Tudalen 4 o 6

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 5:36 pm
gan Dylan
felly doedd Duw ddim yn bod yn hollol siriys efo Lefiticus felly? Jôc fach? Pam ddiawl mae'r peth dal i fod yn eich llyfr sanctaidd os nad ydach chi'n ei ystyried yn berthnasol bellach?

ac yn bwysicach oll pam 'dan ni'n trafod hyn mewn edefyn am yrr hogan McCann 'ma?

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 6:02 pm
gan rooney
Dylan a ddywedodd:felly doedd Duw ddim yn bod yn hollol siriys efo Lefiticus felly? Jôc fach? Pam ddiawl mae'r peth dal i fod yn eich llyfr sanctaidd os nad ydach chi'n ei ystyried yn berthnasol bellach?


:)
Gan cyn dyddiau Lefiticus roedd dynoliaeth yn byhafio mewn ffordd ofnadwy, mor ofnadwy unwaith fel y dinistriodd Duw y byd gyda dwr (heblaw Noa a'i deulu). Ac er mwyn ein dysgu i fyw yn well ac adenill perthynas gyda Duw fe ddewisodd Duw un cenedl, yr Israeliaid, i gael perthynas hefo a dod i gytundeb. Ac roedd y bobl yma fod yn esiampl a golau i weddill y byd- mae'r deddfau llym yn ddealladwy wrth ystyried fod pethau'n rhemp cyn hyn. Gwnaeth nhw ymdrech ond yn y diwedd ddim digon da, ac felly gyrrodd Duw ei fab Iesu. Heb Lefiticus, fyddai arwyddocad aberth Iesu ddim yn gwneud cymaint o synnwyr.

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 6:06 pm
gan Macsen
rooney a ddywedodd:Ond mae'r aberthu wedi dod i ben gyda Crist ar y groes ac mae Duw bellach yn delio gyda'r cenhedloedd, nid dim ond gyda'r Iddewon.

Ond yn Matthew 15:24 mae Iesu'n dweud: "Dim ond at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll, ces i fy anfon." Dau linell wedyn mae o'n dweud am bobol sydd ddim yn Iddewon: "Dydy ddim yn deg taflu bwyd y plant i'r cŵn."

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 6:17 pm
gan rooney
Macsen a ddywedodd:Ond yn Matthew 15:24 mae Iesu'n dweud: "Dim ond at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll, ces i fy anfon." Dau linell wedyn mae o'n dweud am bobol sydd ddim yn Iddewon: "Dydy ddim yn deg taflu bwyd y plant i'r cŵn."


Cwestiwn teg. Cyn y croeshoelio, pobl Israel ('plant Duw') yr oedd Iesu yn agor eu llygaid. Ar ol y croeshoelio, roedd y disgyblion i agor llygaid y cenhedloedd. Dau gynulleidfa wahanol iawn oedd yr Iddewon a'r cenhedloedd. Fuasai'r cenhedloedd ddim wedi deall Iesu fel yr Iddewon, gan nad oedd nhw'n gwybod am yr ysgrythurau. Roedd yr Iddewon yn gwybod yr ysgrythurau fel cefn eu llaw ac roedd Iesu'n gallu dangos iddynt trwy ei weithredoedd a'r ysgrythurau mae ef oedd eu Messeiah... er fod nifer yn methu derbyn hyn.

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 8:35 pm
gan ffwrchamotobeics
rooney a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:waw, ti'n ymwrthod â'r Hen Destament? Gei di roi'r gorau i'r holl falu cachu 'na yn Genesis hefyd felly.


Ddim o gwbl! Genesis yw hanfod y doctrin Gristnogol. Pennod 3- cwymp dyn mewn i bechod, pechod mae Iesu bellach wedi talu'r pris amdano ar y groes. Dim angen aberthu anifeiliaid costus i dalu'r pris fel gorchmynodd i'r Israeliaid yn Lefiticus, mae Duw wedi aberthu ei Oen dros bawb... ac mae ei waed yn golchi'n pechodau os yw ni'n barod derbyn Iesu fel ein gwaredwr.


Cer allan heno, peint neu ddau a falle snog gyda Merch ddiwedd nos. Neith fyd o les.

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 8:52 pm
gan Nanog
ffwrchamotobeics a ddywedodd:
Cer allan heno, peint neu ddau a falle snog gyda Merch ddiwedd nos. Neith fyd o les.


Rhywbeth fel hynti'n meddwl? Ych a fi!

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 8:53 pm
gan Macsen
rooney a ddywedodd:roedd y bobl yma fod yn esiampl a golau i weddill y byd... Gwnaeth nhw ymdrech ond yn y diwedd ddim digon da, ac felly gyrrodd Duw ei fab Iesu.

Felly fe wnaeth y Duw hollwybodus a hollalluog ei gael o'n anghywir? Roedd rhaid iddo yrru Iesu i wneud yn iawn am ei gamgymeriad cynt o roi ei holl ffydd mewn un tylwyth?

Ac hefyd, sut oedd o'n gobeithio y byddai'r Iddewon yn arwain gweddill y byd tuag at Dduw os oedden nhw a) yn rhyfela'n erbyn pobol nad oedd yn ei tylwyth nhw, b) wedi eu cyfyngu i un darn o dir diffaith ymhell iawn o wedill y ddynoliaeth, a c) bod ei llyfr sanctaidd yn cynnwys cyfreithiau oedd yn gymwys iddyn nhw'n unig?

Beth oedd ein cyndadau ni i fod i'w wneud yn ystod y cyfnod yma (yr rhan fwyaf o amser a fu erioed, hyd yn oed os ti'n credu mai dim ond 6 mil oed yw'r byd), gan nad oedd Iddewon yn eu mysg i'w tywys tuag at oleuni yr hollalluog? Sut oedd y celtiaid fu'n llechu yng Nghymru tua 400 BC i fod i fynd i'r nefoedd?

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 10:35 pm
gan ffwrchamotobeics
Nanog a ddywedodd:
ffwrchamotobeics a ddywedodd:
Cer allan heno, peint neu ddau a falle snog gyda Merch ddiwedd nos. Neith fyd o les.


Rhywbeth fel hynti'n meddwl? Ych a fi!

Ai. Neu rhwbeth ddath o'r mor yn wreiddiol e.e Delwedd

..ond, er mwyn chware teg i Arch Ffwndamentalydd Maes E, rhaid pwysleisio hwn, pobl noethlymun eto fyth

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 10:41 pm
gan Positif80
ffwrchamotobeics a ddywedodd:Cer allan heno, peint neu ddau a falle snog gyda Merch ddiwedd nos. Neith fyd o les.


Ydi hyn wir yn bosib? Fel arfer mae nhw'n ffansio fy mrawd neu'n meddwl fy mod i'n ryw fath o psycho. Tydyn nhw ddim yn bell oddiar y marc, ond 'sa ti'n meddwl basa ryw ferch dewr yn cymeryd un am y tim. :?

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 10:54 pm
gan rooney
Macsen: llawer iawn o gwestiynau... oes gen ti ddiddordeb yn yr atebion?

Felly fe wnaeth y Duw hollwybodus a hollalluog ei gael o'n anghywir? Roedd rhaid iddo yrru Iesu i wneud yn iawn am ei gamgymeriad cynt o roi ei holl ffydd mewn un tylwyth?


Ddim yn deall y pwynt fan hyn?
Edrych yn ol a mae'r cyfan yn gwneud synnwyr.