Refferendwm yn yr Alban

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Refferendwm yn yr Alban

Postiogan sanddef » Sul 17 Meh 2007 4:03 am

Bydd y Ceidwadwyr yn cefnogi cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban. Gallai'r refferendwm gael ei gynnal yn 2008.

Gweler
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Macsen » Sul 17 Meh 2007 12:11 pm

Several Tory MSPs are backing the move, claiming the poll - which is likely to reject independence three to one - would "shoot the Nationalists' fox".

Ho! Ho! Dyna mae nhw'n ei honni. Gadael y giat ar agor a chwibanu wrth i'r llwynog fwyta'r ieir a wedyn dweud 'wps! wnaethon ni'm trio!' Mae nhw'n dweud eu bod nhw'n erbyn annibyniaeth, ond byddai'n gwneud ennill pwer yn San Steffan llawer haws.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cwlcymro » Sul 17 Meh 2007 12:13 pm

Dydi arweinydd y Toriaid yn yr Alban ddim yn cytuno a'r syniad ddo, yn ol y Scotsman beth bynnag.

Wrth gwrs mi fysa hyn, os sa Llafur yn bod yn glyfar, yn galli achosi penbleth i'r SNP.

Os fysa'r Toriaid a Llafur yn dod a papur gerbron Senedd yr Alban yn mynnu refferendwm o fewn y flwyddyn, mi fydd raid i'r SNP gytuno. A di'r SNP yn sicr ddim isho'r fath etholiad tan ei bod nhw wedi cael cyfla i ddangos y galla nhw redag yr Alban (h.y. tan 2010 o leia)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan sanddef » Sul 17 Meh 2007 12:49 pm

Does dim diddordeb gan y Toriaid i gydweithio efo Llafur. Mae'r ffaith fod yr SNP yn gallu llywodraethu gyda lleiafrif yn dangos ewyllys da y Toriaid, nid ewyllys da Llafur a'r Lib Dems.

Wrth gwrs, mae "ewyllys da" y Toriaid yn arwydd o faint mae nhw eisiau cadw Llafur allan.

Wrth gwrs, wrth basio refferendwm, dim ond yr SNP byddai'n ymgyrchu dros 'Ie'.

Peth diddorol arall i'w gofio yw dim ond cwestiwn y refferendwm oedd yn rhwystro'r pleidiau eraill rhag drafod ffurfio clymblaid efo Salmond.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Rhods » Mer 20 Meh 2007 12:23 pm

Dwi o blaid gweld refferendwm yn yr Alban ar annibyniaeth , bendant. Gan bod yr SNP sy mewn llywodraaeth, mae ond yn iawn bod nhw yn cynnal y refferendwm. A fydd ymgyrch 'ie' yn ei chipio? dwi ddim yn shwr, er wrth feddwl am y peth, sa ni am ennill arian ar hyn a mynd i'r bwcis, sa ni yn rhoi bet ar yr ymgyrch 'na' iw ennill - dyna fy ngut feeling Ma lot o son di bod am annibynaeth yn yr Alban, a mae ond yn iawn bod na refferndwm ar hyn i weld yn union pa cyfeirad ma'r Albanwyr am fynd..

Os mae 'ie' fydd hi - wel falle y cawn ni'r Cymry peth(neu lot!) o subsidy yr £8billion ma nhw yn cael o Lloegr yn flynyddol o dan y barnett fformiwla! Mwy o arian i ni o bosib? Gret! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Griff-Waunfach » Mer 20 Meh 2007 1:11 pm

Rhods a ddywedodd:
Os mae 'ie' fydd hi - wel falle y cawn ni'r Cymry peth(neu lot!) o subsidy yr £8billion ma nhw yn cael o Lloegr yn flynyddol o dan y barnett fformiwla! Mwy o arian i ni o bosib? Gret! :winc:


Ond rhods oni yw'r Albanwyr yn haeddianol o arian oddi wrth y wladwriaeth mae nhw'n perthyn iddi ar hyn o bryd (er dwi'n cydnabod bod yr alban yn cael mwy per capita na lloegr), ond sai'n meddwl bod lloegr yn sybsideisio gwerth £8biliwn
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan S.W. » Mer 20 Meh 2007 1:44 pm

£8biliwn o subsidy Rhods? Lle ges di'r ffigwr yne?

Mae'r Albanwyr yn talu treth fel y gweddill ohonom. Mae'r DU hefyd yn derbyn nifer sylweddol dros ben o refeniw o'r ffynhonellau olew ym Mor y Gogledd. Mae nifer o Unoliaethwyr Albanaidd hyn yn oed yn derbyn mae cyfranwyr i gyllid y Trysorlys yw'r Alban nid 'derbynydd'. Yr unig pobl sy'n dadlau fel arall ydy Saeson Gwrth Albanaidd sydd just yn benderfynol bod y Saeson yn rhoi pres nhw i ni i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Rhods » Mer 20 Meh 2007 1:45 pm

Griff-Waunfach a ddywedodd:
Rhods a ddywedodd:
Os mae 'ie' fydd hi - wel falle y cawn ni'r Cymry peth(neu lot!) o subsidy yr £8billion ma nhw yn cael o Lloegr yn flynyddol o dan y barnett fformiwla! Mwy o arian i ni o bosib? Gret! :winc:


Ond rhods oni yw'r Albanwyr yn haeddianol o arian oddi wrth y wladwriaeth mae nhw'n perthyn iddi ar hyn o bryd (er dwi'n cydnabod bod yr alban yn cael mwy per capita na lloegr), ond sai'n meddwl bod lloegr yn sybsideisio gwerth £8biliwn


£1600 y person yn Alban yn fwy na person yn Lloegr....yn ol y BBC odd y ffigwr o £8biliwn - ges ir ffigwr o nhw. £1000 y person yn fwy yng Nghymru na person yn Lloegr.... ond sa fe yn neis sa fe yn £1600 fel sydd da'r Scots!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan S.W. » Mer 20 Meh 2007 1:52 pm

Olew Rhods, ym Mor y Gogledd - mae on cael ei lyncu gan y Tryorlys. Mae'r trysorlys yn dibynnu'r drwm ar y refeniw yma. Ffynhonellau'r Alban ydy'r rhaid, felly onid ydyw'n iawn bod yr Albanwyr yn cael eu siar (a dan nhw'm yn cael yr holl siar o bell ffordd) o'r arian hwn am eu ffynhonellau?

Siwr bod rhywfaint o ddiolch yno am fod yn fodlon cadw'r Trident ymhell o Llundain a'r dinasoedd eraill i gyd hefyd (wrth gwrs dydy Glasgow sydd nepell o Faslane ddim yn ddinas fawr o bell ffordd! :rolio: )
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Rhods » Mer 20 Meh 2007 1:55 pm

Ffigyrau yn y Western mail ddoe -
Mae'r llywodraeth yn gwario
£6762 y pen yn Lloegr
£7666 y pen yng Nghymru (£904 yn fwy na Lloegr)
£8265 y pen yn yr Alban (£1503 yn fwy na Lloegr)

Os ma maths fi yn gywir, ma Alban yn cael £599 y pen yn fwy na ni !
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron