Tudalen 3 o 6

PostioPostiwyd: Gwe 15 Meh 2007 11:01 pm
gan rooney
Positif80:
Oes gen ti ddiddordeb deall y Beibl neu yw'n well gen ti dderbyn dehongliadau gwallus gan nutters o'r we sydd ddim yn deall eu Beibl? Wyt ti wedi holi rhywun sydd yn deall y Beibl am y pethau yma sydd yn anodd eu deall?

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 2:02 am
gan Dylan
dw i'n pori fy Meibl ac mae'r dyfyniadau yna i gyd yn iawn. A dydi'u rhoi nhw yn eu cyd-destun fawr caredicach. Mae lot o'r llyfr yna'n ffiaidd (ac ambell i beth fan hyn fan draw yn gwneud stori reit ddifyr). Beth arall sydd i'w ddeall? Ac yn fwy na dim, be'n enw'r tad a'r mab a'r mwnci sydd gan hynny o gwbl a wnelo â'r McCanns?

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 9:23 am
gan rooney
Mae lot o'r llyfr yna'n ffiaidd (ac ambell i beth fan hyn fan draw yn gwneud stori reit ddifyr).


Mae pechod yn wrthyn i Dduw. Yw hyn yn helpu i egluro?

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 10:24 am
gan ffwrchamotobeics
rooney a ddywedodd:
Mae lot o'r llyfr yna'n ffiaidd (ac ambell i beth fan hyn fan draw yn gwneud stori reit ddifyr).


Mae pechod yn wrthyn i Dduw. Yw hyn yn helpu i egluro?


Na. Ti'n siarad nonsens pseud hunangyfiawn eto fyth

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 11:21 am
gan Dylan
wel dw i'n gobeithio nad wyt ti'n gwisgo dillad wedi'u creu o fwy nag un brethyn (er enghraifft) felly, er dy fwyn di. Duw'n mynd yn nyts pan ti'n neud hynny. Rili mynd ar ei dits o.

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 11:49 am
gan rooney
Dylan a ddywedodd:wel dw i'n gobeithio nad wyt ti'n gwisgo dillad wedi'u creu o fwy nag un brethyn (er enghraifft) felly, er dy fwyn di. Duw'n mynd yn nyts pan ti'n neud hynny. Rili mynd ar ei dits o.


y rheolau yma ddim ar gyfer Cristnogion, ond croeso i ti gadw at bob deddf yn Lefiticus os ti'n dymuno :ofn:

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 11:59 am
gan Dylan
waw, ti'n ymwrthod â'r Hen Destament? Gei di roi'r gorau i'r holl falu cachu 'na yn Genesis hefyd felly. Nice one. Croeso i'r oleuedigaeth, frawd!

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 12:37 pm
gan rooney
Dylan a ddywedodd:waw, ti'n ymwrthod â'r Hen Destament? Gei di roi'r gorau i'r holl falu cachu 'na yn Genesis hefyd felly.


Ddim o gwbl! Genesis yw hanfod y doctrin Gristnogol. Pennod 3- cwymp dyn mewn i bechod, pechod mae Iesu bellach wedi talu'r pris amdano ar y groes. Dim angen aberthu anifeiliaid costus i dalu'r pris fel gorchmynodd i'r Israeliaid yn Lefiticus, mae Duw wedi aberthu ei Oen dros bawb... ac mae ei waed yn golchi'n pechodau os yw ni'n barod derbyn Iesu fel ein gwaredwr.

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 12:41 pm
gan Dylan
ond eto dydi deddfau Lefiticus ddim yn ddilys! Waw, ti'n dewis a dethol pa rai o eiriau Duw sy'n berthnasol!

pwy wyt ti dwad, y Pab?

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 12:58 pm
gan rooney
Dylan a ddywedodd:ond eto dydi deddfau Lefiticus ddim yn ddilys! Waw, ti'n dewis a dethol pa rai o eiriau Duw sy'n berthnasol!


dyma'r dehongliad arferol o Lefiticus gan yr eglwysi yn dilyn aberth Crist. Bellach ni'n byw dan y testament newydd. Nid yw moesau Duw yn newid ac felly mae'r deddfau moesol dal mewn grym. Ond mae'r aberthu wedi dod i ben gyda Crist ar y groes ac mae Duw bellach yn delio gyda'r cenhedloedd, nid dim ond gyda'r Iddewon.

Mae Gensis yn lyfr cwbl wahanol ac yn sylfaen i'r holl ddoctrin Gristnogol, yn enwedig felly pennod 3, gan heb i ddyniolaeth ddisgyn mewn i bechod ni fyddai angen i Duw yrru Iesu i farw ar y groes. Wyt ti'n gwadu stad bechadurus dynoliaeth? Yn tydy'r dystiolaeth am y stad yma o'n cwmpas ac wastad wedi bod yn ein hanes?