Tudalen 5 o 6

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 11:03 pm
gan ffwrchamotobeics
Positif80 a ddywedodd:
Ydi hyn wir yn bosib? Fel arfer mae nhw'n ffansio fy mrawd neu'n meddwl fy mod i'n ryw fath o psycho. Tydyn nhw ddim yn bell oddiar y marc, ond 'sa ti'n meddwl basa ryw ferch dewr yn cymeryd un am y tim. :?



Ddim cweit yn siwr am pa ferch dewr na marc na tim ti'n son am. Ond mi gei gymorth,gwen a chysur gan hwn, neu'r Sunday Sport, efallai

PostioPostiwyd: Sad 16 Meh 2007 11:06 pm
gan ffwrchamotobeics
rooney a ddywedodd:Macsen: llawer iawn o gwestiynau... oes gen ti ddiddordeb yn yr atebion?

Felly fe wnaeth y Duw hollwybodus a hollalluog ei gael o'n anghywir? Roedd rhaid iddo yrru Iesu i wneud yn iawn am ei gamgymeriad cynt o roi ei holl ffydd mewn un tylwyth?


Ddim yn deall y pwynt fan hyn?


Hei rooney-ti dal heb fynd allan? O wel, there's plenty mor fish in the sea

PostioPostiwyd: Sul 17 Meh 2007 6:48 pm
gan Macsen
rooney a ddywedodd:Macsen: llawer iawn o gwestiynau... oes gen ti ddiddordeb yn yr atebion?

Wrth gwrs fod gen i, neu fyddwn i'm yn cymryd rhan yn y drafodaeth.

rooney a ddywedodd:Ddim yn deall y pwynt fan hyn?
Edrych yn ol a mae'r cyfan yn gwneud synnwyr.

Dyw e ddim yn gwneud synnwyr. Mi wnes ti ddweud bod Duw wedi gorfod rhoi ei fab ar y ddaear am ei fod wedi rhoi ei ffydd yn yr Iddewon ond "doedden nhw ddim digon da" (dy eiriau di) - oni ddylai Duw hollwybodus (sy'n gwybod be fydd yn digwydd yn y dyfodol) fod wedi rhagweld methiant yr Iddewon yn hyn o beth a gyrru ei fab peth cyntaf? Yn enwedig gan nad oedd gan y mwyafrif o bobol y byd ddim ffordd o fynd i'r nefoedd cyn tua 30AD, am nad oedden nhw'n Iddewon?

PostioPostiwyd: Sul 17 Meh 2007 7:38 pm
gan rooney
Macsen a ddywedodd:Dyw e ddim yn gwneud synnwyr. Mi wnes ti ddweud bod Duw wedi gorfod rhoi ei fab ar y ddaear am ei fod wedi rhoi ei ffydd yn yr Iddewon ond "doedden nhw ddim digon da" (dy eiriau di) - oni ddylai Duw hollwybodus (sy'n gwybod be fydd yn digwydd yn y dyfodol) fod wedi rhagweld methiant yr Iddewon yn hyn o beth a gyrru ei fab peth cyntaf? Yn enwedig gan nad oedd gan y mwyafrif o bobol y byd ddim ffordd o fynd i'r nefoedd cyn tua 30AD, am nad oedden nhw'n Iddewon?


Does gen i ddim amser i allu ymateb i'r holl bwyntiau yma, yn anffodus. Ond fe wnaf y pwynt yma: mae cyfrifoldeb ar yr unigolyn i ffeindio allan yr ateb i'r fath gwestiynau. Nid yw diwinyddiaeth na'r Beibl yn hawdd. Os yw'r unigolyn gyda gwir ddiddordeb i ddadgloi'r Beibl fe geith yr atebion a'r wobr.

Cynghoraf dy fod yn mynd ar gwrs alpha, darllen unrhywbeth gan athro beibl da fel David Pawson, ebostio'r eglwysi/capeli hefo cwestiynau, siarad hefo gweinidogion/ficeriaid, darllen sylwebaethau (digon ar y we)... unrhywbeth yn well na maes-e mae'n debyg (!), pob lwc.

PostioPostiwyd: Sul 17 Meh 2007 7:53 pm
gan Macsen
Hyd y gwela'i, dim ond un cwestiwn syml sydd yma a rydw i'n amheus o'r ffaith nad oes gen ti fel Cristion atebion parod iddo. Falle am nad oeddet ti wedi ei ystyried yn y gorffennol?

Rydw i wedi fy magu mewn teulu Cristnogol, wedi gwrando ar dros 800 pregeth yn fy mywyd, wedi rhannu fflatiau gyda Cristnogion yn y coleg, ac yn dal i wneud heddiw, ac wedi darllen llyfrau mae nhw wedi cynnig i mi ar y pynciau rhain.

Dwi'n credu bod yr uchod yn ansoddi "gwir ddiddordeb" - ond hyd yn hyn dyw'r atebion heb ddod i law.

Pan ydw i'n cael ateb i gwestiwn anodd mae o fel arfer yn amrywiad ar "dwi'm yn gwybod, ond mae Duw yn". Ond beth sydd wir wedi achosi pryder i mi yw nid y diffyg atebion ond yr amharodrwydd ar ran y cristnogion ydw i wedi gofyn am eu cyngor i wynebu'r cwestiynnau.

PostioPostiwyd: Sul 17 Meh 2007 7:58 pm
gan rooney
Macsen a ddywedodd:Rydw i wedi fy magu mewn teulu Cristnogol, wedi gwrando ar dros 800 pregeth yn fy mywyd,


fedra i ond cynghori David Pawsonos am ddeallusrwydd mwy critical, mae'r dyn yna'n llawn gwybodaeth na gei di mewn 800 pregeth ar y Sul 8)
Pan ydw i'n cael ateb i gwestiwn anodd mae o fel arfer yn amrywiad ar "dwi'm yn gwybod, ond mae Duw yn". Ond beth sydd wir wedi achosi pryder i mi yw nid y diffyg atebion ond yr amharodrwydd ar ran y cristnogion ydw i wedi gofyn am eu cyngor i wynebu'r cwestiynnau.


yn anffodus mae deallusrwydd llawer mor arwynebol, yn aml mae ateb ar gael ond anodd ffeindio rhywun sydd hefo deallusrwydd digon da i'w roi

PostioPostiwyd: Sul 17 Meh 2007 8:06 pm
gan Macsen
rooney a ddywedodd:yn anffodus mae deallusrwydd llawer mor arwynebol, yn aml mae ateb ar gael ond anodd ffeindio rhywun sydd hefo deallusrwydd digon da i'w roi

:!:

Dw i heb ddarganfod yr un Cristion yng Nghymru sy'n gallu ateb y cwestiynnau yma. Os nad yw'r rhelwy o Gristnogion yn abl i ddeall y Beibl pam eu bod nhw mor barod i roi eu ffydd hollol ynddo?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Meh 2007 10:46 pm
gan rooney
Macsen a ddywedodd:Felly fe wnaeth y Duw hollwybodus a hollalluog ei gael o'n anghywir? Roedd rhaid iddo yrru Iesu i wneud yn iawn am ei gamgymeriad cynt o roi ei holl ffydd mewn un tylwyth?


Mae'n debyg fod Duw yn gwybod yr holl amser y byddai'r Iddewon yn methu a byw yn gyfiawn. Ac mae eu profiadau nhw gyda Duw yn dangos i bawb yn y byd cymaint o drafferth cafodd nhw i fyw yn gyfiawn, ac ein bod angen gwaredwr.

Ac hefyd, sut oedd o'n gobeithio y byddai'r Iddewon yn arwain gweddill y byd tuag at Dduw os oedden nhw a) yn rhyfela'n erbyn pobol nad oedd yn ei tylwyth nhw, b) wedi eu cyfyngu i un darn o dir diffaith ymhell iawn o wedill y ddynoliaeth, a c) bod ei llyfr sanctaidd yn cynnwys cyfreithiau oedd yn gymwys iddyn nhw'n unig?


amryw o atebion posib i'r cwestiynau yma, mae'r cyfan wedi ei gofnodi ac yn cyfleu gwersi ysbrydol y mae'r holl fyd yn darllen am heddiw. Yn wir, gellid dadlau yn gryf fod proffwydoliaethau am yr Iddewon yn digwydd yn ein dyddiau ni- yr holocaust, dychwelyd yn 1948, rhyfel 6 diwrnod 1967, Iesu yn Iddew... gellid dadlau fod cynllun Duw wedi gweithio gan iddo ddefnyddio un cenedl fel esiampl, ac yna gyrru Iesu pan roedd yr amser yn iawn i ledaenu'r neges i'r byd yn ystod cyfnod cyfleus i wneud hyn yn ystod amser y Rhufeiniaid

Beth oedd ein cyndadau ni i fod i'w wneud yn ystod y cyfnod yma (yr rhan fwyaf o amser a fu erioed, hyd yn oed os ti'n credu mai dim ond 6 mil oed yw'r byd), gan nad oedd Iddewon yn eu mysg i'w tywys tuag at oleuni yr hollalluog? Sut oedd y celtiaid fu'n llechu yng Nghymru tua 400 BC i fod i fynd i'r nefoedd?


wel fe fu farw Iesu dros bechodau pawb, yn cynnwys y rhai a fu farw cyn i Iesu ddod. Cwestiwn diddorol a dwi ddim yn rhy siwr o'r ateb ar hyn o bryd ond mae'n un werth edrych mewn iddo. Mae gen i ffydd fod Duw yn gyfiawn, ac felly rwy'n siwr fod eglurhad rhywle yn yr ysgrythurau.

PostioPostiwyd: Sad 23 Meh 2007 9:26 am
gan Cwlcymro
rooney a ddywedodd: Mae gen i ffydd fod Duw yn gyfiawn, ac felly rwy'n siwr fod eglurhad rhywle yn yr ysgrythurau.


Diffiniad perffaith o "blind faith"

PostioPostiwyd: Sad 23 Meh 2007 2:45 pm
gan rooney
Cwlcymro a ddywedodd:Diffiniad perffaith o "blind faith"


Ddim o gwbl. Fedra ti ddim bod yn fwy anghywir.