Macsen a ddywedodd:Felly fe wnaeth y Duw hollwybodus a hollalluog ei gael o'n anghywir? Roedd rhaid iddo yrru Iesu i wneud yn iawn am ei gamgymeriad cynt o roi ei holl ffydd mewn un tylwyth?
Mae'n debyg fod Duw yn gwybod yr holl amser y byddai'r Iddewon yn methu a byw yn gyfiawn. Ac mae eu profiadau nhw gyda Duw yn dangos i bawb yn y byd cymaint o drafferth cafodd nhw i fyw yn gyfiawn, ac ein bod angen gwaredwr.
Ac hefyd, sut oedd o'n gobeithio y byddai'r Iddewon yn arwain gweddill y byd tuag at Dduw os oedden nhw a) yn rhyfela'n erbyn pobol nad oedd yn ei tylwyth nhw, b) wedi eu cyfyngu i un darn o dir diffaith ymhell iawn o wedill y ddynoliaeth, a c) bod ei llyfr sanctaidd yn cynnwys cyfreithiau oedd yn gymwys iddyn nhw'n unig?
amryw o atebion posib i'r cwestiynau yma, mae'r cyfan wedi ei gofnodi ac yn cyfleu gwersi ysbrydol y mae'r holl fyd yn darllen am heddiw. Yn wir, gellid dadlau yn gryf fod proffwydoliaethau am yr Iddewon yn digwydd yn ein dyddiau ni- yr holocaust, dychwelyd yn 1948, rhyfel 6 diwrnod 1967, Iesu yn Iddew... gellid dadlau fod cynllun Duw wedi gweithio gan iddo ddefnyddio un cenedl fel esiampl, ac yna gyrru Iesu pan roedd yr amser yn iawn i ledaenu'r neges i'r byd yn ystod cyfnod cyfleus i wneud hyn yn ystod amser y Rhufeiniaid
Beth oedd ein cyndadau ni i fod i'w wneud yn ystod y cyfnod yma (yr rhan fwyaf o amser a fu erioed, hyd yn oed os ti'n credu mai dim ond 6 mil oed yw'r byd), gan nad oedd Iddewon yn eu mysg i'w tywys tuag at oleuni yr hollalluog? Sut oedd y celtiaid fu'n llechu yng Nghymru tua 400 BC i fod i fynd i'r nefoedd?
wel fe fu farw Iesu dros bechodau pawb, yn cynnwys y rhai a fu farw cyn i Iesu ddod. Cwestiwn diddorol a dwi ddim yn rhy siwr o'r ateb ar hyn o bryd ond mae'n un werth edrych mewn iddo. Mae gen i ffydd fod Duw yn gyfiawn, ac felly rwy'n siwr fod eglurhad rhywle yn yr ysgrythurau.