor warped yw cynulleidfa y raglen yna.


Onid rhaglen fyw ydy Question Time? Os felly sut wyt ti'n gallu beirniadu'r Beeb am ddangos y cwestiwn?
#

Y gynulleidfa sydd yn creu y cwestiynau ond y Beeb sydd yn dewis y cwestiynau.


Ia, ond o be dwi hefyd wedi ei weld mae rhai cwestiynau eraill o'r gynulleidfa yn cael eu ychwanegu 'on the spot' hefyd. Dwi'm yn gweld dim o'i le gyda cwestiwn o'r fath yn cael ei ofyn. Dio'm hanner mor 'insenstive' a'r newyddiadurwr yn holi'r McCanns eu hunain yn yr Almaen ddechre'r wsnos.

PostioPostiwyd: Sad 09 Meh 2007 9:56 am
gan Ray Diota
Positif80 a ddywedodd:Gweddiwch cymaint a mynnwch chi, ond yn anffodus dwi'm yn meddwl fydd y plentyn yma'n ddychwelyd adref yn fyw. Mae hi'n siwr o fod wedi marw neu hefo ryw deulu arall bellach.


swnio fel bo ti'n gwbod rwbeth...

Yn bersonol, os oes Duw, dwi'm yn meddwl ei fod o'n un da.


:lol: :lol: :lol:

ma duw'n gutted, odd e di meddwl gofyn am reference...

Re: McCanns a'r pab

PostioPostiwyd: Sad 09 Meh 2007 9:59 am
gan Ray Diota
huwwaters a ddywedodd:George Anwybodus Bush


clyfar :rolio:

PostioPostiwyd: Sad 09 Meh 2007 4:50 pm
gan Positif80
rooney a ddywedodd:
Positif80 a ddywedodd:Yn bersonol, os oes Duw, dwi'm yn meddwl ei fod o'n un da.


Ni wedi cael rhyddid i ddilyn Duw neu dilyn Satan. Yn anffodus mae rhai pobl yn cael eu swyno gen Satan. Sut fedri di egluro evil gyda dy worldview di? Sut fedri di egluro fod rhywun wedi gwneud rhywbeth ofnadwy fel hyn?


Dwi'm yn dilyn yr un ohonyn nhw - mae gen i ymenydd a dwi'n ei defnyddio, ac yn dewis i beidio bod yn ddrwg gan fod gweithredoedd drwg yn cael effaith negyddol ar bobl eraill. Syniad syml - dim rhaid coelio mewn ysbryd holl-alluog i ddod i'r casgliad yna.

Pam bod pobl yn gwneud pethau fel hyn? Pwy a wyr? Natur/magwraeth, efalla? Mae rhai pobl yn dda, eraill yn ddrwg a'r rhan fwyaf ohonom ni'n rywle yn y canol.

Efalla bod Duw yn bodoli, ac os ydi o'n Duw y Beibl (yr un petulant, plentynaidd sydd hefo hanes o ladd a gwrthdweud ei hun) dwi'n fucked .

Mae'r crefydd Cristianaidd (a'r gweddill, mae'n siwr) yn llawn casineb a contradictions, felly pendefynais ymadael a'r brainwashing a gwneud fy newisiadau fy hun.

Mae'r pobl yma hefo ewyllys rydd, ac mae nhw (neu fo/hi) wedi gwneud rywbeth erchyll.

Pwy a wyr beth sy'n gwneud rywun yn ddrwg? Ond dwi'n sicr ddim am esbonio'r peth trwy ddefnyddio syniadau pobl sy'n dilyn Duw sy'n cyfiawnhau lladd eich fab os ydi o'n "rebellious".

Beth bynnag, pam bod y crefyddwyr yn cwyno jest am bod y byd seciwlar wedi cymeryd drosodd, pan wnaethon nhw stwffio byd i fyny am 2000 o flynyddoedd?