rooney a ddywedodd:roedd y bobl yma fod yn esiampl a golau i weddill y byd... Gwnaeth nhw ymdrech ond yn y diwedd ddim digon da, ac felly gyrrodd Duw ei fab Iesu.
Felly fe wnaeth y Duw holl
wybodus a hollalluog ei gael o'n anghywir? Roedd rhaid iddo yrru Iesu i wneud yn iawn am ei gamgymeriad cynt o roi ei holl ffydd mewn un tylwyth?
Ac hefyd, sut oedd o'n gobeithio y byddai'r Iddewon yn arwain gweddill y byd tuag at Dduw os oedden nhw a) yn rhyfela'n erbyn pobol nad oedd yn ei tylwyth nhw, b) wedi eu cyfyngu i un darn o dir diffaith ymhell iawn o wedill y ddynoliaeth, a c) bod ei llyfr sanctaidd yn cynnwys cyfreithiau oedd yn gymwys iddyn nhw'n unig?
Beth oedd ein cyndadau ni i fod i'w wneud yn ystod y cyfnod yma (yr rhan fwyaf o amser a fu erioed, hyd yn oed os ti'n credu mai dim ond 6 mil oed yw'r byd), gan nad oedd Iddewon yn eu mysg i'w tywys tuag at oleuni yr hollalluog? Sut oedd y celtiaid fu'n llechu yng Nghymru tua 400 BC i fod i fynd i'r nefoedd?