Refferendwm yn yr Alban

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhods » Mer 20 Meh 2007 2:00 pm

S.W. a ddywedodd:Olew Rhods, ym Mor y Gogledd - mae on cael ei lyncu gan y Tryorlys. Mae'r trysorlys yn dibynnu'r drwm ar y refeniw yma. Ffynhonellau'r Alban ydy'r rhaid, felly onid ydyw'n iawn bod yr Albanwyr yn cael eu siar (a dan nhw'm yn cael yr holl siar o bell ffordd) o'r arian hwn am eu ffynhonellau?

Siwr bod rhywfaint o ddiolch yno am fod yn fodlon cadw'r Trident ymhell o Llundain a'r dinasoedd eraill i gyd hefyd (wrth gwrs dydy Glasgow sydd nepell o Faslane ddim yn ddinas fawr o bell ffordd! :rolio: )


Mi wyt yn iawn fan hyn - dadl teg. Ond ma arian yr olew ddim gymaint ac arian a mae Alban yn cael dan y barnett fformiwla....a ma prisiau yn amrywio bob blwyddyn. Sgena i ddim y ffigyrau - ond tria'i cael nhw....a fydd adnewyddu trident nawr yn digwydd yn yr Alban gan bod yr SNP (sydd yn llywodraethu) yn erbyn? A alle nhw rhoi stop i hyn? Dwi ddim yn gwbod fy hunan i.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan S.W. » Mer 20 Meh 2007 2:17 pm

Dwi'n amau gall Holyrood atal cadw Trident 2 yn yr Alban. Mater i San Steffan ydy Amddiffyn, a mae'r safle yn cyflogi lot o staff - Albanwyr di lot wrth reswm. Ond, gall godi'r galw am annibyniaeth ymhlith nifer o Albanwyr os dan nhw'n gweld bod eu senedd nhw wedi cael fetoio gan llywodraeth Prydain.

Does neb wedi llwyddo i ddod o hyd i 'breakdown' ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban o'r holl arian mae pob gwlaid yn ei gyfrannu i'r trysorlys yn nhermau taliadau treth uniongyrchol, trethi anuniongyrchol a refeniw ychwanegol megis Olew.

Ond, mae nifer o pobl, gan gynnwys aelodau o'r Blaid Geidwadol yn yr Alban yn derbyn bod yr Alban yn rhoi mwy i mewn i'r Undeb nag y maent yn ei gymryd allan mewn gwirionedd. Felly, mewn annibyniaeth i'r Alban, gall Cymru fod yn waeth os dan ni'n aros fel rhan o'r undeb.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Rhods » Mer 20 Meh 2007 2:45 pm

Sgenna i ddim problem o gwbl os ma Alban yn mynd yn annibynol - ma hynny yn fater ir Albanwyr. Pwy a wyr? Falle fydd yna fwy o arian ar gael i Gymru os fydd Alban yn yn mynd ar ben ei hun...ond yr unig beth bydda i yn teimlo yn anghyffyrffus gyda ac yn poeni amdano os ma Alban yn mynd ar ei hunain yw'r hyn fydd yn weddill o'r Deyrnas Unedig - beth bydd ein enw newydd? The kingdom of England and Wales??? :rolio: A
gawn ni ein llyncu?

Ma Cymru yn neud yn dda or barnett fformiwla fel ma hi - er dim cystal ar Alban. Efallai fydd gyda ni sefyllfa hyd yn oed mewn blynyddoedd i ddod ble fe fydd yna refiw or barnett fformiwla - a falle fydd Cymru yn colli allan - pwy a wyr? Fe fydd y gol posts yn newid wedyn o bosib a falle fydd gan y lobi pro-annibynaieth ddadl cryf iawn os da ni yn colli allan. Tan i hynny newid, dwi ddim yn gweld unrhyw pwynt mewn newid pethe. Yn amlwg - senedd huna-lywodraethol cryf - ie ond dim annibyniaeth ar hyn o bryd - byddai yn beth anghyfrifol iw wneud oblegid y golled ariannol byddwn yn gwynebu - ma hyd yn oed Plaid Cymru ddim yn gweld annibyniaeth ar yr agenda gwleidyddol ar y foment. Sori - Alban da ni yn siarad am - ond fi jyst neud y gymhariaeth da Cymru etc.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron