Tudalen 1 o 1

Stori Rhyfedd yn y Mail

PostioPostiwyd: Maw 12 Meh 2007 8:48 am
gan Positif80
Yn ol y Hang 'Em, Flog 'em Not in my Backyard! Daily Mail, mae hogan 13 oed o Leicester wedi crogi ei hun ar ol dioddef misoedd o fwlio am ei chymreictod.

Trist bod pethau fel hyn, a throseddau yn ymwneud a hiliaeth dal yn digwydd mewn ysgolion.

PostioPostiwyd: Maw 12 Meh 2007 12:36 pm
gan Madrwyddygryf
Wel o be onni ddeall yn y Western Mail, dim ond un agwedd o'r bwlio oedd pigio arni am ei chymreictod. Roedd i'n cael ei thargedu dwi'n meddwl am weithio'n galed yn yr ysgol.

Cael eich bwlio a targedu oherwydd roeddech yn rhoi ymdrech a gwaith caled mewn i'ch gwaith ysgol yw'r gwir siom.

PostioPostiwyd: Maw 12 Meh 2007 2:21 pm
gan Positif80
Madrwyddygryf a ddywedodd:Cael eich bwlio a targedu oherwydd roeddech yn rhoi ymdrech a gwaith caled mewn i'ch gwaith ysgol yw'r gwir siom.


Hynna yw un o broblemau elfen fawr iawn o gymdeithas - os nad ydych yn siarad fel chav, yn snob ydych chi. Nid yw Prydain yn hoff o bobl sy'n ceisio llwyddo mewn bywyd, oherwydd diogi a chenfigen yw natur nifer fawr ohonom ni.

Dwi wedi cael pobl yn fy meirniadu am beidio siarad Cymraeg hefo acen gryf gogleddol, er taswn i yn 'swn i'n rhagrithiwr.

PostioPostiwyd: Maw 12 Meh 2007 2:26 pm
gan Ray Diota
Positif80 a ddywedodd:Dwi wedi cael pobl yn fy meirniadu am beidio siarad Cymraeg hefo acen gryf gogleddol, er taswn i yn 'swn i'n rhagrithiwr.


pwy sy'n beirniadu ti am hynna!!??

Ma 'swots' wastad wedi cael eu bwlio ondyn nhw? Dyw e ddim yn ffenomenon newydd nagyw?

Stori drist.

PostioPostiwyd: Maw 12 Meh 2007 3:05 pm
gan Positif80
Fr mrawd, fi chwiorydd, dwy ddynes mewn tafarn, ffrind cyn cariad fy mrawd a ryw ferch o'n i'n mynd allan hefo at the last count. :crechwen:

Er, pan ddechreuais i ddysgu'r Gymraeg, roedd gen i acen ychydig bach yn Brummie - o leiaf roedd yr acen yna yn wirioneddol ddoniol, felly tasa rywun yn tynnu 'nghoes am hynna, dim problem.


Dwi'n cytuno bod swots wedi cael amser caled yn yr ysgol ers yr ysgol cyntaf un; ond eto am ryw reswm mae straeon fel hyn yn frawychus bob tro maen nhw digwydd.